Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 12 Chwefror

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd: Arolygiaeth Gofal Cymru arolygiad o Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; penodi cyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Fitzalan yn brentisiaid ar gyfer ysgol newydd.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Arolygiaeth Gofal Cymru arolygiad o Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd

Mae adroddiad wedi'i gyhoeddi am yr arolygiad diweddar o Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Wedi'i gynnal ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020, edrychodd yr arolygiad ar ba mor dda y mae'r gwasanaethau cymdeithasol plant wedi gwneud cynnydd o ran gwella, a pha mor dda y mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn gyffredinol yn parhau i helpu a chefnogi plant ac oedolion.

Roedd yr arolygiad yn canolbwyntio ar dri thrywydd ymholi allweddol: yn gyntaf, pa mor dda y mae'r Cyngoryn cyflawni ei swyddogaethau statudol i gadw pobl yn ddiogel a hyrwyddo lles yn ystod y pandemig; yn ail, pa mor dda y mae'r Cyngoryn darparu cymorth, gofal a chymorth cynnar, a phrosesau pontio di-dor rhwng gwasanaethau i blant anabl a'u teuluoedd; ac, yn drydydd, yr hyn sy'n cael ei wneudi atal yr angen i blant ddod i ofal.

Mae AGC yn cydnabod bod uwch reolwyr ac aelodau arweiniol wedi cyflwyno diwylliant newydd o ddisgwyliadau a safonau uwch mewn gofal cymdeithasol, a bod yr awdurdod lleol, trwy weithio mewn partneriaeth, yn ymgysylltu â'i holl adrannau a phartneriaid perthnasol eraill i hyrwyddo canlyniadau lles. Mae'n nodi bod y partneriaethau strategol hyn wedi datblygu gydag uchelgais gyffredin o wella'r ddarpariaeth o wasanaethau di-dor a chynaliadwy cymaint â phosibl, a bod Aelodau'r Cabinet ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant yn wybodus, yn deall y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau, ac yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i bobl.

Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y Cyngor, yn ystod y pandemig, wedi dangos bod angen newid ac addasu gwasanaethau i adlewyrchu heriau sydd newydd eu nodi. Mae hyn yn cynnwys yr angen am arbenigedd iechyd meddwl yn y gwasanaethau oedolion a'r gwasanaethau plant. Roedd hefyd yn cydnabod bod technoleg newydd yn cael ei defnyddio'n greadigol i fynd i'r afael ag unigrwydd ac allgáu cymdeithasol, er enghraifft roedd Swyddogion Ymgysylltu'r Gwasanaethau Byw'n Annibynnol yn cefnogi pobl i ddefnyddio dyfeisiau digidol i gadw mewn cysylltiad, ac yn y gwasanaethau plant mae adolygiadau rhithwir a gynhelir trwy ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wedi helpu i ymgysylltu â phobl ifanc.

Canfu'r tîm arolygu nad oedd unrhyw faterion amddiffyn plant neu ddiogelu i'w codi a bod lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal yn ddiogel wedi cael ei gydnabod fel blaenoriaeth gan yr awdurdod lleol. Mae'r gwaith o foderneiddio'r Gwasanaeth Maethu yn parhau gyda'r nod o wella canlyniadau i blant a phobl ifanc, ac mae'r gwaith o recriwtio gofalwyr maeth yn barhaus wedi cynyddu nifer ac amrywiaeth y lleoliadau mewnol.

Meddai'r Cynghorydd Graham Hinchey, yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, Cyngor Caerdydd,  "Mae'r adroddiad hwn yn cydnabod y ffordd y mae'r Gwasanaethau Plant wedi cael eu hadlunio i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal, a bod gwasanaethau fel y Ganolfan Cymorth Cynnar a Gwasanaeth Rhianta Caerdydd wedi'u datblygu i sicrhau bod gwasanaethau'n dod at ei gilydd i roi'r cymorth cywir i'r bobl iawn ar yr adeg iawn.

"Cydnabu'r arolygwyr gyfeiriad strategol clir Caerdydd ar gyfer y gwasanaethau oedolion a'r gwasanaethau plant. Er bod y ffordd y mae cymorth yn cael ei roi mewn ymateb i'r pandemig wedi creu heriau, mae ein timau wedi bod yn rhagweithiol ac yn arloesol o ran eu dull gweithredu ac rydym yn parhau i nodi cryfderau a'r meysydd hynny y mae angen eu gwella."

Amlygodd yr arolygiad enghreifftiau cadarnhaol o ddulliau amlasiantaeth o reoli risg a thimau amlddisgyblaeth yn cydweithio yn ystod y pandemig i rannu data a gwybodaeth, gan sicrhau bod y risgiau i bobl â'r anghenion mwyaf cymhleth yn cael eu rheoli. Nodwyd bod perthynas dda ac effeithiol â'r Heddlu, y Bwrdd Iechyd, Addysg a'r trydydd sector wedi galluogi datblygu partneriaethau strategol effeithiol rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a all wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau a sicrhau gwell canlyniadau i bobl.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:  "Mae adroddiad AGC yn rhoi darlun cytbwys o'r gwasanaethau cymdeithasol, a sut mae'r Cynghorydd Hinchey a finnau, ochr yn ochr ag uwch arweinwyr, yn gyrru diwylliant o ragoriaeth o fewn y gwasanaethau cymdeithasol i godi safonau a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu sy'n bodloni canlyniadau sy'n bwysig i bobl.  O ran y gwasanaethau oedolion, mae'r adroddiad yn gadarnhaol gan nodi llawer o gryfderau. Byddwn yn ymateb i'r gwendidau y nodwyd bod angen eu gwella fel rhan o'n cynlluniau gwella."

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 11 Chwefror

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  96,759.

 

Grwpiau Blaenoriaeth:

Staff cartrefi gofal: 3,962

Preswylwyr cartrefi gofal: 1,759

80 oed a hŷn: 18,244

Staff gofal iechyd: 21,828

Staff Gofal Cymdeithasol: 7,186

75-79: 12,084

70-74: 14,145

Eithriadol o agored i niwed yn glinigol: 8,057

Grwpiau eraill o fewn grwpiau blaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (e.e. 65-69): 9,494

 

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd ar  wefan Cyngor Caerdydd.

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (01 Chwefror - 07 Chwefror)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

11 Chwefror 2021, 09:00

 

Achosion: 357

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 97.3 (Cymru: 102.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,283

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,167.3

Cyfran bositif: 8.3% (Cymru: 8.7% cyfran bositif)

 

Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau: Penodi cyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Fitzalan yn brentisiaid ar gyfer ysgol newydd

Mae dau gyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi sicrhau cyflogaeth gyda Kier, y contractwr a ddewiswyd i gyflwyno'r ysgol newydd sbon a fydd yn cymryd lle Ysgol Uwchradd Fitzalan bresennol, yn ardal Treganna'r ddinas.

Mae Kaya Emmanuel a Jayden Singh Landa wedi cael eu derbyn ar Raglen Prentisiaeth Gradd Kier, cwrs pum mlynedd sy'n cyfuno profiad gwaith ac astudio ar gyfer cymhwyster BSc cydnabyddedig, tra'n ennill cyflog cystadleuol.

Gan ddechrau ar y safle y mis hwn, bydd y ddau brentis yn gweithio'n rhan o'r tîm sy'n gyfrifol am godi'r ysgol newydd, gan gyflawni amrywiaeth o rolau megis arolygu meintiau, rheoli adeiladu, datblygu busnes a modelu gwybodaeth adeiladu (BIM).

Fel cyn-ddisgyblion, mae eu cysylltiad â'r ysgol yn golygu y byddant hefyd yn gweithredu fel llysgenhadon ar gyfer y cynllun, yn gweithio gyda myfyrwyr o'r ysgol i'w helpu i ddysgu am yrfaoedd ym maes adeiladu a'u diweddaru wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25825.html