Back
Diweddariad COVID-19: 8 Chwefror

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a Chanolfan Ailgylchu Ffordd Lamby ar gau er mwyn cynnal gwaith adeiladu y penwythnos nesaf.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 8 Chwefror

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  84,259.

 

Grwpiau Blaenoriaeth:

Staff cartrefi gofal: 4,342

Preswylwyr cartrefi gofal: 1,777

80 oed a hŷn: 17,588

Staff gofal iechyd: 21,893

Staff Gofal Cymdeithasol: 7,392

75-79: 9,865

70-74: 9,852

Eithriadol o agored i niwed yn glinigol: 6,302

Grwpiau eraill o fewn grwpiau blaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (e.e. 65-69): 5,248

 

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd ar  wefan Cyngor Caerdydd.

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (28 Ionawr - 03 Chwefror)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

7 Chwefror 2021, 09:00

 

Achosion: 363

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 98.9 (Cymru: 116.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,976

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,083.7

Cyfran bositif: 9.1% (Cymru: 9.8% cyfran bositif)

 

Chanolfan Ailgylchu Ffordd Lamby ar gau er mwyn cynnal gwaith adeiladu y penwythnos nesaf

Bydd canolfan Ailgylchu Ffordd Lamby wedi cau ar y dyddiau canlynol ar gyfer gwaith adeiladu:

 

️ Dydd Sadwrn 13 Chwefror

️ Dydd Sul 14 Chwefror

 

Ni fydd modd i chi archebu apwyntiad ar gyfer y dyddiadau hyn ond rydym wedi cynyddu nifer y slotiau sydd ar gael yng Nghlos Bessemer.

Dylech ond fynd i'r ganolfan ailgylchu leol os yw'n hanfodol ac nad ydych yn gallu storio eich gwastraff a'ch deunydd ailgylchu gartref.

Archebwch eich ymweliad nesaf  yma.