Dyma'r newyddion ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a'r Fro; niferoedd achosion a phrofion COVID-19; a lansio gwefan newydd Caerdydd ar Waith.
Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch iwww.llyw.cymru/coronafeirws
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 3 Chwefror
Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi cyfanswm o68,400brechiad.
Y grwpiau blaenoriaeth yw:
Staff Cartrefi Gofal: 4,187
Preswylwyr Cartrefi Gofal: 1,750
80 oed ac yn hŷn: 15,591
Staff Gofal Iechyd: 20,760
Staff Gofal Cymdeithasol: 6,467
75-79, 70-74, eithriadol o agored i niwed yn glinigol: 19,645
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd ar wefan Cyngor Caerdydd.
Cafwyd y data gan BIPCAF
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (23 Ionawr - 29 Ionawr)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
2 Chwefror 2021, 09:00
Achosion: 435
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 118.6 (Cymru: 127.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,728
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,016.1
Cyfran bositif: 11.7% (Cymru: 10.9% cyfran bositif)
Rydyn ni'n recriwtio! Lansio gwefan newydd Caerdydd ar Waith
Mae gwefan newydd i hyrwyddo cyfleoedd gwaith dros dro o fewn Cyngor Caerdydd wedi cael ei lansio.
Mae Caerdydd ar Waith, asiantaeth gyflogaeth dros dro fewnol y Cyngor sy'n cynnig swyddi mewn ystod eang o wasanaethau'r Cyngor, wedi datblygu'r wefan newydd i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd yn yr awdurdod ac i gefnogi unigolion i gael swyddi lle gallant feithrin sgiliau a hyder i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.
Mae'r tîm yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith y Cyngor, a all sicrhau y gall ymgeiswyr gael yr holl ganllawiau cyflogaeth a'r arbenigedd sydd eu hangen arnynt er mwyn bod yn barod ar gyfer rolau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt gyda Caerdydd ar Waith.
Mae'r wefan newydd sbon a deniadol yn dangos y swyddi gwag dros dro diweddaraf yn yr awdurdod, yn ogystal â gwybodaeth a chyngor am ddod o hyd i'r swydd gywir, sefyll allan yn ystod y broses ymgeisio, cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi, ac awgrymiadau ar gyfer cyfweliadau.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae Caerdydd ar Waith wedi bod yn cefnogi gwasanaethau ym mhob rhan o'r Cyngor ers nifer o flynyddoedd, gan baru ymgeiswyr addas ag amrywiaeth o rolau yn yr awdurdod. Mae'r wefan yn edrych yn ardderchog ac mae'n lle gwych ar gyfer gweld cyfleoedd byrdymor gyda'r Cyngor.
"Efallai mai gwaith byrdymor yw'r union beth y mae rhai o'n trigolion yn chwilio amdano ond mewn llawer o achosion, gall cyfleoedd dros dro arwain at rolau mwy parhaol, os mai dyna beth mae'r unigolyn ei eisiau. Mae ymuno â ni trwy Caerdydd ar Waith yn rhoi cyfle i bobl ddarganfod sut beth yw gweithio i sefydliad mawr ac amrywiol fel Cyngor Caerdydd, ac i ennill profiad gwerthfawr a sgiliau newydd.
"Mae gweithio i'r Cyngor yn cynnig llawer o fanteision. Rydyn ni'n gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol, wedi ymrwymo i sicrhau bod ein staff yn cael diwrnod teg o dâl am ddiwrnod caled o waith.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y wefan newydd yn denu ac yn annog hyd yn oed mwy o recriwtiaid i ymuno â ni wrth i ni geisio eu paru â rolau sy'n gweddu i'w sgiliau, eu profiad a'u dyheadau ac i'n galluogi i barhau i ddarparu'r miloedd o wasanaethau a ddarparwn ar draws y ddinas."
Mae swyddi gwag cyfredol a mwy o wybodaeth am Caerdydd ar Waith gael ar y wefan newydd yn www.caerdyddarwaith.co.uk Gall ceiswyr gwaith wneud cais am rolau yn uniongyrchol drwy'r wefan, yn ogystal â chofrestru diddordeb mewn rolau yn y dyfodol.
Ewch i'r wefan heddiw neu siaradwch ag un o'r tîm ar 029 2087 3087, neu drwy e-bostio caerdyddarwaith@caerdydd.gov.uk