Back
Contractwr wedi'i ddewis i adeiladu Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd

21/1/2020

Dyfarnwyd y contract i adeiladu cartref newydd Ysgol Uwchradd Fitzalan i Kier, wrth i'r cynllun diweddaraf a gyflawnir dan Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg, gwerth £284 miliwn, fynd yn ei flaen yng Nghaerdydd.

Mae'r datblygiad yn fuddsoddiad £64.3 miliwn yn y gymuned leol a bydd Ysgol Uwchradd bresennol Fitzalan yn cael ei disodli gan ysgol newydd 10 dosbarth mynediad, a fydd yn cynnwys hyd at 1,500 o fyfyrwyr rhwng 11 ac 16 oed, yn ogystal â chweched dosbarth.

Bydd yr ysgol newydd hefyd yn cynnig cyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, caeau 3G a phwll nofio dan do newydd yn lle'r pwll nofio presennol sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn helaeth gan ysgolion lleol a grwpiau cymunedol. Bydd y cyfleusterau hyn a rhai eraill yn yr ysgol ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.  

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Wrth i'r gwaith o ddatblygu ysgol uwchradd newydd Fitzalan fynd yn ei flaen, gall aelodau o'r gymuned leol ddechrau edrych ymlaen at y cyfleoedd cyffrous y bydd y buddsoddiad hwn yn eu cyflwyno.

"Cyhoeddi'r contract adeiladu yw'r cam diweddaraf o ran creu ysgol fodern o'r radd flaenaf a fydd hefyd yn cynnig amwynderau rhagorol i bobl leol eu defnyddio, gan roi hwb sylweddol i'r ardal."

Dywed Jason Taylor, cyfarwyddwr gweithrediadau Kier Regional Building Western & Wales: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cael ein penodi gan Gyngor Caerdydd i adeiladu Ysgol Uwchradd Fitzalan a fydd yn cynnig amgylcheddau dysgu modern, pwrpasol ac ysbrydoledig i'w myfyrwyr.

"Mae hwn yn brosiect arwyddocaol i'r gymuned leol a thrwy gydol y gwaith o adeiladu'r ysgol newydd hon, byddwn yn ceisio gadael etifeddiaeth barhaol, drwy greu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant, gweithio gyda'n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi leol ac ymgysylltu â disgyblion, yn ogystal ag arddangos yr ystod eang o rolau swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd yn y diwydiant adeiladu."

Ar 18 Tachwedd 2020 cymeradwyodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd gynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd a oedd yn cynnwys:

  •            Codi adeilad ysgol uwchradd 3 llawr gyda lle i 1850 o ddisgyblion
  •            Pwll nofio cymunedol newydd
  •            Creu 2 AChA
  •            Creu 1 cae 3G rygbi/pêl-droed
  •            Creu 1 cae hoci/pêl-droed dan 16 oed
  •            Maes parcio i staff (47 man parcio) a maes parcio i ymwelwyr (24 man gan gynnwys 8 lle i bob anabl)
  •            Ardaloedd chwarae arwyneb caled a meddal

Disgwylir i'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r datblygiad gael ei gwblhau yn haf 2021 ac mae'n cynnwys:

  • Ail-leoli'r Gromen Aer i dir y tu ôl i Stadiwm Lecwydd;
  • Cae pêl-droed glaswellt newydd o safon Haen 2, (heb lifoleuadau);
  • Cae pêl-droed rygbi 3G newydd;
  • Ail-leoli'r cae taflu;
  • Codi adeilad ystafelloedd newid 2 lawr (gyda 3 ystafell ddosbarth gymunedol ar y llawr cyntaf ac 1 ar y llawr gwaelod);
  • Codi adeilad ystafelloedd newid un llawr;
  • Cae 5 (i'w ddefnyddio ar gyfer criced);
  • Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA 16 a 17; a
  • Chreu maes parcio newydd a stondinau beiciau ar gyfer parcio cymunedol. 

Yn amodol ar gaffael, disgwylir i gwaith adeiladu'r ysgol newydd ddod i ben ym mlwyddyn academaidd 2022/2023.