Back
Datganiad y Cyngor: Llifogydd Dŵr Wyneb

23/12/20

Mae'r Cyngor yn delio â llifogydd dŵr wyneb ledled y ddinas. Mae'r glaw wedi llenwi'r nentydd sydd bellach yn uwch na'r gollyngfeydd.  Mae hyn yn golygu na all y draeniau wagio ac o ganlyniad maent yn cyson lenwi.  Roedd ein timau allan cyn y tywydd a ragwelwyd yn clirio dail mewn ardaloedd lle gwyddom fod llifogydd yn peryglu eiddo.  Os oes unrhyw un yn pryderu am ddŵr yn dod i mewn i'w heiddo dylent ffonio C2C ar 20872082

 

Mae ein timau allan nawr yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu. Mae rhagolygon y tywydd yn dangos y bydd yn sych yn nes ymlaen felly bydd y dŵr yn cilio.  Os bydd unrhyw un yn gweld clawr draen yn llawn malurion a dail, gallan ryddhau'r clawr a bydd hyn yn helpu'r dŵr i ddianc i'r draeniau.

 

Er bod rhai rhybuddion llifogydd rydym yn deall bod y perygl o lifogydd afon yn isel.  Gellir gweld gwybodaeth am rybuddion lefelau afonydd a rhybuddion llifogydd  ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru yma