Back
Diweddariad ar y Coronafeirws: Trefniadau gwasanaethau cymunedol hanfodol

 

18/12/20
Bydd newidiadau i wasanaethau cymunedol y Cyngor yng Nghaerdydd yn dod i rym yr wythnos nesaf wrth i'r ddinas wynebu'r argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus gydag achosion cynyddol o COVID-19.

 

Mae trefniadau gwasanaethau'n cael eu haddasu unwaith eto, oherwydd y cyfraddau heintio sy'n peri pryder yn y ddinas ac i sicrhau bod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i leihau lledaeniad y coronafeirws.

 

Mae hyn yn cael ei wneud cyn y cyfyngiadau Lefel 4 a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru a fydd yn dechrau ar ôl y Nadolig gyda'r nod o sicrhau y gall gwasanaethau allweddol ar draws y ddinas barhau i weithredu, ar adeg o bwysau cynyddol ar weithlu'r Cyngor ei hun o ganlyniad i ba mor gyflym mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo.

 

Hybiau

 

Bydd pedwar o'n hybiau yn y ddinas yn parhau ar agor ar gyfer apwyntiadau sy'n ymwneud â materion brys yn unig ac i gynnig y gwasanaeth Clicio a Chasglu llyfrau o Ddydd Llun 21 Rhagfyr. Bydd gweddill yr hybiau a'r llyfrgelloedd ar gau.

 

Bydd Hyb y Llyfrgell Ganolog, The Powerhouse, Hyb Llaneirwg a Hyb Trelái a Chaerau ar agor i gwsmeriaid sydd ag apwyntiadau wedi'u trefnu ymlaen llaw ar gyfer gwasanaethau fel cymorth i mewn i waith, cyngor ariannol a chymorth gyda thai a budd-daliadau ac i ddefnyddio'r gwasanaeth Clicio a Chasglu llyfrau.

 

Dylai cwsmeriaid sydd angen cymorth ffonio Llinell Gyngor y Cyngor ar 029 2087 1071. Gall ymgynghorwyr gynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth dros y ffôn, felly efallai na fydd angen ymweld â hyb.

Bydd sesiynau a gweithgareddau wyneb yn wyneb a oedd wedi dechrau cael eu cynnal mewn hybiau a llyfrgelloedd yn cael eu gohirio ond bydd gweithgareddau a sesiynau cymdeithasol, iechyd a llesiant ar-lein a drefnir gan y gwasanaeth yn parhau ac ar gael drwy'r wefan Digwyddiadau Hybiau newydd yn www.hybiaucaerdydd.co.uk

 

Gwasanaeth Clicio a Chasglu

Er y bydd gwasanaethau Clicio a Chasglu ar gael trwy apwyntiad yn unig, caiff defnyddwyr llyfrgelloedd eu hannog i gael gafael ar yr ystod eang o wasanaethau digidol sydd ar gael am ddim gan wasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd gan gynnwys e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-gylchgronau a phapurau newydd ar-lein. Ewch iwww.caerdydd.gov.uk/gweithgareddauwrthynysuam fanylion.

Bydd trigolion yn dal i allu casglu bagiau ailgylchu gwyrdd neu fagiau gwastraff bwyd o'r pedwar hyb drwy gnocio ar y drws - bydd staff yno i roi bagiau i chi.

Banciau Bwyd

Bydd banciau bwyd yn y ddinas ar agor tan Ragfyr 23, a byddant yn ailagor ar Ragfyr 29. Ewch i https://cardiff.foodbank.org.uk/christmasopening/ i gael mwy o wybodaeth am oriau agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

 

Bydd talebau banc bwyd ar gael trwy ffonio'r Adviceline neu ymweld ag un o'r pedair Hyb agored. Gall y Adviceline nawr ddarparu talebau digidol os oes gan breswylwyr SmartPhone, gan leihau nifer y bobl sy'n gorfod teithio i gasglu taleb papur.

 

 

Parseli bwyd brys

 

Gellir dosbarthu parseli bwyd brys i gartrefi sy'n hunanynysu ac sydd heb yr arian i brynu bwyd a hanfodion. Dylai trigolion ffonio'r Llinell Gynghori os oes angen help.

 

Atgyweirio Tai

 

Dim ond mewn argyfwng neu os yw'r gwaith yn waith brys y bydd gwaith atgyweirio'n cael ei wneud ar dai cyngor y ddinas. Gofynnir i unrhyw denantiaid sydd wedi trefnu gwaith atgyweirio brys roi gwybod i'r Cyngor os ydynt wedi profi'n bositif neu os oes ganddynt unrhyw symptomau o'r coronafeirws cyn i weithredwr fynychu.

 

Digartrefedd

Bydd y Cyngor yn parhau i roi cymorth hanfodol i unigolion a theuluoedd digartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Bydd y Gwasanaeth Dewisiadau Tai a Digartrefedd yn parhau drwy apwyntiad yn unig. Dylai unrhyw un sydd angen cymorth ffonio 02920 570750 neu e-bostio canolfandewisiadautai@caerdydd.gov.uk.  Heblaw mewn amgylchiadau eithriadol, dim ond aelodau o'r cyhoedd sydd ag apwyntiad yn barod a gaiff fynd i'r Ganolfan Dewisiadau Tai ar Hansen Street.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae difrifoldeb yr argyfwng iechyd cyhoeddus wedi cynyddu i'r pwynt ein bod unwaith eto'n gorfod canolbwyntio ein hadnoddau a'n hymdrechion ar ddarparu ein gwasanaethau hollol hanfodol yn unig. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i leihau lledaeniad y feirws yn y ddinas, i ddiogelu'r GIG ac i achub bywydau.

"Mae gwasanaethau cyhoeddus ar draws y ddinas dan bwysau eithafol ar hyn o bryd gyda llawer o'n staff ein hunain yn cael eu heffeithio gan y pandemig. Rydym yn gwybod y bydd angen y gwasanaethau hanfodol a ddarparwn ar drigolion ledled y ddinas, ond er y gall rhai adeiladau fod ar gau am y tro, mae'n bwysig bod pobl yn gwybod ein bod yn dal ar gael i gynorthwyo preswylwyr. Rydym yn cael mwy o bobl i weithio ar ein Llinell Gynghori ac rydym am annog unrhyw un y mae angen cymorth arno i'n ffonio ni neu i anfon e-bost atom ni.  Rydym yn dal yma ac rydym am eich helpu."

Bydd llawer o wasanaethau'r cyngor yn parhau heb unrhyw newidiadau ar hyn o bryd.

Sut i gael gafael ar help a chymorth

  • Gall Llinell Gyngor y Cyngor gynnig amrywiaeth eang o gyngor a mynediad i dalebau banc bwyd/parseli bwyd brys.  Ffoniwch 029 2087 1071 neu e-bostiwch hybcynghori@caerdydd.gov.uk
  • Gwasanaeth Byw'n Annibynnol y Cyngor yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cymorth a chyngor i bobl hŷn a phobl anabl. Gellir cysylltu â nhw ar 029 2023 4234.

 

  • Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn cynnig ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae'r gwasanaeth ar gael dros y ffôn ar 03000 133 133, drwy e-bost CyswlltCChD@caerdydd.gov.uk neu ewch i www.teuluoeddcaerdydd.co.uk

 

  • Dylai unrhyw un sy'n pryderu am ddiogelwch plentyn gysylltu â'r Hyb Diogelu Amlasiantaethol (MASH) ar 029 2053 6490 neu y tu allan i oriau ar 029 2078 8570. Os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol o gael ei niweidio, ffoniwch 999.

 Ar gyfer pob ymholiad cyffredinol am wasanaethau'r Cyngor, cysylltwch â C2C ar 029 2087 2088.

 

Oriau agor y Llinell Gynghori a Hybiau (apwyntiadau brys yn unig) dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd:

Noswyl Nadolig, 24 Rhagfyr: 9am tan 1pm

Dydd Nadolig:  AR GAU

28 Rhagfyr (Gŵyl y Banc - Gŵyl Steffan): AR GAU

Dydd Mawrth 29 Rhagfyr: 9am - 6pm

Dydd Mercher 30 Rhagfyr: 9am - 6pm

Dydd Iau 31 Rhagfyr: 9am tan 1pm

Dydd Calan, 1 Ionawr: Ar Gau

Dydd Sadwrn 2 Ionawr: 9am - 5.30pm

Dydd Llun 4 Ionawr ymlaen: ORIAU AGOR ARFEROL