Back
Diweddariad COVID-19: 17 Rhagfyr

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: safbwynt Caerdydd ar ddechrau tymor ysgol ym mis Ionawr;yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.

 

Mae nifer y gwelyau ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a ddefnyddir gan bobl â COVID-19, a nifer y cleifion COVID-19 sy'n cael eu derbyn yn yr ysbytai yn uwch nawr nag oedden nhw ym mis Ebrill.

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Y wybodaeth ddiweddaraf - Safbwynt Caerdydd ar ddechrau tymor ysgol ym mis Ionawr

Yn dilyn trafodaethau helaeth, mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi nodi dull cyffredin o ddychwelyd i'r ysgol ym mis Ionawr. 

Gyda lefelau trosglwyddo yn parhau i gynyddu ledled Cymru, ac ansicrwydd ynghylch pa effaith y gallai hynny ei chael ar lefelau staffio ysgolion dros gyfnod y Nadolig, bydd rhywfaint o hyblygrwydd i ddechrau'r tymor. 

Mae Cyngor Caerdydd wedi nodi'r cynlluniau canlynol ar gyfer mis Ionawr, ond efallai y bydd angen addasu'r rhain pe bai'r sefyllfa yng Nghaerdydd yn gweld newid sylweddol rhwng nawr a dechrau'r tymor.

Yng Nghaerdydd, bydd ysgolion yn parhau i ddarparu dysgu o bell i ddisgyblion o ddydd Llun 4Ionawr. Mae hyn er mwyn galluogi ysgolion i asesu pa staff sydd ar gael a gwneud cynlluniau priodol ar gyfer dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb.

O ddydd Mercher 6 Ionawr, bydd ysgolion yn darparu ar gyfer dysgwyr sy'n agored i niwed a gofal plant gweithwyr hanfodol, ble mae ganddynt y gallu i wneud hynny.

O ystyried y cyfraddau trosglwyddo cynyddol, bydd yn bwysig sicrhau bod darpariaeth ysgolion Caerdydd yn cefnogi gwasanaethau rheng flaen golau glas, y GIG, gweithwyr ysgol a gweithwyr gofal cymdeithasol fel rhan o'r gweithlu hanfodol.  Bydd ysgolion yn gwneud penderfyniadau lleol, wrth drafod anghenion â rhieni. Dylid rhoi blaenoriaeth pan fo'r ddau riant yn weithwyr hanfodol a phan fo'r holl opsiynau gofal plant eraill wedi'u disbyddu.

O ddydd Llun 11 Ionawr, y disgwyl yw y bydd pob disgybl yn dychwelyd ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb.

Gellir gwneud eithriadau os effeithir ar ysgol gan drosglwyddiad cymunedol sylweddol neu argaeledd staff, sy'n effeithio ar gapasiti ysgolion.

Gall yr ysgolion hynny sydd wedi cynllunio HMS yn ystod wythnos gyntaf y tymor barhau â'r cynlluniau hynny.

Mae ysgolion yng Nghaerdydd yn cael cymorth i gyflwyno dysgu o bell drwy gydol y cyfnod hwn. Mae darpariaeth ddigidol sylweddol eisoes wedi'i rhoi ar waith. Mae hyn yn cynnwys mwy na 11,500 o ddyfeisiau digidol a 2,000 o ddyfeisiau band eang 4G, y mae'r Cyngor wedi'u dosbarthu i ddisgyblion fel y gallant gyrchu dysgu ar-lein pan fydd ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.

I gael rhagor o wybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag ysgolion oherwydd COVID-19, mae cyfres o gwestiynau ac atebion sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd i rieni a disgyblion ar gael yma:  Cwestiynau Cyffredin Covid-19 i rieni a disgyblion (caerdydd.gov.uk)

Hoffem hefyd atgoffa rhieni a gofalwyr pryd y dylid cadw plant gartref o'r ysgol, ewch i'n canllaw cyfeirio cyflym yma:  Canllawiau ar gyfer anfon eich plentyn i'r ysgol (caerdydd.gov.uk)

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (06 Rhagfyr - 12 Rhagfyr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

16 Rhagfyr

 

Achosion: 2,119

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 577.5 (Cymru: 530.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 10,255

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,786.8

Cyfran bositif: 20.7% (Cymru: 21.2% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 17.12.20

 

Ysgol Pen y Pil

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Pen y Pîl. Mae 18 disgybl o Flwyddyn 1 a 2 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi'n gysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.