Back
Rhybudd COVID-19 - Mae achosion yng Nghaerdydd yn cynyddu'n gyflym - Gwybodaeth bwysig

Annwyl Breswylydd Caerdydd,

Rhybudd COVID-19 - Mae achosion yng Nghaerdydd yn cynyddu'n gyflym - Gwybodaeth bwysig

Mae'r cynnydd yn nifer yr achosion yng Nghaerdydd yr ydym yn eu gweld nawr yn sobreiddiol iawn. Mae angen i hyn fod yn rhybudd i bob un ohonom ynghylch difrifoldeb mawr y sefyllfa sy'n ein hwynebu nawr.

Os bydd yr amcanestyniadau presennol yn parhau, yna erbyn wythnos y Nadolig byddwn yn gweld mwy na phedair gwaith nifer yr achosion o heintio newydd bob dydd ag yr oeddem yn ei weld ddechrau Rhagfyr. Gwyddom o'r don gyntaf a'r ail, wrth i nifer yr achosion gynyddu, fod mwy o bobl yn mynd yn ddifrifol wael, a byddwn yn gweld mwy o farwolaethau o Covid - y gellir osgoi llawer ohonynt os byddwn yn gweithredu nawr.

Rydym yn poeni yn fawr iawn bod ein hysbytai a'n gwasanaethau gofal sylfaenol bellach dan bwysau parhaus oherwydd COVID-19, ac yn anffodus mae nifer y bobl sy'n mynd yn sâl iawn yn cynyddu bob dydd.

Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i weithredu nawr. Rhaid i bob un ohonom ddilyn rheoliadau coronafeirws Llywodraeth Cymru, ac os gallwch gymryd camau pellach i ddiogelu'ch anwyliaid, yna rydym yn eich annog i wneud hynny.

Dylem oll gadw ein cysylltiad â phobl y tu allan i'n haelwyd i'r cyswllt lleiaf absoliwt nes bod y bygythiad presennolwedi mynd heibio, ond yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig.Gwn y bydd hynny'n boenus i lawer, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, ond os gwnawn hyn nawr, byddwn yn gwneud popeth allwn ni i amddiffyn ein hanwyliaid ar gyfer y misoedd i ddod.

Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn meddwl bod y brechlyn yma a bod popeth yn mynd i fod yn iawn. Nid yw hynny'n wir. Os na newidiwn ein hymddygiad nawr, bydd llawer o bobl yn marw cyn i'r brechlyn gael ei gyflwyno, pobl nad oes angen iddynt farw, pobl rydych chi'n eu hadnabod.

Bydd cyflwyno'r brechlyn yn llawn yn cymryd misoedd lawer, felly nid dyma'r amser i fod yn hunanfodlon. Ychydig iawn ohonom sydd ag imiwnedd. Mae'r feirws yn dal i fod yn gyffredin yn ein cymunedau a'n hysbytai a thrwy arfer cadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchuddion wyneb rydym i gyd yn gwneud ein rhan i helpu.

Byddem yn gofyn i chi os gwelwch yn dda i geisio aros gartref, peidiwch â chymysgu ag aelwydydd eraill, nag â'ch ffrindiau, gweithiwch o gartref os gallwch, ac os yw'n hanfodol mynd allan, gwnewch hynny mewn cyfnodau tawelach. Gall y camau bach hyn ein helpu ni i gyd i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

Rydym wedi ein paratoi'n llawn yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Ond mae'n parhau i fod yn her enfawr, un y byddwn yn ei hwynebu orau os byddwn yn ei wneud gyda'n gilydd, yn union fel y gwnaethom yn y gwanwyn. Rydym yn gofyn i bob un ohonoch ymateb i'r her honno gyda'ch gilydd. Gadewch i ni atal y lledaeniad, a chadw Caerdydd, y GIG a'n hanwyliaid yn ddiogel."

Yn gywir,

 

Y Cynghorydd Huw Thomas                           

Arweinydd Cyngor Caerdydd    

 

Fiona Kinghorn

Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Charles Janczewski

Cadeirydd, Bwrdd Iechyd

Prifysgol Caerdydd a'r Fro