Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.
#CadwchGaerdyddYnDdiogel
Darllenwch y rheolau ar-lein
https://llyw.cymru/coronafeirws
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (23 Tachwedd - 29 Tachwedd)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
1 Rhagfyr
Achosion: 832
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 226.8 (Cymru: 227.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 6,366
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,735.1
Cyfran bositif: 13.1% (Cymru: 13.2% cyfran bositif)
Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers
Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/
Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 02.12.20
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Holl Seintiau
Mae disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Holl Seintiau wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 29 o ddisgyblion wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd y Dwyrain
Mae aelod o staff a dau ddisgybl yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae tri aelod o staff arall a 21 o ddisgyblion wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Mynydd Bychan
Mae aelod o staff Ysgol Mynydd Bychan wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 34 o ddisgyblion ac un aelod o staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Treganna
Mae disgybl Blwyddyn 5 yn Ysgol Gynradd Treganna wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 174 o ddisgyblion ac un aelod o staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Mae disgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 2 ddisgybl eraill wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Windsor Clive
Mae aelod o staff yn Ysgol Gynradd Windsor Clive wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae aelod arall o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddo gael ei nodi fel cysylltiad agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.