30/10/20
Mae trefniadau wedi'u gwneud eleni a fydd yn caniatáu i aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan yng Ngwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru, yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.
Am y tro cyntaf, bydd y gwasanaeth ar gael i'w wylio'n fyw ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd. Bydd y darllediadau'n dechrau o 10.50am ddydd Sul, 8 Tachwedd, ar gael yn www.youtube.com/cardiffcouncil.
Bydd y darllediadau o'r Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Nghaerdydd yn dangos gwasanaeth bach o bellter cymdeithasol, a gynhelir gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk.
Oherwydd Rheoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru sy'n gosod cyfyngiadau ar gynulliadau cyhoeddus awyr agored, ni fydd modd cael mynediad cyffredinol i'r Gofeb Ryfel Genedlaethol a Gerddi Alexandra o'i hamgylch fore Sul, 8 Tachwedd.
Gall gwylwyr y darllediad byw lawrlwytho a dilyn y drefn gwasanaeth a ddefnyddir ar y diwrnod o wefan Cyngor Caerdydd yma.
At ei gilydd, bydd 15 o bobl yn gosod torchau yng ngwasanaeth Sul y Cofio cenedlaethol Cymru, sy'n cael ei gynnal ar y cyd gan Gyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol.
Maent yn cynnwys Mrs Morfudd Meredith, Arglwydd Raglaw EM dros Dde Morgannwg, ar ran Ei Mawrhydi Y Frenhines; Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru; Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd; a'r Cynghorydd Dan De'Ath,Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd
Bydd chwythwr corn o 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol yn canu'r 'Caniad Olaf' ac yna cynhelir dau funud o dawelwch am 11am.
Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru, a gynhelir bob blwyddyn ger y Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Nghaerdydd, yn gyfle pwysig i bob un ohonom fyfyrio, a thalu teyrnged i'r milwyr sydd wedi gwasanaethu, ymladd a marw dros ein gwlad. Fel arfer, mae Gerddi Alexandra yn llawn o bobl sy'n dymuno cymryd rhan yn y gwasanaeth, ac er na fyddant yn gallu bod gyda ni'n bersonol eleni, yr wyf yn siŵr y byddant yn dal i deimlo'n rhan o Sul y Cofio, wrth iddynt wylio'r gwasanaeth o ddiogelwch eu cartrefi eu hunain."
Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru: "Eleni rydym yn coffáu Sul y Cofio yn wahanol, gan lynu wrth y cyfyngiadau sydd ar waith o ganlyniad i'r pandemig parhaus. Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn gallu nodi'r Cofio.
"Dyma gyfle i ni gofio'r rôl hanfodol a chwaraeodd dynion a menywod Cymru a wasanaethodd yn y gorffennol, a'r rôl y mae dynion a menywod Cymru yn parhau i'w chwarae nawr i gadw Cymru'n ddiogel."
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru wedi bod yn achlysur parhaol ers tro byd yng nghalendrau cannoedd o bobl. Mae'n amser i fyfyrio ar yr aberth enfawr a wnaed gan filoedd dros flynyddoedd lawer. Mae gan yr ymdeimlad hwnnw o fyfyrio ac aberth arwyddocâd ychwanegol yn 2020. Mae Sul y Cofio eleni hefyd yn gyfle i ni feddwl am bawb y mae'r coronafeirws wedi effeithio arnynt, ac i gydnabod pawb ar y rheng flaen, sy'n ymladd ac yn ymateb i'r pandemig byd-eang hwn."
Dywedodd Antony Metcalfe, Rheolwr Ardal Cymru, y Lleng Brydeinig Frenhinol: "Yn y flwyddyn a oedd yn nodi 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd yn bwysig sicrhau bod pobl Cymru yn dal i gael cyfle i ddod at ei gilydd, er yn rhithiol, i sicrhau bod Sul y Cofio yn cael ei nodi'n briodol. Mae'n gyfle i fyfyrio a chofio cyfraniad ac aberth pob aelod o'n Lluoedd Arfog a gamodd i i'r adwy i amddiffyn ein ffordd o fyw bryd hynny, a'r rhai sy'n parhau i wneud hynny heddiw."
Cwestiynau Cyffredin Cofio Llywodraeth Cymru
(wedi'i gymryd o https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin)
A oes hawl i gynnal digwyddiadau'r Cofio ger Cofeb Ryfel neu Senotaff?
Caniateir i ddigwyddiadau'r Cofio gael eu cynnal yn yr awyr agored ar 7 neu 8 Tachwedd. Ni chaniateir gwasanaethau o dan do.
Caniateir i hyd at uchafswm o 30 o unigolion, gan gynnwys trefnwyr y digwyddiad, ymgynnull yn yr awyr agored a gallant gymryd rhan mewn seremoni Cofio. Bydd gan y rhai sy'n trefnu'r digwyddiad ddyletswydd gofal i'r rhai sy'n mynychu i'w wneud mor ddiogel â phosibl a chadw at y canllawiau ynghylch cadw pellter cymdeithasol a hylendid.
A oes hawl i gynnal gwasanaethau'r Cofio mewn addoldy?
Nac oes - ni fydd addoldai yn agored i'r cyhoedd ar gyfer gwasanaethau'r Cofio. Dim ond ar gyfer seremonïau priodas neu bartneriaeth sifil ac angladdau y caiff addoldai agor.
Caiff arweinwyr ffydd fynd i addoldy i ddarlledu (heb gynulleidfa) weithred o addoliad, dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu. Gallai hyn gynnwys gwasanaeth coffa, a chaiff pobl eraill sy'n gweithio i hwyluso'r darllediad fod yn bresennol hefyd.
A oes hawl i gynnal parêd neu orymdaith i nodi'r Cofio eleni?
Nac oes - ni ddylid cynnal gorymdeithiau.
A gaiff pobl deithio i gymryd rhan yn nigwyddiadau'r Cofio?
Mae gan berson esgus rhesymol i adael y man lle mae'n byw i fynychu digwyddiad Cofio a gynhelir ar 7 neu 8 Tachwedd.