Back
10 Syniad Crefft Calan Gaeaf BWGANdigedig gyda deunydd ailgylchu i blant yr Hanner Tymor hwn

29.10.2020

Gyda'r Calan Gaeaf eleni yn ystod yr Hanner Tymor, dyma'r amser perffaith i gael y plant i gymryd rhan mewn rhai celf a chrefftau OFNadwy o dda.

Efallai na chawn ni fynd allan y Calan Gaeaf hwn ond gallwn godi ein hysbryd gydag addurniadau BWGANdigedig gan ddefnyddio eitemau cartref wedi'u hailgylchu.

Dewiswch o'r 10 syniad celf a chrefft hyn:

  1. Poteli Llaeth Ysbrydol

Defnyddiwch feiro ddu i dynnu wynebau ar boteli llaeth gwag, yna torrwch fflap allan yn ofalus yng nghefn y poteli, wrth y gwaelod. Rhowch oleuadau bach neu gannwyll LED y tu mewn i'r botel i'w goleuo a defnyddio tâp gludo i gau'r fflap. Dylai'r goleuadau bwyso'r botel i lawr a'i chadw ar ei thraed.

 

  1. Mymi rholyn toiled

Casglwch diwbiau rholyn toiled gwag. Torrwch stribedi o hen ddarnau gwyn o fagiau siopa a'u lapio o amgylch y tiwb a'u gludo. Gludwch lygaid crefft at y tiwb neu tynnwch lun llygaid gyda phin ddu.

 

  1. Llygaid arswydus rholyn cegin

Tynnwch lun dau lygad ar ochr tiwb rholyn cegin gwag a'u torri allan, yna rhowch ffyn golau y tu mewn. Rhowch nhw yn eich ffenestri neu yn yr ardd!

 

  1. Bwystfilod potel diod swigod

Golchwch a sychwch eich poteli diodydd swigod a thynnu llun wyneb bwgan arnyn nhw gyda cheg yn llydan agored. Torrwch ben y botel oddi arni a thorri ceg y bwgan a'i baentio. Llenwch waelod y botel gyda losin a siocled.

Ffynhonnell: Craftberry

 

  1. Pryfaid cop lliwgar cap potel

Casglwch gapiau poteli plastig wedi'u defnyddio oddi ar boteli sgwash, dŵr neu ddiodydd swigod. Os oes angen, gallech eu paentio neu eu chwistrellu â phaent gwyrdd, coch, du neu oren i gadw at thema Calan Gaeaf. Torrwch lanhawyr pibellau i'r hyd a cywir ar gyfer gwneud coesau'r pryfaid cop. Gludwch un pen y coesau at ei gilydd gyda thâp a gludwch nhw wrth gefn y cap potel blastig. Rhowch lygaid crefft ar flaen y cap potel a dyna ni! Gallech eu hongian oddi ar linyn neu eu gosod ar we smalio i addurno.

 

  1. Gwrach dun

Golchwch unrhyw hen dun - ffa pob, spaghetti neu dun cawl er enghraifft. Tyllwch dwll yn y gwaelod gyda morthwyl a hoelen. Torrwch ddarn o linyn a'i dynnu drwy'r twll, gan wneud dolen er mwyn gallu ei hongian. Paentiwch y tun yn wyrdd, porffor neu unrhyw liw arall sy'n addas i'ch thema, glynwch lygaid crefft arno a dylunio wyneb eich gwrach. Defnyddiwch eich doniau creadigol! Rhowch gynnig ar drwyn wedi ei wneud o flwch wyau neu het cardbord. Gludwch stribedi hir o fagiau plastig at ymyl y tun er mwyn iddyn nhw hongian am i lawr pan rowch chi'r tun ar grog.

 

  1. Blwch Wyau Losin Calan Gaeaf

Torrwch gwpanau wyau unigol ar wahân o flwch wyau gwag a phaentiwch nhw. Bydd angen dau o bob lliw arnoch felly os oes gennych flwch o chwe ŵy, paentiwch ddau oren, dau wyrdd a dau wyn. Pan fyddant yn sych, defnyddiwch bin inc parhaol i wneud un o'r cwpanau oren fel pwmpen, un o'r rhai gwyrdd fel anghenfil Frankenstein ar un o'r cwpanau gwyn fel ysbryd.  Rhowch fferins a siocled yn y cwpanau eraill ac yna'r wynebau ar eu pennau.

Ffynhonnell: The Centsible Life

 

  1. Jariau jam golygfa Calan Gaeaf

Golchwch a sychu hen jar jam, marmalêd, picl, coffi neu unrhyw jar wydr arall sydd gennych chi a thynnwch y label. Cymysgwch baent crefft a glud PVA gyda'i gilydd a phaentiwch y jar gwydr.Mae'r glud yn helpu'r paent i fod yn dryloyw er mwyn i chi allu gweld fflam y gannwyll drwy'r paent. Gadewch i'r jar sychu ac yna tynnwch lun golygfa ddychrynllyd ar yr ochr neu ddefnyddio silwetau duon wedi'u torri o gerdyn a'u glynu wrth ochr y jar. Rhoch gannwyll fatri neu oleuadau bychain yn y jar a mwynhewch!

Ffynhonnell: Jedi Craft Girl

 

  1. Bwystfilod bocs grawnfwyd

Casglwch flychau grawnfwyd gwag a phaentio, glynu, torri a gludo wynebau angenfilod doniol neu frawychus ar yr ochrau. Gallech hyd yn oed dorri siâp ceg a llenwi'r blwch gyda losin a phethau da.

 

  1. Gwisgoedd bocs cardbord

Os buoch chi'n archebu ar-lein yn ystod y cyfnod cloi, mae'n debyg bod gennych chi gasgliad syfrdanol o flychau cardbord. Ailddefnyddiwch nhw y Calan Gaeaf yma drwy wneud gwisgoedd creadigol! Gallai'r plant wisgo fel robot, ungorn, dinosor, bocs o greonau, cymeriad Minecraft... defnyddiwch eich dychymyg! Ewch i ddelweddau Google neu edrychwch ar Pinterest am syniadau i'ch rhoi ar ben y ffordd.

 

Os nad ydych yn siŵr beth sy'n perthyn i ble, edrychwch ar ein canllaw  Ailgylchu A-Z a theipiwch enw unrhyw eitem i gael gwybod sut i gael gwared ohoni'n gywir. O bolystyren i blastig a balwnau i bapur swigod, gallwn ni eich helpu i roi eich deunyddiau gwastraff ac ailgylchu yn y lle iawn.

Mwynhewch Galan Gaeaf OFNadwy o wych!