Back
Trefniadau cau ffyrdd ar 'Strydoedd Ysgol' i hyrwyddo cadw pellter cymdeithasol ac annog teithio llesol

 1/9/2020


Mae'r Cyngor yn bwriadu cau ffyrdd fel rhan o gynllun 'Strydoedd Ysgol' i helpu disgyblion a theuluoedd i gadw pellter cymdeithasol pan fydd ysgolion yn dychwelyd ar gyfer tymor yr hydref.  

Ym mis Mehefin, cyflwynwyd cau ffyrdd dros dro i greu 'Strydoedd Ysgol' o gwmpas 24 o ysgolion ledled y ddinas pan ailagorwyd hwy am wythnosau olaf tymor yr haf.

Mae'r strydoedd mae'r Cyngor wedi dewis eu cau yn cael problemau gyda thraffig a pharcio yn rheolaidd yn ystod amseroedd gollwng a chasglu plant ysgol.  Roedd cau'r strydoedd hyn i draffig cyffredinol yn cynorthwyo plant a theuluoedd i gadw pellter cymdeithasol wrth gyrraedd a gadael yr ysgol.

Yn dilyn adborth cadarnhaol gan ysgolion, disgyblion, rhieni a thrigolion lleol, mae'r Cyngor yn bwriadu cyflwyno nifer o 'Strydoedd Ysgol' o ddydd Llun 14 Medi.

Bydd arwyddion parhaol yn cefnogi'r cynlluniau diweddaraf hyn a bydd camerâu gorfodi ar waith yn ystod amseroedd gollwng a chasglu pan fydd mynediad a pharcio yn cael eu cyfyngu i ddeiliaid trwyddedau preswyl, deiliaid bathodynnau glas a cherbydau'r gwasanaethau brys.

Yn ogystal â Strydoedd Ysgol, mae'r Cyngor hefyd yn bwriadu cyflwyno camerâu gorfodi mewn sawl ysgol arall i atal rhieni rhag parcio ar farciau Cadwch yn Glir y tu allan i gatiau'r ysgol.

Dywedoddyr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Ym mis Gorffennaf, rhoddwyd trefniadau cau ffyrdd ar waith ar Strydoedd Ysgol i sicrhau y gallai plant a theuluoedd gydymffurfio â'r mesurau cadw pellter cymdeithasol yn ddiogel wrth gyrraedd a gadael yr ysgol, drwy gadw ffyrdd y tu allan i ysgolion yn glir o draffig a cherbydau wedi'u parcio

"Mae'r ymateb gan gymunedau ysgolion a thrigolion lleol wedi bod yn aruthrol. O ganlyniad, rydym wedi sicrhau cyllid i ganiatáu i rai safleoedd ysgolion gau ffyrdd eto o fis Medi ymlaen.

"Bydd hyn hefyd yn mynd tuag at helpu i gyflwyno rhaglen Teithio Llesol i Ysgolion y Cyngor sy'n hyrwyddo teithio llesol fel y ffordd fwyaf diogel o deithio i'r ysgol yn ogystal â helpu i leihau tagfeydd, gwella ansawdd aer ac ymateb i'r broblem barhaus gyda'r newid yn yr hinsawdd." 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae sicrhau bod disgyblion, rhieni a staff yn gallu dychwelyd i'r ysgol yn ddiogel yn flaenoriaeth ac mae'r cynllun hwn yn enghraifft o'r cynllunio sydd wedi mynd i sicrhau bod hyn yn digwydd.

"Mae cerdded, sgwtio a beicio yn ffyrdd ardderchog o deithio i'r ysgol ac rwy'n obeithiol y bydd llawer o deuluoedd yn gwneud newidiadau hirdymor a fydd yn dwyn manteision i'w hiechyd ac i'r amgylchedd y maent yn byw ynddo."

Dywedodd Rhiannon Hardiman, Rheolwr Cymru, Living Streets Cymru:"Mae'n wych gweld mesurau'n cael eu rhoi ar waith i alluogi teuluoedd yng Nghymru i ddewis ffyrdd iachach a glanach o deithio i'r ysgol.

"Mae cerdded i'r ysgol yn helpu plant i gadw'n actif a bydd lleihau nifer y ceir o amgylch gatiau'r ysgol yn helpu i leihau llygredd aer, perygl ar y ffyrdd a rhyddhau lle i alluogi teuluoedd i gadw pellter corfforol yn haws. 

"Gwyddom o'n gwaith gydag ysgolion ledled y DU fod traffig, perygl ar y ffyrdd a llygredd aer yn troi teuluoedd oddi ar cerdded i'r ysgol. Trwy gael gwared ar geir, rydym yn dileu'r rhwystrau hyn."

I gael rhagor o wybodaeth am drefniadau cau ffyrdd y Strydoedd Ysgol, ewch i:www.caerdydd.gov.uk/strydoeddysgol

Cafodd y Cynllun Strydoedd Ysgol gwreiddiol ei dreialu gan y Cyngor i helpu i leihau traffig yng nghyffiniau pum mynedfa ysgol ym mis Ionawr 2020. Y nod yw i bob plentyn allu mynychu'r ysgol mor ddiogel â phosibl.