Back
Dylai holl staff a disgyblion ysgolion uwchradd wisgo gorchuddion wyneb

 

27/8/2020

Mae Cyngor Caerdydd yn argymell yn gryf bod holl staff a disgyblion ysgolion uwchradd y brif ffrwd yn gwisgo gorchuddion wyneb wrth symud trwy goridorau a mannau cymunedol megis lifftiau, grisiau a thoiledau ac mewn sefyllfaoedd lle na ellir cadw pellter Cymdeithasol.

Er mwyn helpu ysgolion i ddilyn y canllawiau, bydd y Cyngor yn cyflenwi dau fasg amldro i bob disgybl ac aelod o staff ysgol uwchradd pan fo'r tymor yn dechrau ym mis Medi.

 

Yn ogystal bydd yn rhaid i ddisgyblion ysgolion uwchradd wisgo masgiau wyneb wrth ddefnyddio bysus ysgol prif ffrwd a thrafnidiaeth gyhoeddus i deithio i'r ysgol ac yn ôl.

 

Mae'r canllawiau newydd yn cyd-fynd â'r cyngor diweddar gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwisgo gorchuddion wyneb yn yr ysgol ac, fel rhan o asesiad risg. Mae'n un o gyfres o fesurau a gynlluniwyd i helpu i atal lledaeniad COVID-19

 

Dywed Llywodraeth Cymru yr argymhellir dull gweithredu ysgol gyfan. Fodd bynnag, bydd ysgolion yn gwneud eithriadau ar gyfer rai disgyblion yn dibynnu ar anghenion neu amgylchiadau'r unigolyn, er enghraifft disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion y brif ffrwd, canolfannau adnoddau arbennig ac ysgolion arbennig.

 

Bu cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi'u heintio â COVID-19 yn ddiweddar yng Nghaerdydd ar ôl llacio rhai o fesurau'r cyfnod cloi.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae diogelu iechyd a diogelwch ein disgyblion a staff ysgolion yn flaenoriaeth. Felly, rydym yn annog holl staff ysgolion i wisgo gorchuddion wyneb wrth symud o gwmpas yr ysgol a phan nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, ac yn annog ysgolion uwchradd i sicrhau bod eu disgyblion yn gwisgo gorchuddion wyneb yn yr un amgylchiadau.

"Nid yw'r feirws wedi'n gadael ni. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag ysgolion a gwnawn bopeth y gallwn i'w cefnogi i sicrhau y gall disgyblion a staff ddychwelyd i'r ysgol yn ddiogel.

Ni argymhellir gwisgo gorchuddion wyneb ar hyn o bryd ar gyfer plant oedran ysgol gynradd a disgyblion ysgolion arbennig. Fodd bynnag, caiff hyn ei adolygu'n barhaus yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth wrth ystyried unrhyw gynnydd yn y gyfradd heintio neu nifer yr achosion yng Nghaerdydd.