Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 17 Gorffennaf

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd yn cynnwys: Castell Caerdydd yn cael ei oleuo mewn ymateb i bandemig y coronafeirws byd-eang; y diweddaraf ar ailagor ardaloedd chwarae a champfeydd awyr agored; mae Hyb arall yn ailagor ddydd Llun; a cyfle i wirioni wrth i'r Sialens Ddarllen yr Haf ddychwelyd.

 

Castell Caerdydd yn goleuo mewn ymateb i bandemig coronafeirws byd-eang

Ar nos Iau, cafodd Castell Caerdydd ei oleuo i gefnogi apêl Coronafeirws y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, sy'n codi arian i helpu gwladwriaethau mwyaf bregus y byd sy'n cael eu bygwth gan Covid-19.

  

Mae'r apêl, a lansiwyd ddydd Mawrth (14 Gorffennaf), yn dwyn ynghyd 7 elusen flaenllaw yng Nghymru, sydd eisoes ar lawr gwlad mewn lleoedd fel Yemen, Syria, a De Sudan, gan helpu cymunedau i fynd i'r afael â'r bygythiad o'r coronafeirws marwol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Yng Nghaerdydd, rydym wedi'n bendithio gyda chymunedau cryf ac amrywiol, cymunedau sydd wedi dod ynghyd i gefnogi ei gilydd drwy'r pandemig presennol o'r coronafeirws. Fodd bynnag, daw llawer o'n trigolion o leoedd lle y bydd coronafeirws yn cael effaith ddinistriol.

"Mewn mannau bregus sydd wedi'u rhwygo gan ryfel fel Yemen, Syria a De Sudan lle mae miliynau o fywydau yn y fantol wth i Covid-19 fynd ar led. Fel rhywun sydd â phrofiad uniongyrchol o'r gwaith y mae Aelodau DEC yn ei wneud, gwn y bydd pob ceiniog a godir o'r Apêl Coronafirus yn cyrraedd y rhai sydd â'r angen mwyaf.

"Rwy'n hapus iawn i weld ein Castell godidog yma yng Nghaerdydd, sy'n cael ei ddefnyddio i helpu gyda'r apêl. Beth am ddod at ein gilydd, yng Nghaerdydd a ledled Cymru, i ddangos ein hundod a'n cefnogaeth i'n cymdogion dramor, a rhoi'r cyfle gorau iddyn nhw ddelio â'r coronafeirws?"

Yng Nghymru benbaladr, mae'r apêl eisoes wedi cael cefnogaeth eang, gyda Phrif weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn rhyddhau neges fideo yn gynharach yr wythnos hon. 

Gobeithir y bydd yr apêl, sy'n cael ei chyfateb gan Lywodraeth y DU drwy gynllun arian cyfatebol yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, yn helpu rhai o gymunedau tlotaf a mwyaf bregus y byd i gael gafael ar gyflenwadau hanfodol a chyfleusterau golchi dwylo.

Mae Cadeirydd y DEC yng Nghymru, Rachel Cable o Oxfam Cymru, wedi annog pobl Cymru i gefnogi'r apêl, gan ychwanegu:

"Cenedl fechan yw Cymru ond mae ganddi galon fawr. Cefnogwch yr apêl hon gyda rhodd, waeth pa mor fawr neu fach, cyn gynted ag y gallwch. "

Cyfrannwch i Apêl Argyfwng DEC yn:

www.dec.org.uk

Trwy neges destun: tecstiwch HELPU i 70150 i roi £10 neu ar 0370 60 60 900.

Anfonwch sieciau i Apêl Coronafeirws DEC, Blwch Post 999, Llundain EC3A 3AA.

 

Y diweddaraf ar ailagor ardaloedd chwarae a champfeydd awyr agored

Caiff 30 o ardaloedd chwarae eu hailagor yng Nghaerdydd ddydd Llun (20 Gorffennaf) ar ôl i Lywodraeth Cymru dynnu'r cyfyngiadau ar eu defnydd yn ôl.

Bydd pob un o'r naw campfa awyr agored hefyd yn ailagor ddydd Llun.

Bydd yr ardaloedd chwarae yn cael eu hailagor yn raddol, yn dilyn dull diogelwch yn gyntaf a chyda'r nod o sicrhau bod plant ledled y ddinas yn gallu cael rhyw fath o ddarpariaeth chwarae yn eu hardal leol cyn gynted â phosibl.

Y 30 ardal chwarae a fydd yn agor o ddydd Llun yw:

Adamsdown Square(Adamsdown); Hodges Square(Butetown); Loudon Square(Butetown); Craiglee Drive(Butetown); Emblem Close(Caerau);Heol Homfrey(Careau); Parc Jwbilî(Treganna); Sanatorium Road - Plant Bach(Treganna); Gerddi Cogan(Cathays); Green Farm Road(Trelái); Beechley Road(y Tyllgoed); Chorley Close(y Tyllgoed); Maitland Road - ardal ymarferion ystwytho(Gabalfa); Sevenoaks Park(Grangetown); The Marl - Toddler(Grangetown); The Marl - Junior(Grangetown); Mill Heath Drive(LIys-faen); St Martin's Crescent - Plant Bach(Llanisien); St Martin's Crescent - Plant Iau(Llanisien); Coed y Gores(Pentwyn); Chapelwood(Pentwyn); Garth Olwg(Pentyrch); Gerddi Cyncoed(Penylan); Gerddi Shelley(Plasnewydd); Parc ButterfieldPontprennau / Llaneirwg); Fisherhill Way(Radur / Pentre Poeth); Wyndham Street(Glan yr Afon); Beaufort Square(Sblot); Wilkinson Close(Sblot); Heol Maes Eirwg(Trowbridge).

Ar gyfer diweddariadau ar fwy o ardaloedd chwarae yn ailagor, dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24371.html

 

Hyb Llanrhymni i ailagor ddydd Llun 20 Gorffennaf

Bydd Hyb Llanrhymni yn agor ar Ddydd Llun 20 Gorffennaf, ar sail apwyntiad yn unig ar gyfer gwasanaeth llyfrgell clicio &chasglu a gwasanaethau cyngor.

Gellir casglu bagiau gwastraff bwyd ac ailgylchu heb drefnu apwyntiad

Ffoniwch ein Llinell Gyngor️ 029 2087 1071 neu📧hybcynghori@caerdydd.gov.uk am ragor o wybodaeth.

 

Cyfle i wirioni wrth i'r Sialens Ddarllen yr Haf ddychwelyd

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ôl yn Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd y haf hwn gan roi pwyslais ar gael hwyl a sbri!

Dyma'i hunfed flwyddyn ar hugain o annog plant rhwng 4 a 11 oed i fwynhau darllen chwe llyfr yn ystod gwyliau'r haf. Y thema eleni yw'r Sgwad Wirion sy'n dathlu llyfrau doniol, hapus a siriol ac sy'n dilyn carfan anturiaethus o anifeiliaid sy'n dwlu ar gael chwerthin ac archwilio pob math o deitlau difyr!

Wedi'i chyflwyno gan The Reading Agency a'i ddarparu gan lyfrgelloedd a hybiau cyhoeddus ledled y wlad, mae poblogrwydd yr sialens yn tyfu yng Nghaerdydd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Y llynedd bu mwy na 6,500 o blant yn cymryd rhan yn yr sialens, sy'n ceisio cymell pobl ifanc i gynnal eu sgiliau llythrennedd y tu allan i'r ysgol ac osgoi 'dirywiad' yr haf.

Bydd yr sialens eleni yn wahanol i'r blynyddoedd blaenorol wrth i hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas barhau i agor y gwasanaeth yn raddol ar ôl mesurau'r cyfnod cloi.  Gall aelodau'r llyfrgell ifanc fenthyg llyfrau o hyd, gan ddefnyddio'r gwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu sydd ar gael mewn nifer o hybiau a llyfrgelloedd neu drwy fanteisio ar y cyfoeth o adnoddau digidol, gan gynnwys e-lyfrau, e-lyfrau sain ac e-gomics sydd ar gael yn y catalog ar-lein.

Derllanwch fwy yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Llyfrgelloedd-ac-archifau/sialens-ddarllen-yr-haf/Pages/default.aspx