Back
Castell Caerdydd yn goleuo mewn ymateb i bandemig coronafeirws byd-eang

17/07/20

Ar nos Iau, cafodd Castell Caerdydd ei oleuo i gefnogi apêl Coronafeirws y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, sy'n codi arian i helpu gwladwriaethau mwyaf bregus y byd sy'n cael eu bygwth gan Covid-19.

  

Mae'r apêl, a lansiwyd ddydd Mawrth (14 Gorffennaf), yn dwyn ynghyd 7 elusen flaenllaw yng Nghymru, sydd eisoes ar lawr gwlad mewn lleoedd fel Yemen, Syria, a De Sudan, gan helpu cymunedau i fynd i'r afael â'r bygythiad o'r coronafeirws marwol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Yng Nghaerdydd, rydym wedi'n bendithio gyda chymunedau cryf ac amrywiol, cymunedau sydd wedi dod ynghyd i gefnogi ei gilydd drwy'r pandemig presennol o'r coronafeirws. Fodd bynnag, daw llawer o'n trigolion o leoedd lle y bydd coronafeirws yn cael effaith ddinistriol.

"Mewn mannau bregus sydd wedi'u rhwygo gan ryfel fel Yemen, Syria a De Sudan lle mae miliynau o fywydau yn y fantol wth i Covid-19 fynd ar led. Fel rhywun sydd â phrofiad uniongyrchol o'r gwaith y mae Aelodau DEC yn ei wneud, gwn y bydd pob ceiniog a godir o'r Apêl Coronafirus yn cyrraedd y rhai sydd â'r angen mwyaf.

"Rwy'n hapus iawn i weld ein Castell godidog yma yng Nghaerdydd, sy'n cael ei ddefnyddio i helpu gyda'r apêl. Beth am ddod at ein gilydd, yng Nghaerdydd a ledled Cymru, i ddangos ein hundod a'n cefnogaeth i'n cymdogion dramor, a rhoi'r cyfle gorau iddyn nhw ddelio â'r coronafeirws?"

Yng Nghymru benbaladr, mae'r apêl eisoes wedi cael cefnogaeth eang, gyda Phrif weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn rhyddhau neges fideo yn gynharach yr wythnos hon. 

Gobeithir y bydd yr apêl, sy'n cael ei chyfateb gan Lywodraeth y DU drwy gynllun arian cyfatebol yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, yn helpu rhai o gymunedau tlotaf a mwyaf bregus y byd i gael gafael ar gyflenwadau hanfodol a chyfleusterau golchi dwylo.

Mae Cadeirydd y DEC yng Nghymru, Rachel Cable o Oxfam Cymru, wedi annog pobl Cymru i gefnogi'r apêl, gan ychwanegu:

"Cenedl fechan yw Cymru ond mae ganddi galon fawr. Cefnogwch yr apêl hon gyda rhodd, waeth pa mor fawr neu fach, cyn gynted ag y gallwch. "

Cyfrannwch i Apêl Argyfwng DEC yn:

www.dec.org.uk

Trwy neges destun: tecstiwch HELPU i 70150 i roi £10 neu ar 0370 60 60 900.

Anfonwch sieciau i Apêl Coronafeirws DEC, Blwch Post 999, Llundain EC3A 3AA.