Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 15 Gorffennaf

Yn y newyddion diweddaraf gan Gyngor Caerdydd: llythyr gan ein Cyfarwyddwr Addysg yn cynnwys y cynlluniau a'r cyngor diweddaraf i ysgolion; dysgu sgiliau newydd drwy sgwrs we'r gwasanaeth I Mewn I Waith; a dysgwch fwy am y cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd i wella Tudor Street.

 

Llythyr gan ein Cyfarwyddwr Addysg yn cynnwys y cynlluniau a'r cyngor diweddaraf i ysgolion

Annwyl Riant/Gofalwr,

Fel y gwyddoch, mae'r Gweinidog dros Addysg wedi cyhoeddi y gall pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru ddychwelyd i'r ysgol amser llawn ym mis Medi. Seiliwyd y penderfyniad ar gyngor gwyddonol a thechnegol sy'n argymell bod ysgolion yn cynllunio i agor ym mis Medi i bob disgybl, yn amodol ar ostyngiad parhaus a chyson ym mhresenoldeb COVID-19 yn y gymuned.

Yn ogystal, mae system Profi ac Olrhain y GIG ar waith, gan gyflwyno ymagwedd at fynd i'r afael â'r coronafeirws trwy brofi pobl sydd â symptomau yn y gymuned, yn olrhain y rhai sydd wedi dod i gysylltiad agos â phobl sydd wedi profi'n bositif ar gyfer y coronafeirws, ac yn amddiffyn teulu, ffrindiau a'r gymuned drwy hunan-ynysu.

Dechrau'r tymor

Mae Tymor yr Hydref yn dechrau ddydd Mawrth 1 Medi. Mae cyhoeddiad y Gweinidog yn cydnabod y bydd angen dull graddol i bob ysgol yn dychwelyd dros bythefnos cyntaf y tymor, a disgwylir i bob disgybl fod yn ôl yn yr ysgol gyda'i gilydd o 14 Medi. Bydd ysgolion yng Nghaerdydd yn dechrau'r flwyddyn gydag un neu ddau o ddiwrnodau cynllunio ym mis Medi, fel eu bod yn ei wneud fel arfer, gyda disgyblion yn dychwelyd yn raddol yn ystod wythnos gyntaf ac ail wythnos y tymor. Bydd ysgol eich plentyn yn rhoi gwybod i chi am eu trefniadau lleol.

Ysgolion yn gweithredu'n ddiogel

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer rheoli gweithredol diogel dychweliad pob disgybl ac ar yr ymagwedd at ddysgu. Gellir dod o hyd i'r canllawiau hyn yn:

https://llyw.cymru/diolgeu-addysg-canllawiau-gweithredol-i-ysgolion-lleoliadau-addysg-covid-19

https://gov.wales/guidance-learning-schools-and-settings-autumn-term-covid-19

I ddysgwyr iau bydd y pwyslais ar wahanu grwpiau gyda dysgwyr yn aros o fewn grwpiau cyswllt penodol. Mae'n bosibl y byddant yn cael amserau egwyl cyfnodol a'u hardal eu hunain ar gyfer dysgu a chyfnodau chwarae. Bydd hyn yn ei wneud yn haws ac yn gyflymach, os digwydd achos positif, i nodi'r rhai y mae angen iddynt hunanynysu o bosibl ac i gadw'r nifer hwnnw mor isel â phosibl.  Ar gyfer dysgwyr hŷn bydd mwy o bwyslais ar gadw pellter corfforol, gyda dysgwyr o reidrwydd mewn grwpiau cyswllt mwy nag a geir mewn ysgolion cynradd.

Mae iechyd a diogelwch disgyblion yn flaenoriaeth a bydd Cyngor Caerdydd yn gweithio'n agos gydag ysgolion i gynnal mesurau priodol fel y gallant groesawu pob plentyn a pherson ifanc a'u staff yn ôl yn ddiogel. 

Atgoffir teuluoedd, na ddylai dysgwyr fynychu'r ysgol o dan unrhyw amgylchiadau os byddant yn;

-         teimlo'n sâl, ag unrhyw un o'r tri symptom COVID-19 a nodwyd (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas neu arogl) neu eu bod wedi profi'n bositif i COVID-19 yn y 7 diwrnod diwethaf

-         byw mewn cartref gyda rhywun sydd â symptomau COVID-19 neu sydd wedi profi'n bositif i COVID-19 neu sydd wedi profi'nbositif i COVID-19 yn ystod y 14 diwrnod diwethaf.

Arlwyo

Ar gyfer plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, bydd y systemau e-dalebau a parent pay yn parhau'n weithredol hyd y dywedir yn wahanol. Am wythnosau cyntaf y tymor ni fydd darpariaeth arlwyo gan y Cyngor mewn ysgolion a bydd angen i ddisgyblion ddod â chinio pecyn. Bydd hyn yn galluogi ysgolion i ganolbwyntio ar reoli rhyngweithio disgyblion mewn grwpiau'n ddiogel ar ddechrau'r tymor nes bod y patrymau newydd o fywyd yr ysgol wedi'u sefydlu. Cewch wybod pan fydd arlwyo mewn ysgolion yn ailddechrau.

Cyrraedd yr ysgol

Ystyrir mai Teithio Llesol yw'r ffordd fwyaf diogel ac iach o gyrraedd yr ysgol ac anogir disgyblion i gerdded, sgwtio neu feicio lle y bo'n bosibl.  Cedwir newidiadau i gynlluniau ffyrdd o gwmpas yr ysgolion er mwyn cefnogi mynediad diogel. Ar gyfer y disgyblion hynny sy'n defnyddio trafnidiaeth ysgol ac na allant gyrraedd yr ysgol hebddi bydd angen gwisgo mygydau wrth ddefnyddio trafnidiaeth ar gyfer pob disgybl dros 7 oed. Cyfathrebir trefniadau manwl ar gyfer trafnidiaeth i chi trwy eich ysgol ar gyfer dechrau'r tymor.

Wrth i ragor o wybodaeth ac arweiniad ddod ar gael, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin wedi'u diweddaru y gallai disgyblion, rhieni a gofalwyr fod yn eu gofyn yn y cyfnod hyd at fis Medi. Gellir dod o hyd iddynt yma:

http://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/cwestiynau-cyffredin-i-rieni-a-disgyblion/Pages/default.aspx

 

Dysgu sgiliau newydd drwy sgwrs we'r Gwasanaeth I Mewn I Waith

Gallwn ni eich helpu i Mewn i Waith. Mae cymorth cyflogaeth a digidol ar gael i unrhyw un sy'n chwilio am waith neu sydd am ddysgu sgiliau newydd drwy wasanaeth sgwrs ar y we I Mewn I Waith.

Mae'r gwasanaeth ar agor ddyddiau'r wythnos 9am-6pm, 7pm ar nos Iau, a 9am-5.30 pm ddydd Sadwrn, yn Gymraeg ac yn Saesneg:

https://www.intoworkcardiff.co.uk/cy/cysylltwch-a-ni/

 

Dysgwch fwy am y cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd i wella Tudor Street

Bydd rhaglen adfywio gwerth miliynau o bunnoedd sydd â'r nod o greu ardal siopa ddeniadol a bywiog ar gyfer y gymuned leol ac ymwelwyr â Tudor St, Glan yr afon yn dechrau fis nesaf.

Mae lôn feiciau ar wahân newydd, coed newydd a gerddi glaw, goleuadau gwell, palmentydd lletach a chroesfannau gwell i gerddwyr yn rhan o'n cynlluniau i drawsnewid Tudor St yng Nglan-yr-afon yn ardal fwy deniadol a bywiog ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.

Dysgwch fwy am y cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd i wella Tudor Street a dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei feddwl yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Projectau-Trafnidiaeth/Ymgynghoriadau/Pages/default.aspx