Back
Tasglu i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac anghyfiawnder mae cymunedau BAME Caerdydd yn eu hwynebu

10/07/20 

Mae'n bosibl y caiff tasglu â'r nod o daclo anghydraddoldeb ac anghyfiawnder hiliol yng Nghaerdydd ei sefydlu yr haf hwn gan Gyngor Caerdydd.

Cynigiwyd y tasglu gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, mewn ymateb i farwolaeth ofnadwy George Floyd yn yr UDA ac mae'r ymgyrch gan y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn y DU yn galw am gydraddoldeb a chyfiawnder mwy i Gymunedau Pobl Dduon. 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Bu sawl galwad cyhoeddus iawn yn sgil y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys am ailasesiad o sut y caiff unigolion oedd yn hanes Prydain a fu'n gysylltiedig â chaethwasiaeth eu coffau.   Yng Nghaerdydd yn benodol, mae'r ddadl wedi canolbwyntio ar gerflun Syr Thomas Picton yn Neuadd y Ddinas. 

"Rwyf wedi nodi'n gyhoeddus fy mod yn cefnogi'r alwad hon, ac rwyf wedi gofyn i'r Cyngor yn ei gyfanrwydd greu gorchymyn democrataidd i dynnu'r gofeb hanesyddol hon trwy drafodaeth a phenderfyniad gan y Cyngor Llawn cyn gynted â phosibl.

"Fodd bynnag, er bod gweithrediadau fel y rhain yn bwysig, ni allen nhw ein gwyro rhag y dasg galetach o geisio mynd i'r afael â'r heriau mae cymunedau Pobl Dduon yn dal i'w profi heddiw.

"Er bod gan Gaerdydd hanes amlddiwylliannol y gellir bod yn falch ohono, a thraddodiad o ddathlu amrywiaeth, ni allai hyn esgusodi hunanfoddhad neu ddiffyg gweithredu, ac mae'n rhaid i ni gydnabod bod pobl nad ydynt yn wyn yn y ddinas yn gorfod delio â hiliaeth bob dydd. Mae'n bwysig felly, yn fy marn i, ein bod ni hefyd yn meddwl am sut y gallwn ni fynd i'r afael â'r problemau mae cymunedau Pobl Dduon yn eu hwynebu yn y ddinas. Dyma fy rheswm dros ymrwymo i sefydlu tasglu i weithio gyda chymunedau BAME yng Nghaerdydd i gael gwybod am y gwaith ychwanegol y gall y Cyngor ei wneud i'w cefnogi. Rwy'n awyddus i sicrhau nad yw hyn yn dod yn siop siarad lle y caiff yr un trafodaethau rydym wedi'u clywed ers degawdau eu hailadrodd.  Yn hytrach, rydw i eisiau clywed gan leisiau newydd, a chanolbwyntio ar faterion tactegol y gall y Cyngor weithredu'n gyflym arnynt, ac ysgogi newid mewn pobl eraill, gan ymateb i anghenion go iawn ein cymunedau."

Mae Arweinydd y Cyngor wedi gwahodd cynghorydd lleol Butetown, Saeed Ebrahim, i gadeirio'r Tasglu Cydraddoldeb Hilio, a allai roi lle i 14 aelod yn ogystal â'r cadeirydd. Caiff proses benodi gyhoeddus ei chynnal i nodi ymgeiswyr ar gyfer y swyddi ar y tasglu.

Dywedodd y Cynghorydd Ebrahim: "Rydym am daclo'r gwahaniaethu a'r anfanteision mae'r gymuned BAME yng Nghaerdydd yn eu hwynebu yn ogystal â dod o hyd i atebion.  Bydd angen unigolion craff sydd â diddordeb mewn hawliau hiliol a dynol ar y tasglu. Mae angen pobl â'r gallu, y profiad, y cyfle a'r dylanwad arnom i wneud newidiadau go iawn yn eu sectorau, eu diwydiannau neu eu sefydliadau.

"Byddwn yn ymgynghori â'r gymuned BAME ym mis Awst i gael barn ar flaenoriaethau'r tasglu. Bydd hyn yn ein helpu i lunio agenda'r tasglu. Rwyf am i ni lunio adroddiadau rheolaidd i'r Cabinet ynghyd ag argymhellion i'w gweithredu i gael eu hystyried. Rwy'n awyddus i roi cychwyn arni. Rwy'n gwybod bod y Cabinet hwn am weld newid go iawn ac mae'r tasglu yn ffordd o sicrhau bod llais y gymuned BAME yn cael ei glywed pan gaiff polisïau newydd eu drafftio."

Mae'r Cyngor hefyd wedi nodi meysydd cychwynnol y mae'n cynnig y dylent gael eu hystyried gan y tasglu, gan gynnwys:

  • Cael gwybod am waith ychwanegol y gellir ei wneud i sicrhau bod aelodau a gweithlu'r Cyngor yn cynrychioli amrywiaeth lawn y ddinas y mae'n ei gwasanaethu;
  • Cefnogi cymunedau BAME i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth;
  • Gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar archwilio cerfluniau, enwau strydoedd ac adeiladau i fynd i'r afael â chysylltiadau Cymru a'r fasnach mewn caethweision.

Ddydd Iau 16 Gorffennaf, bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad yn argymell sefydlu'r tasglu. Ar ôl cytuno ar hyn, bydd gwaith yn dechrau ar recriwtio aelodau ac ar ymgynghori â'r gymuned BAME ar flaenoriaethau'r tasglu.

Bydd y tasglu'n rhoi adroddiad blynyddol i'r Cyngor Llawn, yn unol â'r amserlen adrodd ar gyfer Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol statudol y Cyngor, yn ogystal ag adroddiadau i'r Cabinet drwy gydol y flwyddyn gydag argymhellion i'w gweithredu mewn meysydd â blaenoriaeth.