Back
Annwyl Dyddiaduron Y Diff: Yn ôl i'r ysgol â phlant a phobl ifanc y ddinas


7/7/20
Mae plant a phobl ifanc ledled y ddinas yn cael eu hannog i gofnodi eu pennod nesaf ym mhroject
Dyddiaduron Y Diff- dychwelyd i'r ysgol.

Wrth i ysgolion ar draws y ddinas ddechrau croesawu disgyblion yn ôl yr wythnos hon yn eu sesiynau 'Ailgydio, Dal i Fyny a Pharatoi', mae trefnydd y project, Addewid Caerdydd, yn atgoffa ysgrifenwyr dyddiadur ifanc bod amser o hyd i gymryd rhan a chyflwyno darn.

Mae mwy na 75 darn eisoes wedi'u cyflwyno fel rhan o'r project a lansiwyd ym mis Ebrill ar gyfer plant rhwng saith ac 16 oed, i rannu eu profiadau yn ystod argyfwng COVID-19 a dogfennu eu gweithgarwch, eu meddyliau a'u teimladau mewn recordiadau fideo, gludweithiau ffotograff neu gofnodion dyddiadur ysgrifenedig yn ystod y cyfnod cloi.

Gyda chefnogaeth Cymdeithas Adeiladu Principality, Amgueddfa Caerdydd, Cynghrair Sgrin Cymru a Phrifysgol De Cymru, bydd y project yn parhau dros yr wythnosau nesaf gan roi cyfle i bobl ifanc ledled y ddinas gofnodi eu profiad o ddychwelyd i'r ysgol yn eu dyddiaduron.

 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'rDyddiaduron Y Diffsydd wedi dod i law hyd yma wedi creu argraff dda iawn arnom ni, ac wrth i ni nesáu at ddiwedd y flwyddyn ysgol hon - un rwy'n siŵr na fydd unrhyw un ohonom yn anghofio'n fuan, rydym yn annog plant a phobl ifanc i gyflwyno darn i'r project yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn.

"Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn ddinas sy'n dda i blant ac mae sicrhau bod lleisiau a phrofiadau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed drwy'r pandemig yn rhan o hynny. Rydym eisiau clywed gan gynifer o ddisgyblion a myfyrwyr â phosibl o bob rhan o'r ddinas. Rydym wedi cael llawer o gyflwyniadau gan ferched ac rydym am sicrhau ein bod yn clywed gan fechgyn yn ein hysgolion yn ogystal, i sicrhau ein bod yn casglu ystod eang o brofiadau o'r cyfnod hwn.

"Wrth i ni ddechrau gadael y cyfnod cloi, mae'n siŵr y bydd emosiynau plant a phobl ifanc a'r gweithgareddau y maen nhw'n gallu eu gwneud yn wahanol i'w teimladau a'u profiadau ar gychwyn y cyfnod cloi.  Mae mynd yn ôl i'r ysgol yn garreg filltir bwysig ac rydyn ni'n awyddus i gael clywed am y profiadau hyn.

Gellir cyflwyno darnau yn Gymraeg a Saesneg a rhaid eu lanlwytho drwy blatfform Hwb (https://sites.google.com/hwbcymru.net/the-covid-19-diff-diaries/home) Rhaid cael caniatâd rhieni cyn cyflwyno darnau.

Mae gwobr wythnosol ar gael ar gyfer y cyflwyniadau, diolch i Gymdeithas Adeiladu Principality, sy'n rhoi dwy bêl rygbi - un am y dyddiadur gorau bob wythnos ac un i ffrind yr enillydd wythnosol neu aelod o'i deulu. Mae chwe enillydd lwcus a gyflwynoddDyddiaduron Y Diffeisoes wedi cael eu gwobrau.

 

Caiff gŵyl ffilm ei chynnal, yn arddangos y cofnodion a ddewisir gan banel o bobl ifanc, arbenigwyr o faes addysg a'r diwydiant ar ôl yr argyfwng iechyd.

Am ragor o wybodaeth am sut i gyflwyno cofnodion ewch i dudalen hwbhttps://sites.google.com/hwbcymru.net/the-covid-19-diff-diaries/homeneu dilynwch yr ymrwymiad Caerdydd cyfrifon cyfryngau cymdeithasol:

Facebook - Addewid Caerdyddhttps://www.facebook.com/cardiff.commitment.77

Instagram - Addewid Caerdyddhttps://www.instagram.com/cardiffcommitment/

Twitter-@AddewidCdyddhttps://twitter.com/AddewidCdydd

 

Addewid Caerdydd yw menter Cyngor Caerdydd sy'n dod â'r sectorau cyhoeddus a phreifat ynghyd i weithio mewn partneriaeth i gysylltu pobl ifanc â'r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael ym myd gwaith.

Nod Addewid Caerdydd yw sicrhau bod pob person ifanc yn y ddinas yn cael swydd yn y pen draw a fydd yn ei alluogi i gyrraedd ei botensial llawn a chyfrannu at dwf economaidd y ddinas.