29/06/20
Gwelodd Caerdydd 6,600 blant a phobl ifanc yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth heddiw, wrth i ysgolion y ddinas ailagor ar gyfer yr 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 3 Mehefin.
Er mwyn cynnal cadw pellter cymdeithasol, mae hyd at draean o ddisgyblion a myfyrwyr yn yr ysgol ar unrhyw un adeg. Mae hyn yn golygu bod y plant a'r bobl ifanc yn dechrau'n gyfnodol, gyda sesiynau ailgydio a dal i fyny ar y gweill rhwng nawr a diwedd y tymor, ar 20 Gorffennaf.
Roedd llawer o ddiddordeb gan y cyfryngau wrth i gatiau'r ysgol ailagor yn y brifddinas, gyda newyddiadurwyr yn gohebu, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol, o chwech o'n hysgolion yn ystod y dydd.
Yn y cyfnod cyn yr agor heddiw, mae ysgolion wedi bod yn cyhoeddi gwybodaeth, ac mae'r Cyngor wedi bod yn darparu canllawiau.
Mae Cwestiynau Cyffredin wedi'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor, gan roi atebion ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys iechyd a diogelwch, y cwricwlwm a gofal plant.
Cliciwch yma i weld y Cwestiynnau Cyffredin.
Mae'r Cyngor hefyd wedi cynhyrchu fersiwn o'r Cwestiynnau Cyffredin sy'n addas i blant, sydd i'w gweld yma:
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â chynllunio a'r rheoli gofalus sydd wedi bod yn ofynnol i ailagor ein hysgolion, er mwyn i'r plant a'r bobl ifanc gael ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer mis Medi.
"Rwy'n gwybod y bydd llawer o blant wedi cyffroi wrth feddwl am weld eu hathrawon a'u ffrindiau heddiw, ond yn yr un modd, roedd yna rieni, a staff, a oedd yn teimlo'n bryderus ynghylch plant yn dychwelyd i'r ysgol, a dyna pam mae cymaint o waith wedi mynd ar iechyd a diogelwch ein hysgolion yn ystod yr wythnosau diwethaf."
Ers dechrau'r clo ar 23 Mawrth, mae addysg yng Nghaerdydd wedi parhau drwy ddysgu o bell ar-lein, a alluogwyd gan athrawon gyda chymorth y Cyngor a Chonsortiwm Canolbarth y De.
Mae'r Cyngor wedi darparu dros 6,000 Chromebook i ddisgyblion ar draws y ddinas nad oedd dyfeisiau gartref ganddynt, a chysylltedd rhyngrwyd 4G i 1,700 o'r rhain drwy ddyfeisiau symudol.
Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Mae'r mesurau cadw pellter cymdeithasol llym rydyn ni wedi'u rhoi ar waith wedi gweld ysgolion yn gweithredu ar gapasiti llai o lawer, gyda nifer sylweddol is ddisgyblion mewn ysgolion ar unrhyw un adeg.
"Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn parhau i ddysgu o'u cartrefi yn ystod yr wythnos, ac rwyf hefyd am ddiolch i'r staff sy'n rhan o'r gwaith o sicrhau bod gan y teuluoedd hynny mewn angen, y dyfeisiau a'r cysylltedd angenrheidiol erbyn hyn er mwyn cael mynediad at addysgu ar-lein eu hysgolion."
Yn ystod y cloi, mae 25 o ysgolion wedi bod yn gweithredu fel Hybiau Gofal Plant i weithwyr allweddol, gan ddarparu gofal plant i 450 o blant y dydd ar gyfartaledd. Mae'r canolfannau hyn hefyd wedi darparu cymorth hanfodol i ddysgwyr agored i niwed, a atgyfeiriwyd i gael cymorth gan ein Panel Dysgwyr Agored i Niwed newydd. Nawr fydd yr ysgolion wedi ail-agor, mae gofal plant wedi ei drosglwyddo i ysgol gartref y disgyblion weddill tymor yr haf.