Yn y diweddariad ar COVID-19 a gafwyd heddiw gan Gyngor Caerdydd: partneriaeth newydd er mwyn parhau â'r gefnogaeth i blant sy'n agored i niwed yn ystod yr argyfwng; canllawiau gan Lywodraeth Cymru ar reoliadau'r cyfyngiadau symud yng Nghymru; a'r cantor o swyddog diogelwch yng Nghastell Caerdydd - sut mae tywysydd a adleolwyd yn gwneud y gorau o ragoriaethau acwstig y tirnod eiconig hwn yn ystod cyfnod y cloi.
Dull partneriaeth yn cefnogi plant agored i niwed Caerdydd
Mae gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth o dimau iechyd, addysg a gwasanaethau plant wedi dod at ei gilydd i sicrhau bod plant ag anableddau ac anghenion meddygol cymhleth yn gallu parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnynt, yn ystod COVID-19.
Sefydlwyd y grŵp amlasiantaeth i alluogi disgyblion a'u teuluoedd i gyrchu gwasanaethau, cyngor a chymorth gan nifer o weithwyr proffesiynol ym meysydd gofal iechyd, addysg a gwasanaethau plant.
Hefyd, datblygwyd gwasanaeth brysbennu y gall teuluoedd a gweithwyr proffesiynol atgyfeirio atynt i blant ag anghenion gofal iechyd, fel bod modd defnyddio'r lefel gywir o gyngor a chymorth.
Mae'r grŵp yn cyfarfod bob wythnos ac mae'n cynnwys staff ysgol, gweithwyr cymdeithasol, seicolegwyr clinigol, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd ac iaith, nyrsys cymunedol, pediatregwyr, ymwelwyr iechyd anghenion arbennig, deietegwyr a ffisiotherapyddion.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd: "Mae ein timau wedi gweithio'n galed i sefydlu a chynnal dull amlasiantaeth sy'n cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion a'u teuluoedd, gan sicrhau y gallant fanteisio ar yr holl ofal a chymorth sydd eu hangen arnynt mewn un lleoliad, tra'n cynnal mesurau i leihau lledaeniad yr haint.
"Mae'n dda gweld ystod helaeth o weithwyr proffesiynol, oll yn cydweithio i sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu bodloni mewn ffordd gyfannol yn ystod yr ymateb i COVID-19 ac yn cefnogi ein teuluoedd."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey: "Mae'r argyfwng iechyd byd eang yn adeg annifyr bob un ohonom ond yn benodol i blant a phobl ifanc agored i niwed. I'r sawl ag anghenion meddygol neu ddysgu cymhleth, mae'r tarfu hwn i ofal rheolaidd a beunydd yn gallu bod yn annifyr, gan gael effaith niweidiol ar les. Mae'r enghraifft ragorol hon o gydweithio yn sicrhau bod modd parhau i roi'r gofal a'r cymorth gorau yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Dywedodd Rose Whittle, Rheolwr y Gyfarwyddiaeth Iechyd Cymunedol Plant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Bu'n wych gweld sut mae ein timau clinigol amlddisgyblaeth wedi ymateb i'r argyfwng hwn, gan edrych am atebion arloesol a chydweithio gyda chydweithwyr o Addysg a Gofal Cymdeithasol. Mae hyn wedi helpu i gyflawni ymateb amlasiantaeth i gefnogi lles plant a phobl ifanc ag anableddau cymhleth ac anghenion meddygol, gan sicrhau gwasanaeth ymatebol i deuluoedd. Diolch i bawb sy'n rhan ohono, dyma waith partneriaeth ar ei orau."
Rheoliadau Coronafirws Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am yr agwedd iechyd cyhoeddus ar yr ymateb i'r coronafeirws yng Nghymru.
Mae'n gwneud hynny drwy arfer ei phwerau cyfreithiol i roi mesurau ar waith i atal y coronafeirws rhag lledaenu, neu i arafu hynny, a thrwy gefnogi GIG Cymru.
Mae rheolau newydd mewn grym erbyn hyn, sy'n golygu bod yn rhaid ichi aros gartref, er mwyn achub bywydau a diogelu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG). Mae'n bosibl bod y rheolau hyn yn wahanol i'r rheolau mewn rhannau eraill o'r DU, felly mae'n bwysig eich bod yn eu deall.
Aros gartref. Diogelu'r GIG. Achub bywydau.
Cewch wneud y canlynol:
Peidiwch â gwneud y canlynol:
Darllenwchfwy yma:
Y canwr o warchodwr yn perfformio yng Nghastell Caerdydd yn ystod y cloi mawr
Manic Street Preachers, Nile Rodgers, The Killers, Paul Weller - mae'r rhestr o'r cerddorion chwedlonol sydd wedi chwarae gigs gerbron miloedd o gefnogwyr brwd yng Nghastell Caerdydd yn eithaf trawiadol, ond gyda'r Castell ar gau ar hyn o bryd i ymwelwyr mae bellach yn cynnal cyfres o gigs byrfyfyr yn ystod y cloi mawr, a berfformir gan un o weithwyr Cyngor Caerdydd yn ystod seibiannau ar ei shifftiau nos fel gwarchodwr.
Jodie Daniels sy'n perfformio'r gigs acwstig fin nos yn y tiroedd gwag a'r ystafelloedd wedi eu dylunio gan Burges, gan gynnwys rhai sydd ddim yn gyffredinol yn hygyrch i'r cyhoedd, ac yna mae'n eu huwchlwytho ar YouTube i bobl eu mwynhau.
Mae llawer o ystafelloedd mwyaf godidog y Castell, gan gynnwys y Neuadd Fawr a'r Ystafell Arabaidd wedi cynnal perfformiadau ond mae un o hoff lefydd Jodie i chwarae ychydig yn fwy anarferol - yr ystafell ymolchi yn y Tŵr Mawr, lle mae "acwsteg wych" yn ôl y cerddor ifanc.
Mae ei fersiynau o ganeuon enwog ar YouTube ar hyn o bryd yn cynnwys 'I Want To Break Free' gan Queen, 'Come Together' gan The Beatles, ac 'One Hand in my Pocket' gan Alanis Morissette.
Mae bod yn warchodwr, heb sôn am gigio yng Nghastell Caerdydd, yn dipyn o wyrdroad o waith arferol Jodie. Fel arfer, mae'n tywys rhai o'r cannoedd o filoedd o ymwelwyr sy'n heidio i'r Castell bob blwyddyn, ond gyda'r Castell ar gau a'r lefelau staffio yn is oherwydd Covid-19, mae'n un o gannoedd o staff Cyngor sydd wedi cael eu hadleoli i rolau newydd fel y gellir parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.
Darllenwch fwy yma: