Back
Daliwch eich tir a daliwch i faethu!


 11/05/20
 
Mae Cyngor Caerdydd yn dathlu Pythefnos Gofal Maeth, yn dechrau heddiw, drwy anfon neges glir i ddarpar ofalwyr maeth yn y ddinas - 'Mae eich angen chi o hyd!'

 

Mae Gofal Maeth Caerdydd yn parhau i recriwtio gofalwyr maeth er gwaethaf yr argyfwng iechyd presennol ac mae'n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd am gael gwybod mwy am faethu ac sy'n meddwl y gall ddefnyddio ei sgiliau, ei wybodaeth a'i arbenigedd i helpu i gyfoethogi a gwella bywydau plant a phobl ifanc Caerdydd. Gall hyn fod naill ai ar gyfer seibiannau byr, gofal seibiant neu ofal hirdymor. 

 

Mae Pythefnos Gofal Maeth yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth am ofal maeth ac i ddathlu ymroddiad gofalwyr maeth a'r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar ein cymunedau lleol. Thema'r ymgyrch eleni, sy'n rhedeg o 11 i 24 Mai, yw 'Dyma yw Maethu'.

 

Bydd Neuadd y Ddinas yn cael ei goleuo'n oren, lliw nodedig Gofal Maeth Caerdydd, o 15 - 24 Mai, i nodi Pythefnos Gofal Maeth.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cyng. Graham Hinchey: "Rwyf wedi cael y fraint o gyfarfod â nifer o ofalwyr maeth yn y ddinas dros y blynyddoedd diwethaf, yn bobl sy'n newydd i'r rôl a'r rhai sydd wedi bod yn maethu ers blynyddoedd. Mae wedi bod yn bleser llwyr gennyf glywed am eu profiadau ac mae Pythefnos Gofal Maeth yn gyfle i ddangos ein diolchgarwch i'r holl ofalwyr maeth hynny sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a phobl ifanc. Diolch i bob un ohonoch. Rydych chi'n gwneud gwaith anhygoel.

 

"Pan fydd pobl yn penderfynu ymuno â Gofal Maeth Caerdydd, gallant fod yn hyderus y byddant yn gallu manteisio ar rwydweithiau cymorth o'r radd flaenaf, cyfleoedd a hyfforddiant amrywiol a phecyn ariannol hael iawn.  Er enghraifft, mae ein cynnig estynedig yn golygu mai'r swm lleiaf y gallai gofalwr ei gael am faethu un plentyn yw'r cyfateb i gyflog o £ 25,000 y flwyddyn.

 

"Er gwaetha'r amgylchiadau anodd rydyn ni i gyd yn byw trwyddynt, mae Gofal Maeth Caerdydd yn parhau i gefnogi a rhoi arweiniad i'n holl ofalwyr maeth ac rydym yn dal yn awyddus i weld teulu Gofal Maeth Caerdydd yn tyfu gan fod llawer mwy o blant yn ein dinas sydd angen cartref diogel a sefydlog.  Ar hyn o bryd, mae angen pobl a all ofalu am blant hŷn arnom yn ogystal â theuluoedd o gefndiroedd pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig er mwyn ein helpu i ddod o hyd i'r gofalwyr maeth perffaith ar gyfer plant a phobl ifanc amrywiol Caerdydd.

 

"Os oes unrhyw un wedi bod yn ystyried maethu, dyma'r adeg berffaith i gysylltu â ni i gael gwybod mwy. Peidiwch â gadael i'r sefyllfa bresennol eich atal; rydym ni eisiau clywed gennych."

Dywedodd Diane, sy'n ofalwr maeth: "Byddwn yn argymell gweithio gyda Chyngor Caerdydd i unrhyw un sy'n ystyried bod yn ofalwr maeth.  Rwyf wedi bod yn gweithio gyda nhw ers mwy na 30 mlynedd, ac yn fy mhrofiad i, rwyf bob amser wedi gweithio law yn llaw â thîm proffesiynol a chefnogol iawn.

"Wrth leoli plant, maen nhw bob amser yn ystyried fy anghenion i ac anghenion fy nheulu, ac yn deall unrhyw amgylchiadau a allai fod yn effeithio ar leoliadau cyfredol neu'n gyffredinol yn y teulu.  Mae hyn wedi fy ngalluogi i barhau i weithio fel gofalwr maeth am gynifer o flynyddoedd, gan fod lleoliadau bob amser yn cael eu dethol yn ofalus er mwyn bod yn llwyddiannus.  Mae hyn nid yn unig o fudd i mi a'm teulu, ond i'r plant sy'n cael eu lleoli, gan ei bod yn bwysig iddyn nhw fod mewn uned deuluol gynaliadwy a diogel. 

"Mae llawer o bethau am fod yn ofalwr maeth yr wyf wir yn eu caru; fodd bynnag, yr amlycaf o'r rhain yw gweithio mor agos gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol i helpu i wella bywyd plentyn. Mae'n rhoi boddhad mawr i mi. "

Mae Gofal Maeth Caerdydd yn cynnig ystod o fuddion hael i sicrhau bod gofalwyr maeth yn cael cymorth, yn ariannol,yn broffesiynol ac yn emosiynol. Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth ewch i gofalmaethcaerdydd.co.uk neu ffoniwch 029 2087 3797. 

Bydd sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd yn dathlu gwaith teulu Gofal Maeth, Caerdydd trwy gydol Pythefnos Gofal Maeth.  Dilynwch @cyngorcaerdydd ar Twitter a cardiff.council1 ar Facebook.