Back
Diweddariad COVID-19: 1 Mai

Yn y diweddariad COVID-19 heddiw: casgliadau gwastraff i fynd yn eu blaen yn ôl yr arfer ar ŵyl banc Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop ddydd Gwener nesaf; ymateb y Cyngor i COVID-19 mewn ffigurau; gwelliannau ffyrdd i ddechrau ar Rodfa'r Gorllewin yr wythnos nesaf; ymateb gwych i ‘Dyddiaduron Diff'; hen safle gwaith nwy wedi'i gaffael ar gyfer tai; gwaith wedi dechrau ar wella cyfleusterau chwaraeon ym Mharc Sanatorium; ple cyhoeddus gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro; a chynllunio i ddechrau cael ei ailgyflwyno o ddydd Llun.

 

Casgliadau gwastraff i fynd yn eu blaen yn ôl yr arfer ar ŵyl banc Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop

Bydd gŵyl y banc gynnar ddechrau Mai eleni ar ddydd Gwener 8 Mai i gyd-fynd â 75 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.

Ni fydd newid i'ch casgliad gwastraff ac ailgylchu ar y diwrnod hwn.

 

Ffeithlun COVID-19: Ymateb Cyngor Caerdydd mewn rhifau

Dros gyfnod argyfwng COVID-19, rydym wedi bod yn cynhyrchu cyfres o ffeithluniau, gan nodi ymateb Cyngor Caerdydd mewn rhifau.

Dyma'r diweddaraf o'r ffeithluniau hyn. Mae'n casglu popeth o niferoedd Cyfarpar Diogelu Personol a gyflenwir, i'r miloedd o oriau a ddarperir mewn gofal cartref bob wythnos; y cannoedd o barseli bwyd a ddarparwyd, i'r degau o filoedd a roddwyd i'n hapêl am fwyd; y miliynau a ddosbarthwyd mewn cymorth busnes; y fyddin o wirfoddolwyr sydd wedi dod ymlaen i helpu; y miloedd o oriau gofal plant a ddarperir bob wythnos yn ein hysgolion; y miloedd o dunelli o wastraff a gasglwyd.

Mae'r rhestr yn mynd ymlaen, ond gallwch weld yr holl rifau ar eich cyfer chi eich hun:

#GweithioDrosGaerdydd #GweithioGydanGilydd #GweithioDrosochChi

 

Gwella diogelwch i gerddwyr ar Rodfa'r Gorllewin

Bydd cynllun gwella diogelwch ar y ffyrdd ar Rodfa'r Gorllewin (yr A48) a gafodd ei atal oherwydd y cyfyngiadau symud COVID-19 yn ailddechrau ddydd Llun 4 Mai gyda'r holl staff yn cydymffurfio â'r gofynion ymbellhau cymdeithasol newydd.

Bydd croesfan twcan newydd yn cael ei osod ar Rodfa'r Gorllewin, a fydd yn cael ei chefnogi gan derfyn cyflymder newydd o 20 MYA. Bydd y cynllun newydd yn gwella diogelwch yn sylweddol i gerddwyr yn yr ardal.

Mae'r contractwr, Alun Griffiths (Contractors) Ltd wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod eu holl staff yn gallu cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth ar ofynion ymbellhau cymdeithasol.

Er mwyn sicrhau y gall y gwaith hwn fynd rhagddo'n ddiogel ac yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol, caiff gorchymyn cau lonydd 24/7 ei roi ar waith ar Rodfa'r Gorllewin o'r gyffordd â Heol Trelái i Waungron Road, sy'n mynd tua'r dwyrain tuag at Ffordd Caerdydd i'r ddau gyfeiriad.

Bydd y gorchymyn cau lonydd hwn ar waith am hyd at chwe wythnos a bydd byrddau cadarn yn cael eu gosod ar y ffordd er mwyn diogelu'r gweithlu wrth iddynt wneud eu gwaith.

Dyma'r cynllun cyntaf i ail-ddechrau ar ôl cyfyngiadau symud COVID-19. Bydd y gwaith ar y briffordd ond yn ailddechrau os gall y contractwyr ddangos eu bod yn gallu gweithio'n ddiogel yn unol â gofynion y Llywodraeth.

 

Ymateb gwych i wythnos gyntaf project Dyddiaduron Caerdydd

Mae wedi bod yn ddechrau gwych i'r project Dyddiaduron Caerdydd, gyda chyflwyniadau gwych gan blant a phobl ifanc Caerdydd yn dod ar y wefan.

Mae fideo wedi'i greu sy'n cyfuno cofnodion y dyddiadur a anfonwyd i mewn hyd yn hyn, a chi a chliciwch i wylio hynny yma:

https://youtu.be/_RsEXLZ2FQU

Mae Dyddiaduron y ‘Diff' yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc gofnodi eu gweithgareddau, meddyliau a theimladau yn ystod y pandemig byd-eang drwy gyflwyno cofnod fideo, collage lluniau neu straeon dyddiadur ysgrifenedig.

Gyda'r ysgolion ar gau, a'r holl ddigwyddiadau mawr a bach wedi eu canslo a phlant a phobl ifanc ymhobman yn gorfod aros gartref, gall y dyddiaduron ddangos sut mae plant a phobl ifanc yn treulio eu hamser, yn dysgu sgiliau newydd efallai, cael eu haddysgu gartref neu hyd yn oed rhannu syniadau â phlant y dyfodol.

Wedi'i gefnogi gan Amgueddfa Caerdydd, Screen Alliance Wales a Phrifysgol De Cymru, cafodd y project ei lansio gan Ymrwymiad Caerdydd ac mae'n cefnogi uchelgais Caerdydd i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant y Cenhedloedd Unedig.

Mae'r project ar gael i bobl 7-16 oed, gallwch gyflwyno dyddiaduron yn Gymraeg a Saesneg ac mae'n rhaid eu lanlwytho drwy'r platfform Hwb:https://sites.google.com/hwbcymru.net/the-covid-19-diff-diaries/home

 

Cyngor Caerdydd yn caffael safle gwaith nwy blaenorol yn Grangetown

Mae Cyngor Caerdydd wedi caffael y safle gwaith nwy blaenorol 29 erw yng Nghaerdydd.

Cynorthwyodd yr ymgynghoriaeth eiddo Knight Frank gyda chaffael y safle ar Ferry Road ar ran Cyngor Caerdydd o'r gwerthwyr y Grid Cenedlaethol a Wales and West Utilities.

Mae'r Cyngor yn bwriadu cyflwyno datblygiad deiliadaeth gymysg a arweinir gan y Cyngor o hyd at 500 o gartrefi ar y safle fel rhan o'i darged o ddarparu 2,000 o gartrefi newydd yng Nghaerdydd, a bydd 1,000 ohonynt yn cael eu cwblhau erbyn 2022.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23758.html

 

Gwaith i wella cyfleusterau chwaraeon ym Mharc Sanatorium

Mae'r gwaith gwella sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd ym Mharc Sanatorium yn adfer marciau dau faes chwaraeon presennol; un cae pêl-droed, un cae rygbi gyda rhywfaint o ffensys, rhwystrau i wylwyr ac mae llochesi tîm wedi'i ychwanegu at y cae pêl-droed.

Mae hyn er mwyn darparu cyfleusterau chwaraeon ar gyfer defnyddwyr a disgyblion yn y gymuned tra bod datblygiad ysgol uwchradd newydd Fitzalan yn cael ei gwblhau. Bydd hefyd yn darparu amwynderau etifeddol gwell a fydd ar gael i'w defnyddio gan y gymuned leol yn dilyn y gwaith, er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau. Bydd hefyd chwech yn fwy o goed ar y safle nag sydd yna ar hyn o bryd, pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau.

Bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn Mehefin 2020 ac ni fydd yn effeithio ar fynediad y cyhoedd i'r parc.

Mae adfer lleiniau chwaraeon yn ddatblygiad a ganiateir ac nid oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith galluogi a oedd yn gysylltiedig ag ysgol uwchradd newydd Fitzalan ar 18 Mawrth, 2020.

 

Apêl cyhoeddus gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gwneud yr apêl canlynol i aelodau o'r cyhoedd: Peidiwch ag oedi cyn ceisio triniaeth feddygol frys.

Mae'n gwbl ddealladwy, yn ystod pandemig COVID-19, fod llawer yn ceisio eu gorau glas i lynu wrth ganllawiau pellhau cymdeithasol, aros gartref i amddiffyn y GIG. Mae hefyd yn ddealladwy y gall y posibilrwydd o orfod mynd i ysbyty fod yn frawychus i grwpiau o bobl sydd mewn perygl.

Fodd bynnag, drwy oedi cyn ceisio triniaeth feddygol frys ar gyfer cyflyrau fel trawiad ar y galon neu strôc, gellid dadlau eu bod yn peryglu eu hiechyd hyd yn oed yn fwy.

Mae ceisio sylw meddygol yn un o'r rhesymau pam y gall pobl adael eu cartrefi yn ddiogel, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi strwythurau a phrosesau cadarn ar waith i reoli cleifion brys a chleifion brys COVID-19 er mwyn lleihau'r risg o groes-heintio.

Felly, os bydd gan unrhyw un symptomau o strôc, poenau yn y frest y maent yn amau a allai fod yn drawiad ar y galon, yn cael anaf sydd angen triniaeth, â phlentyn sâl sydd angen sylw meddygol brys, neu os ydych yn feichiog ac angen sylw meddygol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yno o hyd i'ch helpu.

Hefyd, mae meddygfeydd lleol yn dal ar agor, er y gall fod dulliau gwahanol i bobl eu defnyddio. Anogir aelodau o'r cyhoedd i barhau i ddefnyddio eu meddygon teulu os oes angen sylw meddygol arnynt, ond rhaid iddynt ffonio yn gyntaf cyn mynd i'r feddygfa.

 

Y diweddaraf am gynllunio cyhoeddus

Bydd adran gynllunio Cyngor Caerdydd yn ail-agor eu gwasanaethau drwy gynllun graddol yn dechrau ar ddydd Llun 4 Mai.

Bydd y cam cyntaf yn sicrhau bod yr adran gynllunio yn gallu bwrw ymlaen â cheisiadau cynllunio sydd eisoes wedi'u cyflwyno, yn ogystal â'r swyddogaethau canlynol:

  • Dilysu a chofrestru Cyflawni Amodau (cyn cychwyn ac amodau safonol) a cheisiadau Materion a Gadwyd yn Ôl
  • Ymgynghori ar, asesu a chyhoeddi penderfyniadau swyddogion/Cadeirydd ar amodau cyn cychwyn a safonol a cheisiadau Materion a Gadwyd yn Ôl
  • Cyhoeddi penderfyniadau'r swyddog/cadeirydd ar bob math o geisiadau sydd â therfyn amser ymgynghori cyn 10 Ebrill
  • Asesu a chyhoeddi penderfyniadau ar Dystysgrifau Datblygiad Cyfreithlon
  • Asesu a chyhoeddi penderfyniadau mewn perthynas â cheisiadau i weithio ar Goed a Ddiogelir
  • Parhau i brosesu ceisiadau cyn-ymgeisio
  • Parhau i gynghori ymgeiswyr/asiantau ynghylch a yw gwybodaeth a gyflwynwyd ganddynt yn ateb gofynion dilysu 
  • Parhau i ystyried ceisiadau 'Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw' sydd angen ymateb o fewn 56 diwrnod (tybir fel arall bod cydsyniad wedi ei roi)

Ni fyddceisiadau sy'n gofyn am benderfyniad gan y Pwyllgor Cynllunio yn cael eu penderfynu drwy ddirprwyaethau ac mae gwaith yn mynd rhagddo o ran sut y bydd pwyllgorau cynllunio yn gweithredu yn y dyfodol agos.

Bydd yr holl wasanaethau cynllunio eraill, gan gynnwys ail-agor y gwasanaeth i geisiadau newydd, yn ffurfio rhan o'r ail gam o ail-agor gwasanaethau. Bydd y trefniadau'n cael eu hadolygu a bydd gwybodaeth bellach yn cael ei rhyddhau i'r cyhoedd yn ôl y gofyn.