Back
Cyngor Caerdydd yn caffael safle gwaith nwy blaenorol yn Grangetown



1/5/20
 
Mae Cyngor Caerdydd wedi caffael y safle gwaith nwy blaenorol 29 erw yng Nghaerdydd.

 

Cynorthwyodd yr ymgynghoriaeth eiddo Knight Frank gyda chaffael y safle ar Ferry Road ar ran Cyngor Caerdydd o'r gwerthwyr y Grid Cenedlaethol a Wales and West Utilities.

 

Mae'r Cyngor yn bwriadu cyflwyno datblygiad deiliadaeth gymysg a arweinir gan y Cyngor o hyd at 500 o gartrefi ar y safle fel rhan o'i darged o ddarparu 2,000 o gartrefi newydd yng Nghaerdydd, a bydd 1,000 ohonynt yn cael eu cwblhau erbyn 2022.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae caffael y safle hwn yn ein galluogi i adeiladu rhagor o gartrefi cynaliadwy o ansawdd uchel, sy'n agos i amwynderau lleol a mannau agored, gan ein helpu i gyflawni adfywiad uchelgeisiol ac eang yn Grangetown.

"Mae gwaith eisoes ar y gweill ar yr ystâd Trem y Môr gerllaw, a fydd yn darparu gwell cysylltedd â mannau gwyrdd a chyfleusterau a gwell rhwydweithiau trafnidiaeth gynaliadwy i breswylwyr presennol, yn ogystal â thai fforddiadwy ychwanegol y mae eu hangen yn fawr ar gyfer y gymuned leol. Bellach mae gennym y cyfle i gysylltu'r ddau ddatblygiad hyn a chyflawni adfywiad gwirioneddol drawsnewidiol yn y rhan hon o'r ddinas.

"Mae'r strwythur dal nwy yn Ferry Road yn dirnod adnabyddus yng Nghaerdydd ac rwy'n credu ei bod yn gyffrous iawn y caiff y strwythur ei ymgorffori yn natblygiad y safle, gan gadw rhan allweddol o dreftadaeth Caerdydd."

Dywedodd Leah Mullin, sy'n gydymaith yn nhîm datblygiadau preswyl Knight Frank: "Mae'r safle yn gaffaeliad strategol allweddol i Gyngor Caerdydd.  Bydd y safle'n rhan o adfywiad ehangach sy'n cael ei wneud gan Gyngor Caerdydd ac yn helpu i ddarparu tai i Gaerdydd."

 

 

(DIWEDD)