Back
Diweddariad COVID-19: 30 Ebrill

Dyma'r crynodeb diweddaraf o'r diwrnod gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys:Caerdydd yn mynd i'r afael ag amddifadedd digidol;yr Arglwydd Faer yn cyhoeddi neges pwysig ynglŷn a thrais domestig  - "Nid ydych chi ar eich pen eich hun"; ac timau o Gyngor Caerdydd yn cefnogi Cyngor Bro Morgannwg â danfoniadau PPE.

 

Caerdydd yn mynd i'r afael ag amddifadedd digidol

Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu amrywiaeth o ffyrdd o fynd i'r afael ag amddifadedd digidol, er mwyn i blant a phobl ifanc barhau i fanteisio ar ddysgu ar-lein, tra bo ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.

Mae'r Cyngor wedi bod yn casglu gwybodaeth yn ddiweddar ar faint o ddisgyblion sydd angen cymorth digidol. Mae'r gwaith hwn wedi ei wneud mewn amryw ffordd, gan gynnwys galwadau ffôn, llythyron a  llwyfannau cyfathrebu electronig presennol ysgolion, drwy ffonau symudol fel arfer.

Mae ysgolion Caerdydd yn adnabod eu teuluoedd yn dda ac mae gan lawer ohonynt syniad da iawn eisoes ynghylch pa fynediad sydd gan eu disgyblion gartref, gyda rhai eisoes yn darparu dyfeisiau i ddisgyblion sydd dan anfantais ddigidol. 

Yn ogystal, mae rhai ysgolion wedi mynd y tu hwnt i hyn i sicrhau y gall disgyblion barhau i ddysgu gartref, drwy argraffu gwaith i deuluoedd sydd heb fynediad at ddyfeisiau a/neu argraffwyr, a darparu adnoddau gan gynnwys llyfrau a deunyddiau ysgrifennu.

Mae Caerdydd wedi archebu 1000 o lyfrau Chrome yn ogystal â'r 3000 sydd eisoes wedi'u prynu drwy Gronfa Project Technoleg Addysg. Mae hyn yn ychwanegol at roi cyfarpar presennol yr ysgol ar waith at ddibenion gwahanol. Mae tîm project penodol wedi'i greu i gyflwyno'r cynllun newydd a fydd yn darparu dyfeisiau defnyddwyr a band eang MiFi i'r holl ddisgyblion hynny sydd o dan anfantais ddigidol.

Yn bwysig iawn, mae Caerdydd yn bwriadu gwneud hyn yn ateb hirdymor i fynd i'r afael ag amddifadedd digidol, wedi'r cyfnod cloi.

 

Yr Arglwydd Faer yn cyhoeddi neges pwysig ynglŷn a thrais domestig - "Nid ydych chi ar eich pen eich hun"

Mae cymorth ar gael i'r rhai sy'n profi cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod yr argyfwng Coronafeirws COVID-19.

Gwyliwch Arglwydd Faer Caerdydd, Y Cyng Dan De'Ath ar y gefnogaeth sydd ar gael gan un o'i elusennau dewisol, Cymorth I Ferched Cymru:

https://www.youtube.com/watch?v=JlKkUAcSFxk

Am fwy ewch i:

https://www.welshwomensaid.org.uk/cy/

Neu Ffoniwch Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.

 

Timau o Gyngor Caerdydd yn cefnogi Cyngor Bro Morgannwg â danfoniadau PPE

Mae staff o Hybiau a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Caerdydd wedi bod yn helpu Cyngor Bro Morgannwg i ddosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) i'w Swyddfeydd Dinesig gan ddefnyddio gyrwyr Caerdydd.

Bu'r Gyrrwr Llyfrgell Symudol, Mike Watkins yn rhan o'r gwaith dosbarthu, lle gwnaeth Rob Sadler, Swyddog Iechyd a Lles yr Hybiau, drosglwyddo'r offer i Carl Culverwell, Swyddog Cynllunio Brys ar gyfer y Fro.

Mae'r PPE yn hanfodol ar gyfer gweithwyr allweddol Bro Morgannwg mewn Gofal Cymdeithasol a Chartrefi Gofal Cartref - rhai preswyl a nyrsio.