27/04/20
20/04/20 - Y ddistyllfa gin, argraffwyr a busnesau lleol eraill yn newid eu cynnyrch i helpu i gadw gweithwyr allweddol Caerdydd yn
Mae busnesau lleol, yn cynnwys distyllfa gin a chwmni sy'n cynhyrchu deunydd hyrwyddo â brand wedi bod yn helpu ymateb Cyngor Caerdydd i COVID-19 trwy newid eu ffrydiau cynhyrchu ar fyr-rybudd i gynhyrchu diheintydd dwylo a chyfarpar diogelwch personol.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23676.html
21/04/20 - Elusen ‘Gwesty Achub' yn cael ei sefydlu i gefnogi Cartref Cŵn Caerdydd
Mae elusen newydd wedi cael ei sefydlu i godi arian a rhoi cymorth ychwanegol i'r cŵn sy'n derbyn gofal yng Nghartref Cŵn Caerdydd a hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn ac ymddygiad dyngarol tuag at gwn.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23689.html
21/04/20 - COVID-19: Bron i £50 miliwn o gymorth grant wedi ei ddosbarthu i fusnesau lleol yng Nghaerdydd
Mae bron i £50 miliwn o gymorth grant bellach wedi'i ddosbarthu gan Gyngor Caerdydd i fusnesau Caerdydd fel rhan o'r pecyn achub COVID-19 parhaus.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23691.html
22/04/20 - Contractwyr priffyrdd y Cyngor yn paentio negeseuon yn diolch i'r GIG ar ffyrdd yn arwain i Ysbyty'r Waun
Caiff marciau ffordd dwyieithog gyda'r neges glir - ‘Diolch i'r GIG' - eu paentio ar dair ffordd sy'n arwain i Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23698.html
23/04/20 - Ymlaen â'r gân i gerddorion ifanc Caerdydd
Mae cerddorion ifanc Caerdydd a'r Fro yn gallu parhau i ddysgu, ymarfer a mwynhau cerddoriaeth yn ystod yr argyfwng iechyd sydd ohoni.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23705.html
23/04/20 - Newid oriau agor Marchnad Caerdydd wrth i fasnachwyr bwyd hanfodol ganolbwyntio ar ddanfoniadau cartref
Mae marchnad Caerdydd yn lleihau ei horiau agor dros dro wrth i fasnachwyr bwyd hanfodol barhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau danfoniadau cartref yn ystod pandemig COVID-19.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23707.html
24/04/20 - Bydd mynwentydd yn ail-agor yng Nghaerdydd a Phont y Gored Ddu yn cau
Bydd pedair mynwent yng Nghaerdydd yn ail-agor i aelodau'r cyhoeddo ddydd Sadwrn (25 Ebrill),gyda thimau newydd eu hadleoli i sicrhau bod y broses o ymbellhau cymdeithasol yn cael ei chynnal ac na chaiff y gofodau eu defnyddio'n amhriodol yn ystod argyfwng COVID-19.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23714.html
26/04/20 - Project Dyddiaduron y ‘Diff'; COVID-19 drwy lygaid plant a phobl ifanc Caerdydd
Lansiwyd project ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd i rannu eu profiadau o COVID-19 drwy gofnodion wythnosol mewn dyddiaduron.
Darllenwch fwy yma: