Back
Diweddariad COVID-19: 24 Ebrill

Dyma'r crynodeb diweddaraf o'r diwrnod gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: nodyn i'ch atgoffa bod y ddarpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim yn newid o ddydd Llun; mae elusennau'r Arglwydd Faer eich angen chi; a bydd mynwentydd yn ail-agor yng Nghaerdydd a Phont y Gored Ddu yn cau.

 

Nodyn i'ch atgoffa bod y ddarpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim yn newid o ddydd Llun

 

O ddydd Llun, 27 Ebrill, bydd teuluoedd gyda phlant sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim nawr yn gallu prynu bwyd gan ddefnyddio arian a gaiff ei roi'n uniongyrchol yn eu cyfrif banc, tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.  Bydd hyn yn rhoi rhagor o hyblygrwydd i rieni o ran ble y gallant siopa a bydd y cynllun talebau a ddarperir ar hyn o bryd yn parhau i gael ei gynnal ar y cyd â'r trefniadau newydd.

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu trefniadau newydd fydd yn gwneud taliadau BACS gan ddefnyddio Parent Pay, y system talu ar-lein sydd eisoes yn cael ei defnyddio gan 91 o ysgolion Caerdydd.

 

Ar gyfer y teuluoedd nad ydynt yn gallu defnyddio Parent Pay, bydd y cynllun talebau presennol yn parhau i gael ei gynnig.

 

 

Mae elusennau'r Arglwydd Faer eich angen chi!

 

Mae elusennau ar draws y DU yn cyfrif cost pandemig Covid-19 gan ganslo miloedd o ddigwyddiadau codi arian.

 

Marathon Llundain, a ddylai fod wedi digwydd ddydd Sul 26 Ebrill, yw digwyddiad codi arian undydd mwyaf y byd a chododd fwy na £66.4m i elusennau yn 2019.

 

Mae trefnwyr y digwyddiadau chwaraeon mwyaf ar gyfer cyfranogiad torfol ledled y wlad wedi dod ynghyd i greu ymgyrch newydd i godi arian hanfodol ar gyfer elusennau'r DU, gan gynnwys elusennau'r Arglwydd Faer eleni, Cymorth i Ferched Cymru a BAWSO.

 

Mae Her 2.6, a gafodd ei lansio ddydd Sul 26 Ebrill, yn gofyn i bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd o'u dewis yn seiliedig ar y rhifau 2.6 neu 26 ac i godi arian neu gyfrannu i gefnogi'r elusen o'u dewis.

 

Gallai'r her fod yn gerdded, rhedeg neu feicio 2.6 milltir, jyglo am 2.6 munud, cynnal gwaith ar-lein gyda 26 o ffrindiau. Yr unig ofyniad yw bod yn rhaid ichi ddilyn canllawiau'r Llywodraeth ar ymarfer corff ac ymbellhau cymdeithasol. Gallwch gymryd rhan ar ddydd Sul neu bryd bynnag sydd fwyaf cyfleus i chi.

 

Mae'r Arglwydd Faer ei hun, y Cynghorydd Dan De'Ath wedi ymrwymo i'r her i redeg 2.6 milltir o amgylch y Rhath:

https://youtu.be/qtWzAzhOzk8

 

I ymuno â'r Her 2.6, dilynwch y pedwar cam syml hyn.

 

  1. Meddyliwch am eich her 2.6
  2. Ewch I  https://twopointsixchallenge.justgiving.com/get-involved  i chwilio am Cymorth i Ferched Cymru a BAWSO i roi neu i sefydlu tudalen codi arian.
  3. Gofynnwch i'ch ffrindiau a'ch teulu eich noddi a'u herio i wneud eu her 2.6 eu hunain
  4. Rhannwch lun neu fideo o'ch her ar y cyfryngau cymdeithasol gyda #TwoPointSixChallenge - gan gofio tagio @welshwomensaid @BAWSO

 

Am ragor o wybodaeth am Her 2.6 ac am fwy o syniadau am beth allai eich gweithgaredd fod, ewch i twopointsixchallenge.co.uk

 

Am fwy ar Cymorth i Ferched Cymru ewch i https://www.welshwomensaid.org.uk/cy/  a Bawso,  ewch i https://bawso.org.uk/

 

 

Bydd mynwentydd yn ail-agor yng Nghaerdydd a Phont y Gored Ddu yn cau

 

Bydd pedair mynwent yng Nghaerdydd yn ail-agor i aelodau'r cyhoedd o ddydd Sadwrn (25 Ebrill), gyda thimau newydd eu hadleoli i sicrhau bod y broses o ymbellhau cymdeithasol yn cael ei chynnal ac na chaiff y gofodau eu defnyddio'n amhriodol yn ystod argyfwng COVID-19.

 

Mae'r Cyngor yn galw ar y cyhoedd i ymweld â'r mynwentydd os ydynt yn ymweld â bedd neu ar gyfer angladd yn unig er mwyn parhau i arfer ymbellhau cymdeithasol. Ar destun ar wahân, mae Pont y Gored Ddu dros Afon Taf yn cael ei chau i'r cyhoedd ar ôl i bobl anwybyddu arwyddion yn galw ar bobl i gadw pellter cymdeithasol er gwaethaf rhybuddion dro ar ôl tro.

 

Caewyd y mynwentydd dros dro i'r cyhoedd ddechrau mis Ebrill yn dilyn penwythnos o nifer anarferol o uchel o ymwelwyr â'r safleoedd ac adroddiadau y bu pobl yn cynnal picnics, gemau pêl a chriwiau mawr yn ymgynnull yn gymdeithasol yn y tiroedd. Pan gaewyd y mynwentydd, dywedodd y Cyngor y câi'r penderfyniad ei adolygu'n barhaus.

 

O ddydd Sadwrn, bydd staff, yn bennaf wedi eu hadleoli o wasanaeth Parciau'r Cyngor, gyda chefnogaeth gan Heddlu De Cymru, yn bresenoldeb gweledol ym Mynwentydd Cathays, y Gorllewin, Draenen Pen-y-Graig a Phantmawr a byddant yn monitro yn agos sut caiff y safleoedd eu defnyddio; byddant ar agor o 8am tan 6pm.

 

Bydd timau o'n gwasanaeth parciau hefyd yn parhau â'u patrolau ar y cyd â Heddlu De Cymru ar draws parciau a mannau gwyrdd Caerdydd.

 

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi cymryd camau i sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol yn digwydd yn Llyn Parc y Rhath, gan gyflwyno system unffordd o fynd o amgylch y llyn, a chytunwyd ar gynlluniau heddiw hefyd i gau Pont y Gored Ddu dros dro.

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23714.html