Back
Newid oriau agor Marchnad Caerdydd wrth i fasnachwyr bwyd hanfodol ganolbwyntio ar ddanfoniadau cartref
Mae marchnad Caerdydd yn lleihau ei horiau agor dros dro wrth i fasnachwyr bwyd hanfodol barhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau danfoniadau cartref yn ystod pandemig COVID-19.

Dim ond ar fore Sadwrn y bydd y farchnad yn agor erbyn hyn, o 8am tan ganol dydd.

Mae'r fynedfa a'r allanfa drwy Heol y Drindod, er mwyn i dîm y farchnad allu rheoli nifer y cwsmeriaid sy'n dod i mewn i'r adeilad a sicrhau system ciwio ddiogel.  

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae nifer isel y cwsmeriaid yng nghanol y ddinas yn ystod y cyfnod cloi wedi cael effaith amlwg ar nifer y cwsmeriaid yn y farchnad."

"Bydd y newidiadau dros dro hyn yn galluogi'r masnachwyr i barhau i ganolbwyntio ar ochr gyflenwi eu busnesau, yn rhyddhau ein staff ar gyfer dyletswyddau eraill, a pharhau i wneud yn siŵr bod y rhai sydd eisiau siopa yn y farchnad yn gallu parhau i wneud hynny."

Masnachwyr sy'n aros ar agor yw:

E Ashton (Fishmongers) Limited

Mae Ashton's, sydd wedi bod yn rhan o Farchnad Caerdydd ers ei hagor yn 1891, yn cynnig gwasanaeth cownter ffres a danfoniadau am ddim ledled y ddinas.  Ashton’s yw gwerthwyr pysgod annibynnol mwyaf Cymru, ac mae eu gwerthwyr pysgod medrus yn gallu cynnig y dewis gorau a mwyaf eang o bysgod i'w gwsmeriaid. Ffoniwch eu llinell archebu ar 029 2022 9201  i gael danfoniad am ddim.

JT Morgan Butchers

Mae JT Morgan Butchers, a sefydlwyd yn 1861, yn fusnes teuluol sydd wedi cael canmoliaeth gan bobl fel Rick Stein, Raymond Blanc ac Angela Gray. Maent yn darparu amrywiaeth o gigoedd o safon uchel, gan gynnwys cig oen morfa heli. Cysylltwch â llinell archebu JT Morgan ar 029 2038 8434 i holi am ddanfoniadau.

K Blackmore & Sons Butchers

Mae gan Blackmore Butchers enw da am gynnig cigoedd o safon a thoriadau anarferol. Maent wedi bod yn rhan o'r farchnad ers blynyddoedd lawer ac mae ganddynt lawer o gwsmeriaid ffyddlon. O doriadau cig eidion o safon, i gig gafr a phen moch, mae cigyddion Blackmore yn cynnig gwasanaeth cigyddiaeth heb ei ail. Ffoniwch 029 2039 0401 i gael gwybodaeth am ddanfoniadau.

Sullivans Fruit & Veg (DANFONIADAU CARTREF YN UNIG)

Mae Sullivans Fruit and Veg yn fusnes teuluol, annibynnol gyda dros 50 o flynyddoedd o brofiad. Mae Sullivans yn cynnig bocsys ffrwythau a llysiau ar ben eu harchebion arferol ac yn cynnig gwasanaeth danfon am ddim ar gyfer archebion dros £10. Maent hefyd yn cyflenwi llaeth, wyau a choed ar gyfer stofiau llosgi coed fel rhan o'u gwasanaeth danfoniadau. Archebwch ar-lein drwy www.cardiffgreengrocer.com