Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae economi leol hyblyg sydd wedi gallu ymateb yn gyflym i'r galw newidiol yn sgil argyfwng COVID-19 wedi bod yn hynod o ddefnyddiol i ni fel awdurdod lleol wrth i ni ymateb i'r firws."
Fel arfer, gin a gwirodydd o safon uchel ydy busnes distyllfa gin graddfa lawn gyntaf de Cymru, Castell Hensol, yn eu castell rhestredig gradd 1 ym Mro Morgannwg, ond maent nawr wedi cymryd archebion gan Gyngor Caerdydd am ddigon o ddiheintydd dwylo i bara bron i fis.
Dywedodd Stephen Leeke, rheolwr gyfarwyddwr Vale Resort a chadeirydd Distyllfa Castell Hensol: "Rydym yn falch iawn o allu cynorthwyo'r ymdrech genedlaethol i ddelio â Coronafeirws. Mae Distyllfa Castell Hensol wrthi’n prysur gynhyrchu diheintydd dwylo ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn trawsnewid cyfleuster hyfforddi dan do tîm rygbi Cymru yn y Vale Resort yn ysbyty maes. Hoffwn i dalu teyrnged yn benodol i’n staff trwy’r lleoliad, sydd wedi bod yn hynod o gydymdeimladol a hyblyg mewn amseroedd caled. Er enghraifft, mae nifer o’n gweithwyr yn y tîm digwyddiadau ar hyn o bryd yn gweithio shifftiau dwbl yn y ddistyllfa. Maen nhw wedi bod yn wych ac maen nhw i gyd yn haeddu clod enfawr.”
Mae cynhyrchu fisorau wyneb yn dra gwahanol i argraffu deunyddiau hyrwyddo brand megis ffolderi, arwyddion, labeli a deunydd arddangos ond newidiodd busnes Screentec yng Nglynrhedynog eu busnes arferol i gynhyrchu mwgwd protoeip a danfon y cynnyrch gorffenedig o fewn pythefnos.
Dywedodd Tom Dean, Rheolwr Gyfarwyddwr Screentec: “Ar ôl y sioc gyntaf yn sgil COVID-19, sylweddolodd y tîm yn Screentec fod gennym y sgiliau angenrheidiol i helpu ein harwyr gofal iechyd. Felly daethom at ein gilydd i feddwl ac o fewn teirawr, dyluniom brototeip o amddiffyniad wyneb sy’n ateb y safonau gofynnol.
"Rhoddodd ein chwaer gwmni, Riskmonitor Ltd, eu swyddfeydd i ni’n garedig fel gofod cynhyrchu, ac o fewn ychydig ddyddiau, roeddem yn archebu deunydd, hyfforddi staff ac amserlennu cynhyrchu. Rydym nawr yn cynhyrchu 1000 uned y dydd a byddwn yn dyblu hynny yr wythnos nesaf. Rwy’n hynod falch o sut daeth y tîm at ei gilydd yn y cyfnod hwn o angen.”
Mae cwmnïau partner o dan ymbarél
Resource Group hefyd wedi bod yn gwneud eu rhan. Wedi'i ysbrydoli gan
breswylydd lleol, Ashley
Jay, a oedd wedi bod yn gwneud amddiffyniadau wyneb ar ei argraffwyr 3D gartref
a’u rhoi am ddim i’r GIG a chartrefi gofal lleol, daeth Cadeirydd
Resource, Nick Williams, â thîm at ei gilydd i gynhyrchu amddiffynnydd wyneb
untro o ansawdd uchel ar gyfer y sector gofal iechyd ac eraill sy'n gweithio yn
y rheng flaen yn y gymuned.
Mewn ychydig ddiwrnodau, trodd y tîm gyfleuster campfa i staff ym Mharc Corfforaethol Gwynllŵg yn fferm brintio 3D a phrynu 50 argraffydd 3D gan Amazon dros nos, a bellach maent wedi argraffu miloedd o amddiffynwyr wyneb.
Dywedodd Nick Williams: “Ein cymhelliant yn syml oedd helpu i achub bywydau yn ystod y pandemig erchyll yma. Mae gennym ni brofiad helaeth a hanes hir o gynnal busnesau llwyddiannus yng Nghaerdydd a’r tu hwnt, felly os gallwn ni helpu i achub dim ond un bywyd yn ein cymuned, byddai hynny’n wych.”
Mae'r gweithgynhyrchwyr o Gaerdydd, BCB International, wedi bod yn masnachu am 160 o flynyddoedd, gan gynhyrchu offer achub bywyd i'r lluoedd arfog a'r heddlu, ond maent wedi symud yn gyflym i ymateb i bandemig COVID-19 ac maent bellach yn darparu diheintydd dwylo, menig, tyweli alcohol a mwy ar gyfer gweithwyr allweddol Cyngor Caerdydd.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr BCB International, Andrew Howell: “Mae COVID-19 yn frwydr barhaus i’n dinas, y DU a’n byd. Rydyn ni yn BCB International yn gwneud popeth y gallwn i'w hennill drwy gefnogi ein hymatebwyr cyntaf a gweithwyr iechyd proffesiynol dewr a gweithgar. Rydym wedi cyflogi staff ychwanegol ac rydym yn ymrwymo i gefnogi ein gweithlu trwy’r cyfnod heriol hwn. Gyda'n gilydd, er lles pawb."
Ychwanegodd y Cynghorydd Goodway: “Mae economi
Caerdydd wedi bod yn mynd o nerth i nerth, ond yn amlwg daw’r sefyllfa barhaus
hon â goblygiadau i lawer o fusnesau. Mae prynu’n lleol yn un ffordd y gallwn
chwarae ein rhan wrth gefnogi’r economi leol yn y cofnod caled hwn.”