Back
Y newyddion gan Gyngor Caerdydd y gallech fod wedi'i fethu'r wythnos ddiwethaf

20/04/20

14/04/20 - Gweithwyr swyddfa Cyngor Caerdydd sydd wedi eu hadleoli i'r gwasanaethau digartrefedd yn achub bywyd

15/04/20 - Cyfle i fynd ar daith i Amgueddfa Caerdydd (heb adael y cartref)

15/04/20 - Ysbyty Calon y Ddraig

16/04/20 - ‘Parhewch i ailgylchu gwastraff yn eich bagiau gwyrdd'

17/04/20 - Gallwn ni helpu - Tîm Llinell Gyngor a Bwyd y Cyngor

17/04/20 - COVID-19: Newidiadau i Brydau Ysgol am Ddim

17/04/20 - Cyflwyno system unffordd dros dro i gerddwyr i hwyluso ymbellhau cymdeithasol yn Llyn Parc y Rhath

17/04/20 - Awgrymiadau da ar gyfer delio â'ch gwastraff a'ch ailgylchu yn ystod pandemig y coronafeirws

Dydd Mawrth 14/04/20

14/04/20 - Gweithwyr swyddfa Cyngor Caerdydd sydd wedi eu hadleoli i'r gwasanaethau digartrefedd yn achub bywyd

Achubwyd bywyd dyn digartref gan ddau o swyddogion Cyngor Caerdydd sydd wedi eu hadleoli. Fe aethon nhw ar frys i roi cymorth cyntaf i ddyn digartref wedi iddo lewygu a stopio anadlu.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23627.html

Dydd Mercher 15/04/20

15/04/20 - Cyfle i fynd ar daith i Amgueddfa Caerdydd (heb adael y cartref)

Efallai fod Amgueddfa Caerdydd ar gau yn ystod y cyfyngiadau symud ond mae modd dysgu o hyd o'r straeon hynod ddiddorol sydd ganddo, a hynny trwy fynd ar daith rithwir o'r casgliad, un gwrthrych ar y tro, a lawrlwytho gweithgareddau am ddim sy'n archwilio gorffennol y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23639.html

15/04/20 - Ysbyty Calon y Ddraig

Rhaid i ni godi'n hetiau i staff y cyngor, o'r adrannau cynllunio, priffyrdd, rheoli adeiladu, gwastraff a datblygu economaidd, sydd i gyd wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod Ysbyty Calon y Ddraig yn barod ac yn gweithredu i'r GIG ei ddefnyddio.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23637.html

Dydd Iau 16/04/20

16/04/20 - ‘Parhewch i ailgylchu gwastraff yn eich bagiau gwyrdd'

Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hatgoffa i barhau i ailgylchu eu gwastraff yn ystod y pandemig COVID-19.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23652.html

Dydd Gwener 17/04/20

17/04/20 - Gallwn ni helpu - Tîm Llinell Gyngor a Bwyd y Cyngor

Mae Llinell Gyngor y Cyngor wedi derbyn dros 4,600 o alwadau gan drigolion o bob rhan o Gaerdydd yn chwilio am gymorth a chefnogaeth yn ystod argyfwng COVID-19, ac mae'r Tîm Bwyd wedi darparu 1,900 o barseli bwyd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23668.html

17/04/20 - COVID-19: Newidiadau i Brydau Ysgol am Ddim

Bydd teuluoedd â phlant sy'n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim nawr yn gallu prynu bwyd gan ddefnyddio arian a gaiff ei roi'n uniongyrchol yn eu cyfrif banc, tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.   Bydd hyn yn rhoi rhagor o hyblygrwydd i rieni o ran ble y gallant siopa a bydd y cynllun talebau a ddarperir ar hyn o bryd yn parhau i gael ei gynnal ar y cyd â'r trefniadau newydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23666.html

17/04/20 - Cyflwyno system unffordd dros dro i gerddwyr i hwyluso ymbellhau cymdeithasol yn Llyn Parc y Rhath

Mae system unffordd dros dro ar gyfer cerddwyr o amgylch Llyn Parc y Rhath yn cael ei chyflwyno'r penwythnos hwn i helpu preswylwyr lleol i ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol pan fyddant yn mynd am eu hymarfer dyddiol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23663.html

17/04/20 - Awgrymiadau da ar gyfer delio â'ch gwastraff a'ch ailgylchu yn ystod pandemig y coronafeirws

Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o newidiadau wedi cael eu gwneud i'r ffordd rydym yn gweithredu ein gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu ar hyn o bryd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23660.html