Back
Diweddariad COVID-19: 17 Ebrill

Dyma'r crynodeb COVID-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: system unffordd dros dro i gerddwyr yn Llyn Parc y Rhath; newidiadau i Brydau Ysgol am Ddim; a'r tîm Llinell Gyngor a Bwyd y Cyngor

 

Cyflwyno system unffordd dros dro i gerddwyr i hwyluso ymbellhau cymdeithasol yn Llyn Parc y Rhath

Mae system unffordd dros dro ar gyfer cerddwyr o amgylch Llyn Parc y Rhath yn cael ei chyflwyno'r penwythnos hwn i helpu preswylwyr lleol i ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol pan fyddant yn mynd am eu hymarfer dyddiol.

Mae'r cynllun peilot, a fydd yn dechrau ddydd Sadwrn 18 Ebrill, yn ymateb i bryderon a godwyd gan breswylwyr lleol a bydd yn creu system unffordd glocwedd ar hyd y llwybr o amgylch y llyn. Bydd yn parhau ar waith am saith diwrnod yr wythnos hyd nes y nodir yn wahanol.

Bydd arwyddion yn cael eu gosod yn y parc i ddangos i breswylwyr lleol ac ymwelwyr sut y bydd y system newydd yn gweithio a bydd staff wrth law y penwythnos hwn i helpu pobl i ddod i arfer â'r trefniadau newydd.

Bydd traffig dwyffordd yn cael ei gynnal ar Wild Gardens Road, Lake Road East a Lake Road West, rhwng y Gerddi Gwyllt a'r promenâd. Yma, bydd yr holl leoedd parcio i ymwelwyr yn cael eu tynnu, yn agosaf at y Llyn, a fydd yn creu lle ychwanegol i feicwyr a loncwyr.

Mae'r newidiadau i gynllun y briffordd wedi'u cynllunio i annog pobl i beidio â gwneud teithiau nad ydynt yn hanfodol mewn car i'r ardal.

Disgwylir i'r system unffordd o amgylch y llyn gael ei threialu ar y penwythnos sy'n dechrau ar 18 Ebrill. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y cynllun yn cael ei estyn tan o leiaf 26 Ebrill gyda'r bwriad o weithredu mesurau mwy parhaol ar gyfer cyfnod hwy o COVID-19.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23663.html

 

Newidiadau i Brydau Ysgol am Ddim

Bydd teuluoedd â phlant sy'n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim nawr yn gallu prynu bwyd gan ddefnyddio arian a gaiff ei roi'n uniongyrchol yn eu cyfrif banc, tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19. Bydd hyn yn rhoi rhagor o hyblygrwydd i rieni o ran ble y gallant siopa a bydd y cynllun talebau a ddarperir ar hyn o bryd yn parhau i gael ei gynnal ar y cyd â'r trefniadau newydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu trefniadau newydd fydd yn gwneud taliadau BACS gan ddefnyddio Parent Pay, system talu ar-lein sydd eisoes yn cael ei defnyddio gan 91 o ysgolion Caerdydd.

Mae'r Cyngor yn cynorthwyo'r 34 o ysgolion sy'n weddill i gofrestru gyda'r system i sicrhau y gall pawb gael mynediad i gynllun taliadau rheolaidd.

Bydd rhieni neu ofalwyr â phlant sy'n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim yn cael llythyr yn ystod yr wythnos nesaf fydd yn rhoi gwybodaeth iddynt ar sut i dderbyn y taliad fesul pythefnos. Ar gyfer y rheiny nad ydynt yn defnyddio ParentPay eto, bydd canllaw cam wrth gam ar sut i gofrestru yn ogystal â manylion cyswllt os bydd angen rhagor o gymorth arnynt.

Anogir rhieni a gofalwyr i gofrestru i gael taliadau cyn gynted ag y cânt eu llythyrau er mwyn gallu derbyn eu taliadau BACS cyntaf o ddydd Llun 27 Ebrill.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23666.html

 

Gallwn ni helpu - Tîm Llinell Gyngor a Bwyd y Cyngor

Mae Llinell Gyngor y Cyngor wedi derbyn dros 4,600 o alwadau gan drigolion o bob rhan o Gaerdydd yn chwilio am gymorth a chefnogaeth yn ystod argyfwng COVID-19, ac mae'r Tîm Bwyd wedi darparu 1,900 o barseli bwyd.

Mae'r Llinell Gyngor ar agor chwe diwrnod yr wythnos i helpu pobl ag amrywiaeth o faterion gan gynnwys cael gafael ar fwyd aceitemau hanfodol, hawlio budd-daliadau ac incwm, cyngor I Mewn i Waith, cyngor ar Gredyd Cynhwysol a help gyda dyledion.

Ers cyhoeddi'r cyfyngiadau symud yn y DU ar 23 Mawrth, mae'r tîm wedi ateb 4,609 o alwadau ac maen nhw'n cyflawni rôl hollbwysig yn ymateb y ddinas i sicrhau darpariaeth ar gyfer pobl mewn angen sy'n agored i niwed yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23668.html