Back
Diweddariad COVID-19: 16 Ebrill

Dyma'r crynodeb COVID-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: mae trigolion Caerdydd yn cael eu hatgoffa i barhau i ailgylchu eu gwastraff; mae bron i £85,000 wedi ei addo i Apêl Bwyd Caerdydd; ac mae staff yn Ysgol Uwchradd Caerdydd wedi dod ynghyd i gefnogi'r GIG.

 

‘Parhewch i ailgylchu gwastraff yn eich bagiau gwyrdd'

Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hatgoffa i barhau i ailgylchu eu gwastraff yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae'r rhan fwyaf o drigolion eisoes yn gwneud hynny, ond mae rhai yn gofyn pam y dylen nhw barhau i wahanu eu deunyddiau ailgylchadwy i fagiau gwyrdd pan fo gwastraff ailgylchu'r ddinas yn mynd i gyfleuster adfer ynni Viridor ym Mharc Trident yn ystod y pandemig.

Mae pedwar prif reswm pam mae angen i chi barhau i ailgylchu:

1.

Cyn gynted ag y bydd yr argyfwng wedi dod i ben - bydd y gwaith ailgylchu arferol yn ailddechrau. Os ydych yn ailgylchu yn ôl yr arfer byddwn yn gallu newid yn ôl heb fawr ffwdan. Peidiwch â thorri'r arfer ailgylchu. Wedi i'r arfer gael ei thorri, mae'n anodd ailddechrau, ac mae'n bosibl y byddwn yn dychwelyd i'r drefn arferol yn gynt nag y byddech yn ei ddisgwyl.

2.

Ni fydd digon o le yn eich biniau olwynion du ar gyfer eich gwastraff cyffredinol a'ch gwastraff ailgylchadwy. Cadwch nhw ar wahân fel bod modd gwahaniaethu rhwng y gwahanol fathau o wastraff.

3.

Anfon y rhan fwyaf o wastraff y ddinas i gyfleuster Viridor yw'r opsiwn mwyaf diogel i drigolion a'n criwiau yn ystod yr argyfwng

4.

Mae'r Cyfleuster Adfer Ynni yn ailgylchu cyfran o'r gwastraff sy'n cael ei gyflwyno yno. Gwneir hyn drwy ailgylchu'r ddau waddod sy'n cael eu cynhyrchu drwy'r broses, sef Lludw Gwaelod (deunyddiau nad ydynt yn llosgi) a Lludw Ffliw (gweddillion a gesglir drwy'r driniaeth nwy ffliw).

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23652.html

 

Entrepreneur o'r ddinas yn rhoi hwb i Apêl Bwyd Caerdydd

Mae bron i £85,000 wedi ei addo i Apêl Bwyd Caerdydd wrth i'r ddinas ddod ynghyd i gefnogi pobl sydd mewn angen yn ystod yr argyfwng COVID-19.

Yr wythnos hon, mae rhodd o £3,000 gan yr entrepreneur a'r buddsoddwr Alan Peterson sy'n frodor o Gaerdydd, wedi rhoi hwb i'r pot, yn dilyn rhoddion gan Admiral a dau gymwynaswr di-enw yn y ddinas a roddodd gychwyn cryf ar yr apêl yr wythnos diwethaf.

Ysgrifennodd Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas, i gwmnïau blaenllaw ledled Caerdydd yn gofyn iddynt gefnogi'r gronfa yr wythnos diwethaf, ac mae cynllun rhoddion newydd wedi'i drefnu ar wefan y Cyngorwww.caerdydd.gov.uk/apelbwydlle gall unrhyw berson roddi.

Dywedodd Mr Peterson: "Fel teulu, rydym yn cymryd rhan weithredol mewn nifer o elusennau ond ar hyn o bryd mae'r gwaith elusennol yn dechrau gartref - a hynny yw Caerdydd. Rydym ni felly wrth ein boddau yn cefnogi Apêl Arweinydd Cyngor Caerdydd."

Yr apêl yw'r fenter ddiweddaraf i sicrhau bod pobl sy'n cael anawsterau ariannol wrth brynu bwyd a phobl nad ydynt yn gallu siopa ar eu cyfer eu hunain ar hyn o bryd yn cael bwydydd. Bydd yr holl arian a godir drwy'r apêl yn cael ei wario ar fwyd a hanfodion.

I roddi, ewch i: 

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/gwirfoddoli/Pages/default.aspx

Diolch.

 

Mae staff yn Ysgol Uwchradd Caerdydd wedi dod ynghyd i gefnogi'r GIG

Roedd yr athrawon Dylunio a Thechnoleg, Liam Powell a Jon Martlew am wneud rhywbeth i helpu ac maent wedi bod yn gweithgynhyrchu hyd at 300 o fisorau y dydd gan ddefnyddio deunyddiau'r ysgol.

Mae Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol hefyd wedi bod yn cefnogi'r cynllun drwy greu tudalen codi arian sydd wedi codi dros £10,000 fel y gall Liam a Jon brynu rhagor o ddeunyddiau.

Bydd hyn yn parhau tra bod yr argyfwng yn para a hoffai'r ysgol estyn diolch enfawr i bawb sydd wedi eu cefnogi hyd yn hyn.

Mae rhagor o wybodaeth yma:

https://www.gofundme.com/f/dbx3b-visors-for-the-nhs