Back
Diweddariad COVID-19: 15 Ebrill

Y diweddara am COVID-19 gan Gyngor Caerdydd: Rhod Gilbert yn cael profiad o ofal cymdeithasol ar y rheng flaen;cyfle i fynd ar daith i Amgueddfa Caerdydd (heb adael y cartref) ; Ysbyty Calon y Ddraig; a Tŷ Canna gwasanaeth allgymorth iechyd meddwl.

 

Rhod Gilbert yn cael profiad o ofal cymdeithasol ar y rheng flaen

Caiff bennod ddiweddaraf cyfres deledu Rhod Gilbert 'Work Experience' ei dangos ar BBC One Wales nos Wener ar 17 Ebrill am 9.30pm a bydd yn archwilio bywyd gweithwyr gofal cymdeithasol mewn cartref gofal a chyda gwasanaethau gofal cartref yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Mae'r sioe wedi dychwelyd ar gyfer ei hwythfed gyfres ac yn cynnwys Rhod Gilbert yn ceisio cael swyddi amrywiol am amser cyfyngedig i ddatgelu sut beth yw gweithio mewn sectorau gwahanol.

Yn y bennod hon mae Rhod yn dysgu sgiliau gofal sylfaenol ac yn gweithio gyda chydweithwyr i ddarparu gofal personol i unigolion, rhywbeth y mae ganddo brofiad ymarferol ohono trwy ofalu am ei dad ei hun. Mae ei brofiad yn cyfleu heriau a boddhad gyrfa ym maes gofal i'r dim, gan ddangos tosturi ac ymrwymiad gweithwyr gofal cymdeithasol, sy'n benodol o ingol yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Roedd y preswylwyr a'r staff a oedd yn rhan o'r rhaglen yn gwneud gwaith gwych ac mae Rhod yn ychwanegu ei flas dihafal ei hun, gan ei gwneud yn bennod ddifyr ond grymus.

Caiff hon ei dangos ar adeg pan fo gweithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru yn gweithio'n ddiflino i gefnogi pobl sy'n agored i niwed o fewn eu cymunedau ac mae apêl barhaus am recriwtio i gryfhau'r adnodd ar gyfer y gwasanaeth hanfodol hwn.

Cofiwch i droi'r teledu ymlaen i'w gwylio.

 

Ysbyty Calon y Ddraig

Rhaid i ni godi'n hetiau i staff y cyngor, o'r adrannau cynllunio, priffyrdd, rheoli adeiladu, gwastraff a datblygu economaidd, sydd i gyd wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod Ysbyty Calon y Ddraig yn barod ac yn gweithredu i'r GIG ei ddefnyddio.

Bydd Tîm Ysbyty Pwynt Cyswllt Cyntaf Cyngor Caerdydd, sy'n rhan o'r Gwasanaethau Byw'n Annibynnol ac a elwir Y Fyddin Binc, hefyd yn gweithio yn yr ysbyty maes. Byddan nhw'n gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi amrywiaeth o gleifion pan fyddan nhw'n barod i gael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Yn unol â chyfraith gynllunio, mae'r stadiwm wedi mynd drwy newid erbyn hyn i ddod yn ysbyty dros dro.

Mae'r Cyngor yn cynnal gwaith glanhau trylwyr ym maes parcio NCP yn Heol y Porth i sicrhau bod contractwyr yn gallu parcio eu cerbydau'n ddiogel. Bydd staff y GIG yn defnyddio maes parcio Gerddi Sophia gyda bysus gwennol wedi eu darparu gan Bws Caerdydd fel y gall staff fynd a dod o'r stadiwm.

Mae gwaith sylweddol hefyd yn cael ei hwyluso gan y cyngor i sicrhau y gall yr ysbyty weithredu yn effeithlon a bod cyflenwad ocsigen digonol. Mae staff y cyngor wedi bod yn gweithio ar osod tanc ocsigen yn ddiogel, a gaiff ei leoliarBlas y Stadiwm, lle y bydd yn cyflenwi'r ysbyty newydd.

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23637.html

 

Tŷ Canna gwasanaeth allgymorth iechyd meddwl

Mae'r gwasanaeth allgymorth iechyd meddwl gwych, Tŷ Canna, yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o barhau i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl ledled y ddinas, gan greu ffyrdd newydd ac arloesol o ymgysylltu â phobl y maent yn gweithio gyda nhw a lleihau'r effaith a gaiff yr argyfwng ar gymunedau Caerdydd.

Cafodd y tîm lwyddiant mawr yn ddiweddar yn cydweithio â busnesau lleol i brynu a danfon wyau Pasg i deuluoedd sy'n rhan o'u ' Project Teuluol ' sy'n cefnogi teuluoedd pan fo'r rhiant/rhieni ag anghenion iechyd meddwl a phan fo'r plant weithiau ag anghenion ychwanegol. Mae'r Co-op yn Nhreganna a Pontcanna wedi croesawu'r fenter, gyda rheolwyr a staff yn cynnig eu cefnogaeth, gan ddarparu tua 40 o wyau sydd wedi'u dosbarthu i deuluoedd ers hynny.

Mae'r adborth gan y plant a'r rhieni/gofalwyr wedi bod yn wych.  Dywedodd un rhiant, "Diolch yn fawr am feddwl am y plant, rydyn ni'n wirioneddol ddiolchgar", gydag un o'r plant yn dweud, "Dwi mor gyffrous-dyma fy Ŵy Pasg cyntaf!"

Diolch yn fawr i'r tîm yn Nhŷ Canna am helpu i gadw teuluoedd yn bositif yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Cadwch lygad allan am fwy o straeon gan y tîm wrth iddynt barhau i ddatblygu syniadau newydd i barhau i #WeithioDrosGaerdydd