15/4/2020
Mae Cyngor Caerdydd unwaith eto wedi anfon talebau Prydau Ysgol am Ddim drwy'r post at bob teulu sy'n gymwys, gan ddarparu cyllid ar gyfer pythefnos arall o ddarpariaeth. Mae pob taleb yn werth £40.
Cyhoeddodd y Cyngor werth pythefnos o dalebau cyn gwyliau ysgol y Pasg, felly mae'r penderfyniad diweddaraf hwn yn ymestyn y cynllun talebau i bedair wythnos am nawr.
Mae manylion llawn ynghylch sut i weithredu'r daleb wedi'u cynnwys mewn llythyr eglurhaol sydd gyda'r talebau.
Cliciwch yma i weld y llythyr eglurhaol sy'n cael ei anfon gyda'r daleb:
http://app.prmax.co.uk/collateral/164235.pdf
Mae'r Cyngor yn parhau i ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim yn y tymor hirach, a chaiff manylion eu rhannu gynted ag y byddant wedi'u cwblhau.
Os oes unrhyw deuluoedd yn dal i ddisgwyl y daleb a anfonwyd yr wythnos diwethaf, dylent anfon e-bost at Prydauysgolamddim@caerdydd.gov.uk i roi gwybod i'r Cyngor.