Back
Diweddariad COVID-19: 14 Ebrill

Yn y diweddariad COVID-19 heno Gyngor Caerdydd: ymestyn y cynllun talebau Prydau Ysgol am Ddim am bythefnos arall;  gweithwyr swyddfa Cyngor Caerdydd sydd wedi eu hadleoli i'r gwasanaethau digartrefedd yn achub bywyd; Cyngor yn cynnig hyfforddiant am ddim i ddod yn weithwyr gofal cymwys; a parciau Caerdydd 'yn dawelach na'r arfer' er gwaethaf heulwen gŵyl y banc. 

 

Darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim - ymestyn y cynllun talebau

Heddiw, mae Cyngor Caerdydd unwaith eto wedi anfon talebau Prydau Ysgol am Ddim drwy'r post at bob teulu sy'n gymwys, gan ddarparu cyllid ar gyfer pythefnos arall o ddarpariaeth. Mae pob taleb yn werth £40.

Cyhoeddodd y Cyngor werth pythefnos o dalebau cyn gwyliau ysgol y Pasg, felly mae'r penderfyniad diweddaraf hwn yn ymestyn y cynllun talebau i bedair wythnos am nawr.

Mae manylion llawn ynghylch sut i weithredu'r daleb wedi'u cynnwys mewn llythyr eglurhaol sydd gyda'r talebau.

Cliciwch yma i weld y llythyr eglurhaol sy'n cael ei anfon gyda'r daleb:

http://app.prmax.co.uk/collateral/164235.pdf

Mae'r Cyngor yn parhau i ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim yn y tymor hirach, a chaiff manylion eu rhannu gynted ag y byddant wedi'u cwblhau.

Os oes unrhyw deuluoedd yn dal i ddisgwyl y daleb a anfonwyd yr wythnos diwethaf, dylent anfon e-bost atPrydauysgolamddim@caerdydd.gov.uki roi gwybod i'r Cyngor.

 

Gweithwyr swyddfa Cyngor Caerdydd sydd wedi eu hadleoli i'r gwasanaethau digartrefedd yn achub bywyd

Achubwyd bywyd dyn digartref gan ddau o swyddogion Cyngor Caerdydd sydd wedi eu hadleoli. Fe aethon nhw ar frys i roi cymorth cyntaf i ddyn digartref wedi iddo lewygu a stopio anadlu.

Roedd y ddau swyddog wedi gwirfoddoli i ymgymryd â swyddi dros dro gyda'r tîm Hosteli ac Allgymorth, yn rhan o broject adleoli'r Cyngor i sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen yn parhau i weithredu yn ystod pandemig COVID-19.

Dim ond tair wythnos yn ôl y cafodd Val Broomfield ac Ashley Evans eu hadleoli o'u swyddi swyddfa gyda'r Adran Gyfreithiol a'r Tîm Cynaliadwyedd Tenantiaeth. Fe ddefnyddion nhw dechnegau Adfywio Cardio-pwlmonaidd, neu CPR, i adfywio'r dyn.

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23627.html

 

Mae Angen Gweithwyr Gofal Arnom

Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig cyrsiau hyfforddi treigl am ddim i geiswyr gwaith a gwirfoddolwyr i ddod yn weithwyr gofal cymwys.

Gan weithio mewn gofal cartref, gall ymgeiswyr llwyddiannus ennill £9.97 yr awr os ydynt yn ddi-waith. Byddwn hefyd yn talu am eich tystysgrif DBS os oes angen.

Mae croeso i weithwyr gofal a oedd wedi cymhwyso'n flaenorol a gellir eu rhoi ar lwybr carlam i rolau cymorth.

Ein sesiwn hyfforddi nesaf:

9.30am - 3.30pm, 15th- 17thEbrill 2020

Ystafell Greadigol, 5ed Llawr, Llyfrgell Ganolog, yr Aes, Caerdydd CF10 1FL

Rolau ar gyfer gyrwyr a rhai nad ydynt yn gallu gyrru. Nid oes angen unrhyw brofiad na chymwysterau blaenorol.

Ffoniwch 07970 241 918 i gael gwybod mwy am y cwrs a chofrestru.

 

Parciau Caerdydd 'yn dawelach na'r arfer' er gwaethaf heulwen gŵyl y banc

Roedd Parciau Caerdydd ar y cyfan yn ddistaw y penwythnos hwn gyda'r rhan fwyaf o bobl yn parchu'r gofynion ymbellhau cymdeithasol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o bobl wedi gwrando ar y neges i aros gartref, aros yn ddiogel y penwythnos hwn.

"Gyda'r haul yn tywynnu a'r tymheredd yn uchel dros benwythnos gŵyl y banc, byddai parciau Caerdydd fel arfer yn llawn pobl, ond mae ein staff parciau, sydd wedi bod allan ar batrôl gyda'r heddlu bob dydd, gyda chefnogaeth negeseuon drwy uchelseinydd gan Wylwyr y Glannau, yn adrodd bod parciau yn llawer tawelach na'r arfer a bod y rhan fwyaf o bobl yn dilyn y gofynion ymbellhau cymdeithasol.

"Hoffwn ddiolch i'n holl drigolion - y rhai a arhosodd gartref a gwrthsefyll temtasiwn yr heulwen, a'r rhai a wnaeth eu hymarfer corff dyddiol yn ein parciau mewn ffordd gyfrifol."

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23625.html