Back
Gweithwyr swyddfa Cyngor Caerdydd sydd wedi eu hadleoli i'r gwasanaethau digartrefedd yn achub bywyd

14/04/20 

Achubwyd bywyd dyn digartref gan ddau o swyddogion Cyngor Caerdydd sydd wedi eu hadleoli. Fe aethon nhw ar frys i roi cymorth cyntaf i ddyn digartref wedi iddo lewygu a stopio anadlu. 

Roedd y ddau swyddog wedi gwirfoddoli i ymgymryd â swyddi dros dro gyda'r tîm Hosteli ac Allgymorth, yn rhan o broject adleoli'r Cyngor i sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen yn parhau i weithredu yn ystod pandemig COVID-19. 

Dim ond tair wythnos yn ôl y cafodd Val Broomfield ac Ashley Evans eu hadleoli o'u swyddi swyddfa gyda'r Adran Gyfreithiol a'r Tîm Cynaliadwyedd Tenantiaeth. Fe ddefnyddion nhw dechnegau Adfywio Cardio-pwlmonaidd, neu CPR, i adfywio'r dyn.

"Digwyddodd y cyfan mor gyflym ac roedd yn wahanol iawn i'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn ein swyddi arferol. Gwnaethon ni'r hyn y byddai unrhyw un arall wedi'i wneud ac rydyn ni'n sobr o falch ei fod yn iawn erbyn hyn. Rydyn ni'n hapus ein bod yn gallu helpu pobl sy'n agored i niwed yn ystod yr argyfwng covid," dywedodd Ashley Evans.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Byddai hon wedi bod yn sefyllfa anodd hyd yn oed i Hosteli a Gweithwyr Allgymorth oedd yn gyfarwydd â'r maes. Ond mae'r ffaith bod dau unigolyn, o gefndiroedd gwaith mor wahanol, wedi gweithredu mor gyflym, ac aros yn ddigyffro a phwyllog wrth achub bywyd cleient yn arwrol. Mae'n dangos gwir ymroddiad i helpu ein defnyddwyr gwasanaeth, waeth beth fo'r sefyllfa."

Hyd yn hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi adleoli 350o weithwyr i swyddi rheng flaen sy'n sicrhau bod gwasanaethau i bobl agored i niwed a'r rhai mewn angen yn parhau i gael eu cynnal.