Back
Diweddariad COVID-19: 8 Ebrill

Dyma'r crynodeb COVID-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: hwb ariannol yn lansio cronfa apêl fwyd y ddinas; cysylltu â Chyngor Caerdydd dros Wyliau Banc y Pasg,bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Neuadd y Ddinas, Gwylwyr y Glannau EM yn dweud wrth drigolion Caerdydd am aros gartref, a mae meysydd parcio Wenallt yn  ar gau.

 

Hwb ariannol yn lansio cronfa apêl fwyd y ddinas

Mae apêl newydd a lansiwyd gan Arweinydd Cyngor Caerdydd i gefnogi pobl mewn angen gyda bwyd a hanfodion brys drwy gydol argyfwng COVID-19 wedi cael ei ddechrau gyda rhoddion sy'n dod i £80,000.

Mae Admiral wedi rhoi £50,000 i helpu i lansio Apêl Bwyd Caerdydd, cynllun rhodd newydd a fydd yn ariannu'r gwaith o gyrchu a chyflenwi bwyd ac eitemau hanfodol eraill i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd.

Mae dau gymwynaswr di-enw yn y ddinas hefyd wedi rhoi symiau mawr, gan gynyddu'r swm gan £30,000. Rhoddwyd yr arian yn dilyn llythyr a ysgrifennwyd gan Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Huw Thomas, i gwmnïau blaenllaw ledled Caerdydd yn gofyn iddynt gefnogi'r gronfa.

Yr apêl yw'r fenter ddiweddaraf i sicrhau bod pobl sy'n cael anawsterau ariannol wrth brynu bwyd a phobl nad ydynt yn gallu siopa ar eu cyfer eu hunain ar hyn o bryd yn cael bwydydd. Bydd yr holl arian a godir drwy'r apêl yn cael ei wario ar fwyd a hanfodion.

Gellir gwneud rhoddion drwy ymweld â  www.cardiff.gov.uk/foodappeal

Dywedodd y Cyng. Thomas: "Mae argyfwng COVID-19 yn cael effaith fawr ar draws y ddinas ac un her benodol yw'r cyflenwad bwyd.   Rydym yn gweithio'n galed i helpu'r rhai sydd mewn angen ar yr adeg anodd yma ac rydym yn lansio'r apêl hon er mwyn i'r gymuned fusnes leol ac aelodau o'r cyhoedd allu cefnogi ein hymdrechion drwy wneud rhodd ariannol."

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23611.html

 

Cysylltu â Chyngor Caerdydd dros Wyliau Banc y Pasg

Cysylltu â Chaerdydd (C2C)

Am y tro cyntaf erioed, bydd staff yn C2C yn gweithio ar Ddydd Gwener y Groglith a Dydd Llun y Pasg eleni.

Yr oriau gwaith fydd rhwng 9am a 4pm ar y ddau ddiwrnod, gan gynnig gwasanaeth ar draws pob sianel: ffonau, sgwrs ar y we, gwe-ffurflenni, a chyfryngau cymdeithasol.

I helpu gydag ymbellhau cymdeithasol, mae nifer y staff yn swyddfa'r ganolfan gyswllt wedi'i lleihau, gyda staff yn derbyn ymholiadau gartref.

Er bod y staff yn ymbellhau'n gymdeithasol yn y swyddfa ac yn gweithio o gartref, rydym yn gofyn i gwsmeriaid gysylltu â ni gan ddefnyddio ein sianeli digidol, os gallant. I'r rhai ohonoch sydd heb fynediad i'r sianeli digidol hyn, mae swyddfa'r ganolfan gyswllt ar agor ac yn barod i dderbyn eich galwad - 029 2087 2088

Hybiau a Llinell Gyngor

Mae'r amseroedd hyn yn berthnasol i'r 4 hyb canlynol yn ogystal â'n Llinell Gyngor 029 2087 1071.Trelái a Chaerau, Y Pwerdy, Llaneirwg a Hyb y Llyfrgell Ganolog

Dydd Gwener, Ebrill 10 10yb - 4yp

Dydd Sadwrn, Ebrill 11 9yb - 5.30yp (Hyb Llyfrgell Canolog yn unig)

Dydd Sul, Ebrill 12 AR GAU                                                         

Dydd Llun, Ebrill 13 10yb - 4yp

O Ddydd Mawrth, Ebrill 14 ORIAU ARFEROL

Bydd mynediad i'n hybiau trwy apwyntiad yn unig heblaw am fagiau ailgylchu gwyrdd a pharseli banciau bwyd. Mae'r holl leoliadau Hyb eraill yn parhau ar gau.

 

Bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Neuadd y Ddinas

Bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Neuadd y Ddinas ac maen nhw angen eich help chi.

📌Neuadd y ddinas, Caerdydd

📅14, 15,16, 17 Ebrill

🔗Archebwch yma:

https://donorportal.wales.nhs.uk/AppointmentSystem/Session?pos=%2851.48158100000001%2C-3.17909%29&lng=cy&utm_source=CardCHR&utm_medium=EMERG&utm_campaign=RCITYHALL&utm_content=COVID-19

Yn ystod y Pandemig nid yw'r gwasanaeth gwaed yn gallu derbyn pobl yn cerdded i mewn ar hap. Mae Rhoi Gwaed yn cael ei gydnabod fel teithio hanfodol.

Os ydych yn ffit ac iach yna cliciwch ar y ddolen i ddewis dyddiad ac amser sy'n gyfleus.

Cefnogwch eich sesiwn leol ar yr adeg digynsail hwn er mwyn parhau i sicrhau cyflenwad hanfodol o blatennau a chynnyrch gwaed.

 

Gwylwyr y Glannau EM yn dweud wrth drigolion Caerdydd am aros gartref

Ni fyddech fel arfer yn gweld Gwylwyr y Glannau ei Mawrhydi ar strydoedd Caerdydd, ond mae hynny ar fin newid fel rhan o gynlluniau i helpu i arafu ac atal trosglwyddo COVID19. O ddiwedd yr wythnos hon, bydd yr asiantaeth  llywodraeth yn dechrau cefnogi Cyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru drwy fynd o stryd i stryd yn y ddinas gyda neges glir dros uchelseinydd - ‘Arhoswch Gartref, Achubwch Fywydau'.

Bydd y neges lawn i'w darlledu yn dweud:  "Arhoswch Gartref, Achubwch Fywydau. Cofiwch gadw at y gofynion ymbellhau cymdeithasol y tu allan a chadw 2 fetr i ffwrdd o eraill.  Helpwch i amddiffyn y GIG".

 

Mae meysydd parcio Wenallt yn  ar gau

Yn sgil trafod â Heddlu De Cymru, mae meysydd parcio Coedwig y Wenallt yn Caerdydd ar gau i annog pobl i beidio â theithio heb angen - mae nifer y cerbydau ar y safle yn dangos bod pobl wedi bod yn teithio o'r tu allan i'r ardal i ymweld.

Arhoswch gartref, arhoswch yn ddiogel.