Back
Gwylwyr y Glannau EM yn dweud wrth drigolion Caerdydd am aros gartref
Ni fyddech fel arfer yn gweld Gwylwyr y Glannau ei Mawrhydi ar strydoedd Caerdydd, ond mae hynny ar fin newid fel rhan o gynlluniau i helpu i arafu ac atal trosglwyddo COVID19. O ddiwedd yr wythnos hon, bydd yr asiantaeth  llywodraeth yn dechrau cefnogi Cyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru drwy fynd o stryd i stryd yn y ddinas gyda neges glir dros uchelseinydd - ‘Arhoswch Gartref, Achubwch Fywydau'.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Rydym yn ddiolchgar i'n partneriaid yng Ngwylwyr y Glannau EM am y cynnig hwn o gyd-gymorth, a fydd yn ein galluogi i ehangu ar y patrolau presennol y mae ein ceidwaid parciau a'r heddlu'n eu cynnal.

"Mae'n bwysig iawn bod yr holl drigolion yn gwrando ar y neges hon, ac yn amddiffyn y GIG drwy aros gartref a dilyn y cyfarwyddiadau ar ymbellhau cymdeithasol. Yn y pen draw, bydd yn achub bywydau."

Bydd y neges lawn i'w darlledu yn dweud:  "Arhoswch Gartref, Achubwch Fywydau. Cofiwch gadw at y gofynion ymbellhau cymdeithasol y tu allan a chadw 2 fetr i ffwrdd o eraill.  Helpwch i amddiffyn y GIG".