Dyma drosolwg ar y 10 prif newid yn y gwasanaethau y mae angen i bawb wybod amdanynt:
Bydd y diwrnodau casglu ar gyfer eich ardal yn aros yr un fath, ond mae’r ffordd y caiff gwastraff ei drin yn newid i helpu i reoli effaith COVID-19 a sicrhau lles y trigolion a’r gweithlu.
Rhagor o wybodaeth yma: https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23490.html
Er mwyn lleihau'r siawns bod COVID-19 yn lledu drwy gymuned yr ysgol, a galluogi'r Cyngor i ganolbwyntio ar ei drefniadau glanhau, ymarfer diogel, ac ymbellhau cymdeithasol, mae 12 ysgol yn aros ar agor fel hybiau gofal plant, mae'r gweddill ar gau.
Dim ond ar ôl ystyried pob
ffurf arall o gymorth plant y caiff y ddarpariaeth hon ei defnyddio. Os yw'n
bosibl rhoi gofal diogel i blant gartref, yn y cartref y dylent fod.
Cewch fanylion yma: https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23505.html
Bydd y llety newydd hwn yn galluogi unrhyw unigolion sydd â chyflyrau iechyd gwaelodol, neu sy'n dangos symptomau’r Coronafeirws COVID-19, i hunan-ynysu.
Mae gwesty OYO hefyd yn darparu tri phryd y dydd i breswylwyr, ac â chymorth ar gael ddydd a nos i sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddiogel a bod cyngor a chymorth priodol ar gael bob amser.
Cewch wybod mwy am ein darpariaeth ar gyfer y digartref ar hyn o bryd yma: https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23460.html
Hyb y
Llyfrgell Ganolog
Dydd
Llun i Dydd Mercher, 9am - 6pm
Dydd Iau, 10am - 7pm
Dydd Gwener, 9am - 6pm
Dydd Sadwrn, 9am - 5.30pm
Llaneirwg
Dydd
Llun i dydd Mawrth, 9am - 6pm
Dydd Mercher, 10am - 7pm
Dydd Iau i Dydd Gwener, 9am - 6pm
Trelái
Dydd
Llun i Dydd Mercher, 9am - 6pm
Dydd Iau, 10am - 7pm
Dydd Gwener, 9am - 6pm
Y Pwerdy
Dydd
Llun i Dydd Mercher, 9am - 6pm
Dydd Iau, 10am – 7pm
Dydd Gwener, 9am – 6pm
Dim ond drwy apwyntiad y
ceir mynediad i'r Hybiau hyn nawr, oni bai eich bod yn casglu parseli banc bwyd
neu'n codi bagiau ailgylchu gwyrdd.
5.
Mae bagiau bwyd ac ailgylchu ar gael o hyd, fodd bynnag,
dim ond pedwar Hyb craidd sydd ar agor erbyn hyn, a gofynnwyd i nifer o'n
stocwyr lleol hefyd gau. Rydym wedi nodi nifer o siopau bwyd lleol sy'n parhau
i fod ar agor, ac rydym yn cadw stoc gyda’r rhain.
Gallwch weld pwy ydy eich
cyflenwr agosaf drwy roi rhif eich tŷ a’ch cod post yma: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Archebwch-bagiau-bwyd-ac-ailgylchu/Pages/default.aspx neu ar App Cardiff Gov.
Os na allwch gael gafael ar
rai, cyhoeddwch rywbeth yn eich cymuned i weld a oes gan unrhyw un rai sbâr.
Cofiwch gadw pellter cymdeithasol os oes rhywun yn ateb, efallai codwch nhw o
du allan ei eiddo.
Gall fod cyflenwad gan gynghorwyr lleol hefyd. Unwaith
eto, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnal pellter cymdeithasol os ydych yn casglu
bagiau.
6. Er mwyn sicrhau gwasanaeth i denantiaid y Cyngor sydd â'r angen mwyaf, dim ond gwaith atgyweirio brys fydd yn cael ei wneud, ac ni ddylai tenantiaid gysylltu â ni ynghylch atgyweiriad ond os yw'n argyfwng.
Caiff
apwyntiadau presennol ar gyfer atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys eu gohirio
tan ar ôl 15 Mehefin.
Dylai
tenantiaid sy'n cael problemau gyda thaliadau rhent ar yr adeg anodd hon
gysylltu i drafod.
7. Mae preswylwyr Caerdydd yn cael eu hannog i
gysylltu â'r Cyngor drwy'r wefan – www.caerdydd.gov.uk – os ydynt yn cael trafferth talu eu treth
gyngor oherwydd bod pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar eu trefniadau
gwaith.
8.
Mae llinell gymorth i wirfoddolwyr wedi'i sefydlu ar
gyfer pobl sy'n profi anawsterau gyda bwyd a darpariaethau hanfodol eraill fel
rhan o ymateb y ddinas i'r pandemig.
Mae
amrywiaeth o gymorth ar gael, o siopa am fwyd i'r rhai na allant adael eu
cartrefi eu hunain, i ddarparu parseli bwyd brys a hanfodion eraill i bobl sy'n
cael trafferth ariannol.
Os oes
angen cymorth arnoch ac ni all unrhyw un arall helpu, ffoniwch 029 2087 1071.
Gall
uchafswm o ddeg o aelodau teulu agos fynychu angladdau ac amlosgiadau.
Mae
pob seremoni briodas yn awr wedi ei chanslo ac oherwydd ôl-groniad yn ystod y
gwanwyn yn sgil COVID-19, ni fydd archebion newydd ar gyfer priodasau yn cael
eu derbyn ar gyfer dyddiadau sydd cyn mis Medi. Ni chymerir unrhyw hysbysiadau
newydd o briodas ar hyn o bryd.
Mae’r
holl wybodaeth am deithio ar gael yma: https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23462.html
10. Yn ddiweddar, cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru becyn cymorth gwerth £1.4 biliwn i fusnesau yng Nghymru er
mwyn helpu i fynd i’r afael ag effaith economaidd y Coronafeirws.
Bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â
gwerth ardrethadwy o £500,000 neu lai yn derbyn rhyddhad o 100% ar ardrethi
annomestig ar gyfer 2020-21. Bydd hyn yn cael ei weinyddu’n awtomatig drwy
Gynllun Ardrethi’r Cyngor a chaiff ei weithredu’n awtomatig.
Yn ogystal â’r cynllun
rhyddhad ardrethi busnes, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £850m
ychwanegol ar gael drwy gynllun grant newydd i fusnesau.
Bydd hyn yn golygu y bydd
pob busnes, sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer rhyddhad Ardrethi Busnesau
Bychan, hynny yw y rheiny sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000, yn derbyn
grant o £10,000.
Os ydych yn credu eich bod
chi’n fusnes cymwys cliciwch yma i gael y ffurflen gais a
dilynwch y prosesau a amlinellir.
Bydd busnesau manwerthu,
hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £50,000 yn derbyn
grant o £25,000.