Back
‘Ymladd eich Cornel'; Project Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn cyflawni llwyddiant

12/2/20

Mae project sy'n defnyddio bocsio fel ffordd o hybu iechyd meddwl a lles cadarnhaol ymhlith dynion ifanc du a lleiafrifoedd ethnig (pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig) wedi cael ei ddathlu yng Nghaerdydd.

Gyda ffocws ar ardaloedd Butetown, Glan-yr-afon a Grangetown yn y ddinas, mae'Ymladd eich Cornel'yn defnyddio gweithgarwch corfforol i godi ymwybyddiaeth pobl ifanc o iechyd meddwl, gan roi gwybodaeth a chymorth iddynt os yw salwch meddwl yn effeithio arnynt.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Youth Services\Fighting your corner pictures\IMG_2498.JPG

Wedi'i ddarparu gan Wasanaeth Ieuenctid Pafiliwn Butetown Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Chlwb Bocsio Amatur Tiger Bay a Gwasanaeth Hyfforddi Ajuda, rhoddodd y cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru hyfforddiant achrededig i gyfranogwyr hefyd i'w galluogi i fod yn Hyrwyddwyr Lles. Mae hyn yn eu harfogi â'r sgiliau mae eu hangen fel y gallant hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd meddwl pobl ifanc eraill yn eu cymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Rydym yn gwybod y gall iechyd meddwl effeithio ar lawer o ddynion ifanc ac mae'n hanfodol bod yr wybodaeth a'r cymorth cywir ar gael i'n holl bobl ifanc sy'n byw ym mhob un o gymunedau amrywiol Caerdydd.

"Nododd y tîm ym Mhafiliwn Ieuenctid Butetown fod bocsio yn boblogaidd gyda llawer o'r dynion yn y gymuned leol, a oedd yn cynnig cyfle i roi addysg ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. Mae hyn yn dystiolaeth o ba mor dda y mae tîm y Gwasanaeth Ieuenctid yn adnabod eu defnyddwyr gwasanaeth ac yn amlygu'r effaith gadarnhaol y gall gweithio mewn partneriaeth ei chael ar gymuned.

Cymerodd deunaw o ddynion ifanc rhwng 14 a 19 oed o gefndiroedd Somalïaidd, Yemeni, Affricanaidd a Charibïaidd ran yn y cynllun a graddiodd chwech o'r rhai yn eu harddegau fel hyrwyddwyr iechyd meddwl a lles yn ystod seremoni'r wythnos diwethaf, a fynychwyd gan yr Arglwydd Faer, y Cynghorydd Daniel De'Ath.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Mae hybu iechyd a lles ymhlith ein plant a'n pobl ifanc yn flaenoriaeth i Gyngor Caerdydd ac mae'n hanfodol sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn gallu cael y gwasanaethau cywir os ydynt yn wynebu problemau iechyd meddwl.

"Mae ein strategaeth Da i Blant yn rhoi plant a phobl ifanc yng nghalon y ddinas, ac mae'n hanfodol ein bod yn darparu'r cymorth a'r gwasanaethau i helpu pobl ifanc i feithrin gwydnwch tuag at faterion sy'n effeithio arnynt. MaeYmladd eich Cornelyn cefnogi ymrwymiad Caerdydd i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a hoffwn longyfarch pawb a fu'n ymwneud â llwyddiant y project hwn. "

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Youth Services\Fighting your corner pictures\IMG_2501.JPG

Dywedodd Wasim o Glwb Bocsio Amatur Tiger Bay: "Mae bocsio yn gofyn i bobl ganolbwyntio'n llwyr ar y dasg dan sylw ac er mwyn bod yn dda, mae angen i unigolion allu diffodd y byd y tu allan a chanolbwyntio 100% a bod yn bresennol yn y funud.

"Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles meddyliol yn ogystal â helpu gyda hunanhyder, lleddfu straen a hyrwyddo ffordd iach ac egnïol o fyw.

"Yn ogystal, mae bocsio bron bob amser yn cynnwys mwy nag un person, boed yn sbario gyda'i gilydd, yn gwneud gwaith pâr gyda'r padiau neu ddim ond dal traed rhywun wrth iddo godi i eistedd; yn amlach na pheidio mae angen hyfforddi gydag eraill sy'n symbylydd mawr ac yn rhoi dull o gefnogaeth gymdeithasol a lleihau teimladau o unigrwydd."

Dywedodd Dawn Evans, sefydlydd Ajuda: "Rydyn ni'n gwybod bod pobl sy'n dioddef digwyddiadau negyddol bywyd, tlodi, tai gwael, hiliaeth, materion yn ymwneud â chrefydd neu rywioldeb, neu sydd wedi dianc o fannau lle mae gwrthdaro yn fwy tebygol o ddioddef afiechyd meddwl.

"Byddem yn gwneud anghymwynas â'r bobl ifanc hyn, pe na baem yn cydnabod bod unigolion a theuluoedd, sydd â threftadaeth a chysylltiadau â chymunedau Somalïaidd, Yemeni, Affricanaidd a Caribïaidd, wedi cael trafferth dros amser gyda llawer o'r materion heriol hyn."

Yn dilyn llwyddiant y project, sicrhawyd mwy o arian ac mae trefnwyr bellach yn bwriadu cyflwyno'r cwrs i bobl ifanc yn eu harddegau a menywod ifainc yn ardaloedd Butetown, Glan-yr-Afon a Grangetown.

 

 

Foto:
Abdo Abdo, Saad Mohamed, Wasem Said (Tiger Bay Boxing Club), Ibby Ahmed.
Dawn Evans (Ajuda) Abdo Abdo, Caroline Miles (Cardiff Council Youth Services) Saad Mohamed, Wasem Said (Tiger Bay Boxing Club), Ibby Ahmed.