12/2/20
Mae Ysgol Gynradd Oakfield yn Llaneirwg wedi cyflawni 'rhagorol' mewn tri o'r pum categori a gafodd eu hystyried gan ESTYN, Arolygiaeth Addysg Cymru, a 'da' yn y ddau faes arall.
Yn ystod ymweliad diweddar, canfu arolygwyr fod yr ysgol yn 'gymuned hapus a chynhwysol iawn lle mae disgyblion yn gwneud cynnydd da ac yn datblygu medrau llythrennedd a rhifedd cryf.' Yn ogystal 'Mae gan bron pob disgybl lefelau uchel o lesiant ac agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu' gyda 'safonau ymddygiad sy'n dda iawn gydag ymdeimlad cryf o barch y naill i'r llall ac ymddiriedaeth rhwng staff a disgyblion.'
Aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud bod staff yn 'darparu amgylchedd gofalgar a chefnogol iawn sy'n annog pob disgybl i roi o'i orau' a bod 'athrawon a chynorthwywyr addysgu yn adnabod disgyblion yn dda ac yn cyflwyno profiadau dysgu diddorol sy'n eu helpu i ddatblygu fel unigolion hyderus.'
Dywedodd yr arolygwyr hefyd fod gan y pennaeth ac arweinwyr eraill 'ddisgwyliadau uchel' a'u bod wedi sefydlu prosesau arwain a hunanwerthuso trylwyr a chadarn iawn.
Wrth fyfyrio ar y llwyddiant,dwedodd y Pennaeth, Mr. David Harris: "Rwy'n hynod falch bod adroddiad yr arolwg yn adlewyrchu'r berthynas gref sydd gan yr ysgol â'i chymuned wych ac ymroddiad llwyr y staff i sicrhau bod y plant yn cael cynnig cymaint o gyfleoedd cyffrous i ddysgu."
Dywedodd Cadeirydd Corff Llywodraethu'r ysgol, Mrs. Sian Burgess Hunt: "Mae Oakfield yn ysgol wych lle mae'r plant eisiau dysgu a gwneud yn dda. Mae'n amgylchedd mor groesawgar a ffyniannus ac mae hi wedi bod yn bleser gallu gweithio gyda thîm mor frwdfrydig ac ymroddedig."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rwy'n falch iawn o glywed bod Oakfield wedi cyflawni adroddiad gwych gan Estyn ac mae'n wych clywed y sylwadau cadarnhaol, yn enwedig mewn perthynas â llesiant ac agweddau disgyblion at ddysgu sy'n tystio i'r cyfarwyddyd cryf a'r gwaith tîm yn yr ysgol.
"Hoffwn longyfarch y pennaeth, staff, disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol ar y canlyniad cadarnhaol hwn."