Back
Ysgol Gynradd Bryn Deri; 'Cymuned groesawgar a bywiog' medd Estyn


11/2/20 

Cafodd Ysgol Gynradd Bryn Deri yn Radur ei sgorio'n ‘dda' yn gyffredinol mewn arolygiad diweddar gan Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Bryn Deri\BrynDeriPS0619-354.jpg

Fe'i disgrifiwyd gan arolygwyr a ymwelodd â'r ysgol fel 'cymuned groesawgar a bywiog sy'n darparu amgylchedd dysgu ysgogol i'w disgyblion.' Dywedasant hefyd fod bron pob disgybl yn dangos 'agweddau cadarnhaol ac yn siarad gyda brwdfrydedd am y profiadau y mae'r ysgol yn eu cynnig.'

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Bryn Deri\BrynDeriPS0619-326.jpg

Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud bod gan bob aelod o staff 'berthynas waith gadarnhaol gyda disgyblion a'u bod i gyd yn eu cefnogi a'u herio i gyflawni'n dda' tra'n darparu 'cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion lywio cyfeiriad eu dysgu a dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch bywyd bob dydd yr ysgol.'

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Bryn Deri\BrynDeriPS0619-10.jpg

Wrth ymateb i lwyddiant yr ysgol, dywedodd y Pennaeth, Claire Davies:"Mae ein llwyddiant diweddar gydag Estyn yn cydnabod perfformiad ac ymarfer cryf ac rydym yn arbennig o falch bod yr adroddiad yn cydnabod ein gweledigaeth bod profiadau dysgu ym Mryn Deri yn adlewyrchu egwyddorion y Cwricwlwm newydd i Gymru.

"Hoffwn longyfarch y disgyblion, staff, llywodraethwyr, rhieni a nifer o aelodau o gymuned leol Radur a Phentre-poeth am roi o'u hamser i sicrhau llwyddiant yr ysgol.

"Y perthnasau hyn ac agweddau cadarnhaol sy'n ffurfio sail llwyddiant ein disgyblion ac sy'n sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gymuned ddysgu gref gydag agweddau cadarnhaol tuag at fywyd a dysgu."

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Bryn Deri\BrynDeriPS0619-380.jpg

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rwy'n falch iawn o glywed bod un arall o'n hysgolion ni wedi sicrhau canlyniad gwych gan Estyn; camp ragorol i'r holl staff, disgyblion, llywodraethwyr a rhieni.

"Sylwodd yr arolygwyr fod gan Fryn Deri gysylltiadau cryf â'r gymuned leol, sydd wedi cyfoethogi profiad eu disgyblion. Roedd hyn yn arbennig o ddiddorol ac yn dangos bod ein hysgolion wir wrth galon cymunedau Caerdydd.

"Llongyfarchiadau i bawb yn yr ysgol am eu gwaith caled a'u brwdfrydedd."