Back
Dirwy o £66,000 yn Llys Ynadon Caerdydd i’r cwmni y tu cefn i Coyote Ugly Salon yng Nghaerdydd

Mae Swansea Audio Limited, sef y cwmni tu cefn i far Coyote Ugly Salon yng Nghaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu ychydig o dan £70,000 yn Llys Ynadon Caerdydd ddoe am dair trosedd iechyd a diogelwch.

Ni lwyddodd unig gyfarwyddwr bar Coyote Ugly Salon, Mr Stephen Lewis, sydd â thri busnes tebyg yn Abertawe, Manceinion a Birmingham, i fynychu'r llys oherwydd ‘galwadau busnes yn Singapore'.

Roedd yr achos yn erbyn Swansea Audio Limited yn ymwneud â dau ddigwyddiad ar wahan o ddau aelod staff yn dawnsio ar y bar.

Ar 4 Hydref 2017, derbyniodd y Tîm Iechyd a Diogelwch atgyfeiriad gan Heddlu De Cymru yn ymwneud â digwyddiad yn Coyote Ugly Salon pan ddioddefodd cyflogai, Katrina Sparks, archolliadau dwfn i'w hysgwydd dde ac ardal y frest ar ôl cymryd cam gwag tra'n dawnsio ar y bar a glanio ar wydr gwin cwsmer.

Codwyd pryderon gan yr heddlu am y nifer o ddigwyddiadau a oedd yn digwydd yn y lleoliad. Nododd adolygiad o'r llyfr damweiniau fod cyflogai arall, Brittany Askew, wedi torri asgwrn yn ei chefn ar ôl llithro ar y bar tra'n dawnsio.

Ar 10 Hydref 2017, gwnaed ymweliad diwahoddiad â'r bar gan swyddog cyngor i ymchwilio i bryderon a godwyd.

Wedi cyrraedd yno, gofynnwyd i'r rheolwr ar ddyletswydd ar y pryd, Christopher Young, i egluro'r trefniadau rheoli iechyd a diogelwch yn y busnes. Gwnaeth Mr Young hi'n amlwg nad oedd yn ymwybodol o unrhyw bolisi iechyd a diogelwch a chadarnhau, hyd eithaf ei wybodaeth, nad oedd dirprwyo swyddogaethau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch wedi eu dogfennu gan y cwmni.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob busnes adrodd ar anafiadau i'r awdurdod lleol a phan ofynnwyd i Mr Young os oedd yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth, fe gydnabu ei fod yn ymwybodol, ond nad oedd yn ymwybodol o'r mathau o anafiadau y dylid adrodd arnynt na phwy ddylai adrodd.

Pan ofynodd y swyddog ymchwilio i gael gweld yr asesiad risg ar gyfer pobl yn dawnsio ar y bar, daeth i'r casgliad nad oedd y protocolau a oedd ar waith ‘yn addas nac yn ddigonol'.

Wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo, fe roddodd Brittany Askew, a fu i ffwrdd o'r gwaith am 12 wythnos yn dilyn ei chwymp tra'n dawnsio ar y bar, ddatganiad gwirfoddol i'r swyddog ymchwilio.

Eglurodd Miss Askew ar adeg ei damwain ym mis Mai 2017, ei bod yn arferol caniatáu i staff yfer alcohol tra ar ddyletswydd a'i bod yn gyffredin i ddawnswyr, sef y Coyotes, daflu jygiau o ddŵr dros ei gilydd yn ystod rhai sesiynnau dawnsio penodol.

Datgelwyd hefyd y byddai staff y bar a rheolwyr yn aml yn chwystrelli staff â seiffonau soda wrth y prif far, heb fawr o ofal o ran peryglon baglu a chwympo.

Eglurodd Clive Pursey, a oedd yn erlyn ar ran Cyngor Caerdydd, wrth y llys fod ‘dallineb bwriadus' gan y cwmni am nad oeddent yn gweld ‘risg amlwg rhagweladwy' ac y byddai unrhyw fusnes credadwy a oedd yn cymryd y materion hyn o ddifrif wedi sicrhau fod ‘asesiadau risg cywir yn eu lle'.

Roedd Oliver Powell, y Cwnsler dros yr Amddiffyniad, yn derbyn nad oed yr asesiad risg yn ddigonol na digon penodol.

Gan ymddiheuro ar ran y cwmni, dwedodd Mr Powell: "Mae'r Cwmni yn siomedig tu hwnt fod y digwyddiadau hyn wedi digwydd ac yn wirioneddol edifar."

Ymddiheurodd Mr Powell i'r ddwy wraig ifanc a anafwyd gan egluro fod un ohonynt yn dal i weithio i'r cwmni ac yn y tair blynedd ers y digwyddiad ei bod wedi gweithio i fyny'r ysgol  yn y cwmni a bellach yn rheoli bar Coyote Ugly Salon yn Birmingham.

Gwnaeth yr amddiffyniad hi'n glir i'r llys fod y digwyddiadau hyn wedi digwydd pan oedd y busnes yn ifanc ac na fu digwyddiadau tebyg oddi ar hynny a bod yr asesiadau risg cywir yn eu lle bellach trwy gyfrwng Llawlyfr Iechyd a Diogelwch newydd.

Crynhodd y Barnwr Rhanbarthol Khan yr achos drwy egluro fod Coyotee Ugly Salon yn fusnes llwyddiannus a oedd yn tyfu a bod y syniad wedi dod o ffilm lwyddiannus yn yr Unol Daleithiau. Gwnaeth y Barnwr Khan hi'n glir i'r llys fod y cwmni wrth geisio gwneud y bar yn debyg i'r ffilm, wedi colli golwg ar ystyriaethau iechyd a diogelwch.

Nododd y Barnwr Khan mai yr hyn a oedd yn unigryw am y busnes oedd ‘dawnsio ar y bar' a ‘cael hwyl ac yfed alcohol' yn hytrach nag ystyried y risg gwirioneddol i staff.

Daeth y Barnwr Khan i'r casgliad nad oedd unrhyw fwriad maleisus neu fwriadol ar ran y cwmni ond bod y pwyslais yn amlwg ar fwynhad y cwsmer yn hytrach na diogelwch y staff.

Ar derfyn yr achos, dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn cymryd pob mater iechyd a diogelwch o ddifri. Bydd swyddogion yn ymchwilio i unrhyw wybodaeth a ddaw i law gyda golwg ar fynd â'r materion rheiny i'r llys.

Derbyniodd Swansea Audio Limited ddirwy o £66,000, gorchymyn i dalu £3,315 mewn costau ynghyd â gordaliad dioddefwr o £170.