Back
Cwblhau Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Newydd

Mae cynllun newydd ar waith er mwyn adnabod, blaenoriaethu a gwella Hawliau Tramwy tan 2030.

Mae gan Gaerdydd rwydwaith o tua 200km/124 milltir o lwybrau hawl tramwy trwy'r sir, yn cynnwys llwybrau cerdded a llwybrau marchogaeth ac mae'r rhan fwyaf yng ngogledd a gogledd orllewin Caerdydd.  Mae un rhan o dair o'r sir yn wledig ac mae pedwar cwm afon ac ager a ddiogelir, sef Afon Elái, Afon Taf ac afon lanw Rhymni a'r Nant Fawr.

Dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i gynnal Map Diffiniol yn dangos y Rhwydwaith Hawliau Tramwy, sy'n dangos yn amlwg y llwybrau ac yn sicrhau bod y llwybrau ar agor i'r cyhoedd eu mwynhau.

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori gyda'r cyhoedd er mwyn i ni allu deall eu blaenoriaethau ac o ganlyniad, mae rhestr o bum prif strategaeth a deuddeng prif nod wedi eu llunio dan y cynllun newydd.

Y 12 prif nod ydy:

 

  • Gwella rheoli a chynnal parhaus y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
  • Cynnal Map Diffiniol diweddar, sy'n dangos yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng Nghaerdydd.
  • Gwella ecosystemau Caerdydd ochr yn ochr â'r llwybrau.
  • Gosod marciadau ffordd ar hyd rhwydwaith yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus i helpu i'r cyhoedd ddod o hyd i'w ffordd.
  • Cynorthwyo Fforwm Mynediad Lleol Caerdydd a gweithio mewn partneriaeth â phartïon â diddordeb.
  • Nodi a gwella cysylltiadau strategol a hygyrchedd y rhwydwaith.
  • Gwella ac ehangu'r rhwydwaith marchogaeth.
  • Diogelu a gwella llwybrau yn y datblygiadau newydd ac ar dir preifat.
  • Gwella cyfathrebu â'r cyhoedd er mwyn iddynt allu adrodd am broblem ar y rhwydwaith.
  • Cynnal a gwella Llwybr Arfordir Cymru.
  • Gwella gwybodaeth am y llwybrau sydd ar gael, llefydd i ymweld â nhw, gweithgareddau awyr agored a digwyddiadau.
  • Hyrwyddo codau ymddygiad i'r cyhoedd barchu'r amgylchedd a defnyddwyr llwybrau eraill. 

Mae'r rhan fwyaf o'r rhwydwaith Hawliau Tramwy ar dir preifat felly bydd y cyngor yn gweithio gyda thir berchnogion i sicrhau camfeydd, gatiau a dodrefn eraill sydd mewn cyflwr teg at ddefnydd y cyhoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae cynnal a gwella Hawliau Tramwy yng Nghaerdydd at safon uchel yn brif flaenoriaeth gan y Cyngor yn ogystal â chreu cysylltiadau at fannau glas a llwybrau teithio actif i ragor o bobl eu defnyddio a mwynhau.

"Caiff cynlluniau eu cynhyrchu, a fydd yn nodi'r gwaith sy'n mynd rhagddo gan y Cyngor i gynnal y llwybrau. Mae hefyd nifer o brojectau trwy arian grant a fydd yn plethu â'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, yn cynnwys rhoi ôl-ofal i ailosod Llwybr Arfordir Cymru, arian ychwanegol ar gyfer llwybrau canfod y ffordd a chynnal a chadw, gweithio gydag awdurdodau partner i wella llwybrau ceffyl a beic mynydd hir yn ogystal â gweithio â sefydliadau i wella bioamrywiaeth a chynefinoedd."

 

Caiff y Cynllun Gweithredu cyntaf ei gyhoeddi yn 2020-2021 ac eglurir rhai o uchafbwyntiau'r gwaith hwn isod:

 

  • Creu arolwg a meini prawf cyflwr i flaenoriaethu'r cynnal a chadw parhaus sy'n angenrheidiol ac adnabod llefydd y mae angen gwella'r llwybrau. Cynhelir arolwg cyflwr ar yr holl rwydwaith er mwyn i ni allu deall pa mor hygyrch ydy'r rhwydwaith ac ym mhle mae angen gwneud rhagor o waith i agor y llwybrau er mwyn i'r cyhoedd eu mwynhau.
  • Cofnodi lleoliadau lle cafwyd chwyn ymledol ar y rhwydwaith llwybrau, megis Llysiau'r Dial a'r Ffromlys Chwarennog a monitro safleoedd dros gyfnod o dair blynedd i drin ac atal y chwyn rhag ymledu. 
  • Gweithio gyda datblygwyr a swyddogion y cyngor i wella'r rhwydwaith llwybrau fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol. Diogelu llwybrau presennol a'u hailosod lle mae angen er mwyn sicrhau eu bod yn aros yn y coridorau glas a'r mannau glas yn ogystal â chysylltiadau strategol at lwybrau teithio actif a chymunedau.
  • Cychwyn cynllunio dyluniad a ffordd fynediad at Lwybr Arfordir Cymru trwy Ffordd Lamby er mwyn rhoi'r llwybr yn agosach at yr arfordir. Bydd y project hwn hefyd yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â'r Grŵp Seilwaith Gwyrdd a'r Project Gwastadeddau Byw. 

Bydd Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Caerdydd 2020-30 ar gael i'w weld ar-lein ar wefan Cyngor Caerdydd o ganol mis Rhagfyr 2019 ac yna bydd ar gael i'r weld yn Neuadd y Sir, Neuadd y Ddinas a Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd.