Back
Caerdydd yn Dathlu 30 Mlynedd o Hawliau'r Plant ar Ddiwrnod Plant y Byd

Heddiw (dydd Mercher 20 Tachwedd), bu plant Caerdydd yn dathlu Diwrnod Plant y Byd, diwrnod blynyddol UNICEF ar gyfer plant yn gweithredu dros blant. Bu'r digwyddiad yn gyfle i blant a phobl ifanc ddod ynghyd i ddathlu'r cynnydd a wnaed i wella eu hawliau ac yn amlygu y gwaith mae angen ei wneud eto. 

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\CORPORATE COMMUNICATIONS\SOCIAL MEDIA\WCD 2019\Images and videos\Ninian.JPG

Eleni ydy'r 30ain blynedd ers Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a bu ysgolion ledled Caerdydd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau i goffau'r pen-blwydd arbennig.

Roedd rhai o'r uchafbwyntiau ar draws y ddinas yn cynnwys:

  • Cynhaliodd Ysgol Gynradd Parc Ninian Orymdaith Hawliau o'r ysgol.
  • Meddiannodd y disgyblion Ysgol Gynradd Coed Glas. Rhoddodd plant wersi, rhedeg y swyddfa a hyd yn oed goruchwylio'r athrawon yn ystod amser chwarae. 
  • Bu disgyblion Ysgol Pen y Groes yn cymryd rhan mewn diwrnod llawn o weithgareddau creadigol i ddangos beth yw Hawliau'r Plant i rieni a llywodraethwyr.

 

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\CORPORATE COMMUNICATIONS\SOCIAL MEDIA\WCD 2019\Images and videos\Meadowlane extra.JPG

Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio dod yn Ddinas sy'n Dda i Blant sydd wedi'i nodi yn y Strategaeth a lansiwyd y llynedd, gyda phum nod clir sy'n pennu sut dylid ymgorffori hawliau'r plant ac ennill statws Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF;

  • Caiff pob plentyn a pherson ifanc ei werthfawrogi, ei barchu a'i drin yn deg.
  • Rhoddir sylw i lais, anghenion a blaenoriaethau pob plentyn a pherson ifanc.
  • Mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei fagu mewn cartref diogel a chefnogol.
  • Caiff pob plentyn a pherson ifanc gyfle i dderbyn addysg o safon uchel sy'n hyrwyddo ei hawliau ac yn ei helpu i ddatblygu ei sgiliau a'i dalentau yn llawn.
  • Mae gan blant iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol da ac maen nhw'n gwybod sut i gadw'n iach

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\CORPORATE COMMUNICATIONS\SOCIAL MEDIA\WCD 2019\Images and videos\St Phillip Evans.jpg

Heddiw, mae 91 o ysgolion Caerdydd wedi cofrestru â Rhaglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF, gan ddangos eu cefnogaeth i helpu Caerdydd i ddod yn un o Ddinasoedd Cyntaf y DU sy'n Dda i Blant. 

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\CORPORATE COMMUNICATIONS\SOCIAL MEDIA\WCD 2019\Images and videos\Coed Glas\img_2342 (1).jpg

Mae'r rhaglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau yn cydnabod ysgol sy'n arfer hawliau'r plentyn ac yn creu man dysgu diogel, sy'n ysbrydoli, lle caiff plant eu parchu, eu talentau ei meithrin a lle gallant ffynnu.

#DiwrnodPlantyByd #CdyddSy'nDdaiBlant #AddysgCdydd