Back
Caerdydd 2030: Lansio gweledigaeth newydd i Addysg yng Nghaerdydd yn swyddogol

Cafodd gweledigaeth newydd i Addysg a Dysgu yng Nghaerdydd ei lansio ddoe, (Dydd Mawrth 19 Tachwedd) yn Neuadd y Ddinas.

Mae‘Caerdydd 2030 - gweledigaeth ddeng mlynedd ar gyfer Prifddinas o Ddysg a Chyfleoedd'yn adeiladu ar y cynnydd a'r hyn a gyflawnwyd ar draws system addysg y ddinas dros y pum mlynedd diwethaf, ers lansio Caerdydd 2020. Ei nod fydd parhau â'r gwelliannau hyn gyda chwmpas ehangach a mwy o uchelgais o ran dysg yng Nghaerdydd ar gyfer y dyfodol, gan gofleidio dysgu y tu hwnt i ddysgu mewn ysgolion statudol ffurfiol.Mae hefyd yn rhoi lles plant wrth wraidd y ddinas, gan gydnabod bod y canlyniadau i blant hefyd yn cael eu llunio y tu allan i'r ysgol.

 

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\PHOTOGRAPHY DIARY\2019-20 PHOTOGRAPHY DIARY\November 2019\Cardiff 2030\IMG_0384.JPG

Daeth y digwyddiad lansio â phlant a phobl ifanc, arweinwyr ysgolion, llywodraethwyr, athrawon a phartneriaid ynghyd o bob rhan o'r ddinas i ddathlu llwyddiant Caerdydd 2020, ac i rannu  dyheadau i'r dyfodol.

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\PHOTOGRAPHY DIARY\2019-20 PHOTOGRAPHY DIARY\November 2019\Cardiff 2030\IMG_0399.JPG

Roed yna farchnad ar gyfer arfer gorau o ran themâu a nodau'r weledigaeth, dwy seminar gan yr Athro Mick Walters, a sesiwn lawn dan arweiniad plant a phobl ifanc.

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\PHOTOGRAPHY DIARY\2019-20 PHOTOGRAPHY DIARY\November 2019\Cardiff 2030\IMG_0373.JPG

Yn ystod y digwyddiad, cyhoeddwyd mai Ysgol Feithrin Springwood oedd enillydd cystadleuaeth a ofynodd i blant a phobl ifanc greu darn o waith creadigol a fyddai'n cyfleu sut fath o Addysg y byddent yn dymuno ei weld yng Nghaerdydd yn 2030. Enillon nhw'r wobr gyntaf am eu ffilm ar Weledigaeth y Dyfodol. Yn agos iddynt yn y ras oedd Ysgol Gynradd Howardian, Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd, Ysgol Arbennig The Hollies ac Ysgol Uwchradd Fitzalan.

Mae partneriaeth ledled y Ddinas a hawliau Plant yn chwarae rhan allweddol yn Caerdydd 2030. gan gydnabod fod Addysg yn Bwysig i Bawb a bod Caerdydd ag uchelgais i fod yn Ddinas UNICEF sy'n Dda i Blant. Mae'n nodi'r weledigaeth uchelgeisiol, yn seiliedig ar ddwy thema, pum nod ac ymrwymiadau i'w blaenoriaethu.
 

Themâu:

  • Cyfrifoldeb a rennir dros addysg a dysgu ym mhob cwr o'r ddinas.
  • Cyfranogiad ystyrlon gan blant a phobl ifanc

Amcanion:

  1. Hawl i Ddysgu
  2. Iechyd a llesiant dysgwyr
  3. Cyflawni Cwricwlwm i Gymru 2022 yng Nghaerdydd
  4. Gweithlu addysg sydd gyda'r gorau yn y byd
  5. Amgylcheddau dysgu o safon uchel

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: ‘MaeCaerdydd 2030wedi ei ddatblygu i adeiladu ar y cynnydd arwyddocaol a wnaed ers lansio Caerdydd 2020, ac i roi llais i'r uchelgais ar gyfer y cyfnod nesaf o newid. Bydd sawl agwedd ar y drefn addysg yn 2030 yn edrych yn wahanol iawn, ac mae angen cryn dipyn o arloesi er mwyn sicrhau y bydd addysg yng Nghaerdydd yn gwasanaethu ein dysgwyr i gyd ac yn ymateb i newidiadau cymdeithasol, economaidd a thechnolegol.

Mae "Addysg yng Nghaerdydd ar flaen y gad o ran blaenoriaethau i'r ddinas gan gyfrannu at yrru economi Caerdydd yn ei flaen a gwneud y ddinas yn lle gwych i fyw, gweithio, astudio ac i ymweld â hi. Cafwyd ffocws parhaus ar wella a buddsoddi mewn addysg a helpu pobl ifanc, yn arbennig y rheini o gymunedau difreintiedig,   i mewn i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.

"Mae cyflawni ar gyfer pob plentyn o bob cefndir yn hynod bwysig, ac mae Caerdydd 2030 yn cefnogi addewid Caerdydd i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant, sy'n rhoi pobl ifanc wrth galon penderfyniadau ac sy'n parchu lleisiau, anghenion a hawliau plant a phobl ifanc."

Mae datblygiad Caerdydd 2030 yn dilyn ymgysylltu rhanddeiliol helaeth ag ystod o bartneriaid gan gynnwys plant a phobl ifanc ac arweinwyr ysgol, llywodraethwyr ac ystod eang o bartneriaid y ddinas.