Defnyddiodd yr ymgyrch, a gynhaliwyd gan Croeso
Caerdydd ac Awdurdod Harbwr Caerdydd, ddigwyddiadau
a rhwydweithiau sefydledig y tîm fel llwyfannau ar gyfer ymgysylltu â busnesau
hamdden a thwristiaeth ac ymwelwyr, gan helpu i'w hysbrydoli i wneud newidiadau
amgylcheddol cadarnhaol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a
Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r tîm yn Awdurdod Harbwr
Caerdydd yn casglu tua 500 tunnell o sbwriel - y mae llawer ohono'n blastig - o
Fae Caerdydd bob blwyddyn, felly mae lleihau gwastraff plastig yn fater sy'n
agos i'n calon ni, fel y cyhoedd.
"Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth wych i'r
gwaith ry'n ni wedi bod yn ei wneud i rannu ein profiadau gyda'r sector a helpu
i wneud twristiaeth a digwyddiadau yng Nghaerdydd yn fwy cynaliadwy."
Un o uchafbwyntiau'r ymgyrch
oedd y Lolfa Eco - a grëwyd ar gyfer safle Ras Fôr Volvo i dynnu sylw at yr
amrywiaeth o sbwriel a phlastig sydd ym Mae Caerdydd - a oedd yn cynnwys dodrefn
wedi'u huwchgylchu a wnaed â gweddillion a sbwriel a gasglwyd gan Griw Cwch yr
Awdurdod Harbwr ym Mae Caerdydd - a'r cwbl wedi'u gwneud gan saer coed lleol.
Gwobrau Balchder CIPR yw'r gwobrau Cysylltiadau
Cyhoeddus arweiniol yn y rhanbarth, yn cydnabod arweinwyr yn y diwydiant yng
Nghymru a'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud.