Mae'r gwniadur arian a ddarganfuwyd ym
Mhentyrch ym mis Ionawr 2017, ag arysgrif ‘I AM YOUVRS' (Rwy'n perthyn i ti),
sy'n dangos mai anrheg i rywun annwyl oedd ef.
Dywedodd Rheolwr yr Amgueddfa, Victoria Rogers:
"Bu gwniaduron o'r fath yn boblogaidd gyda'r boneddigion yn ystod y 17eg
ganrif a byddent wedi bod yn gyffredin bryd hynny.
"Prin iawn y dowch o hyd iddyn nhw y
dyddiau hyn - yn ystod y rhyfel cartref, bu menywod oedd yn cefnogi ochr y
Senedd yn eu rhoi i'r achos yn aml a byddent yn cael eu toddi i ddefnyddio'r
arian at ddibenion eraill."
Datganwyd bod y gwniadur sydd wedi colli ei ben
cromennog yn ‘drysor' gan y Dirprwy Grwner ar gyfer Canolbarth De Cymru, Ms
Rachel Knight yn gynharach yr wythnos hon a bydd yn cael ei brisio gan yr
Amgueddfa Brydeinig cyn cael ei roddi i Amgueddfa Caerdydd i'w arddangos yn y
flwyddyn newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod
Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: "Mae Amgueddfa Caerdydd yn cyflwyno
hanes pobl sydd wedi byw, gweithio a chwarae yng Nghaerdydd dros y canrifoedd a
bydd y gwniadur hwn yn helpu i roi goleuni newydd ar yr hyn a arferai ddigwydd
yn y 17eg ganrif.
"Mae'n ddarn pwysig iawn i'r amgueddfa -
dyma fydd gwrthrych trysor cyntaf yr amgueddfa ond hefyd bydd ymhlith ychydig
eitemau'r amgueddfa sy'n dyddio cyn oes Fictoria, gan ei wneud yn gyfle
arbennig i ehangu'r stori mae'r amgueddfa yn ei dweud am Gaerdydd."
Dywedodd Dr Rhianydd Biebrach, sef Swyddog
Project ‘Achub Trysorau; Adrodd Straeon' a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y
Loteri Genedlaethol; ac a helpodd yr amgueddfa i gael y gwniadur hwn: "Mae
project Achub Trysorau; Adrodd Straeon yn ddiolchgar i'r person a ddaeth o hyd
i'r gwrthrych trysor hwn am fod yn unigolyn cyfrifol ac adrodd am ei
ddarganfyddiad a all fynd nawr yn yr arddangosfa leol, yn y gymuned lle y
darganfuwyd.
"Rydym yn annog pob datguddiwr metel i
gofnodi ei ddarganfyddiadau gyda Chynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru, er mwyn
gwneud yn siŵr na chaiff y wybodaeth a ddarperir gan y gwrthrychau hyn ei
cholli."
Diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri
Genedlaethol, mae Amgueddfa Caerdydd â'r gallu nawr i baru pob rhodd a wneir £1
am £1. I gefnogi'r amgueddfa ewch i:https://cardiffmuseum.com/cy/986-2/