Back
Ysgol Gynradd Marlborough yn dychwelyd i 1939

Cyrhaeddodd disgyblion Ysgol Gynradd Marlborough, y Rhath, yr ysgol ddoe, dydd Llun 30 Medi, a chanfod ei bod wedi camu yn ôl i 1939.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Marlbough\WW2 Event\Marlborough WW2 Immersion day - 052.jpg

Roedd y digwyddiad, a lansiodd broject hanes Ail Ryfel Byd pedair wythnos o hyd, yn cynnwys disgyblion o bob rhan o'r ysgol mewn diwrnod trochi amlsynhwyraidd lle cafodd y plant brofiad gwirioneddol o fywyd yn ystod y rhyfel.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Marlbough\WW2 Event\Marlborough WW2 Immersion day - 018.jpg

Cymerodd y plant ran mewn llu o weithgareddau a gyflwynwyd gan bartneriaid allanol, gan gynnwys Gweithdy The Firing Line, Amgueddfa Caerdydd a grŵp theatr Ail Ryfel Byd.Cafodd yr ysgol ei gwisgo mewn propiau dilys, ac aeth bws hen ffasiwn â'r plant ar daith o amgylch tiroedd yr ysgol lle gwnaethant ymweld ag Amgueddfa Marlborough a roddwyd at ei gilydd gan oedolion lleol a disgyblion.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Marlbough\WW2 Event\Marlborough WW2 Immersion day - 026.jpg

Ar y diwrnod dywedodd Geraldine Foley, Pennaeth yr ysgol:"Roeddwn wrth fy modd bore ddoe yn gweld y plant yn cyrraedd drwy ddrysau'r ysgol wedi eu gwisgo yn eu gwisgoedd ardderchog o adeg y rhyfel!

"Mae Tîm Marlborough wedi gweithio'n galed gyda chefnogaeth cynifer o grwpiau cymunedol lleol i weddnewid yr ysgol ar gyfer y profiad trochi hwn ar gyfer y plant.  Rydym yn ffyddiog y bydd profiad heddiw yn ysbrydoli ein disgyblion o ddifrif a bydd yn sbarduno brwdfrydedd ynddynt fydd yn parhau i ysgogi eu dysgu drwy gydol y project hanes yr haner tymor hwn!"

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Marlbough\WW2 Event\Marlborough WW2 Immersion day - 127.jpg

Mae'r project £10,000, a ariennir drwy The Foyle Foundation, yn rhoi cyfle i'r ysgol dreialu dysgu yn unol â'r cwricwlwm newydd ac yn hyrwyddo dysgu a arweinir gan ddisgyblion. Bydd y plant yn cael dewis i ba gyfeiriad yr aiff y dysgu drwy weddill y pwnc. 

Er mwyn dod â storïau go iawn yn fyw, mae'r gwaith cynllunio ar gyfer y digwyddiad wedi cynnwys gweithio gyda grwpiau hanes, Archifau Morgannwg a chysylltu â phobl a oedd yn byw yn yr ardal ar y pryd neu a gafodd eu hanfon fel faciwîs i Ysgol Gynradd Marlborough neu ohoni i leoliadau eraill.

Cafodd yr ysgol ei dinistrio'n rhannol yn y blitz a chafodd adroddiadau o lyfrau cofnod gwreiddiol yr ysgol yn dyddio yn ôl i 1939 hefyd eu defnyddio i ysbrydoli gweithgareddau'r diwrnod.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae ysgolion yn rhan bwysig o'u cymunedau a dyma enghraifft arbennig o ysgol sy'n gweithio gyda phobl leol i ddod â'i hanes yn fyw wrth edrych ar bwnc ehangach yr Ail Ryfel Byd.

"Mae hon yn ffordd eithriadol o addysgu ac ysbrydoli plant a does dim dwywaith amdani, caiff ysgolion eraill hefyd eu hysbrydoli gan y project hwn.  Da iawn i'r Pennaeth a'r staff cyfan yn Ysgol Gynradd Marlborough am eu gwaith caled a'u brwdfrydedd, sydd yn sicr wedi dwyn ffrwyth."

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Marlbough\WW2 Event\Marlborough WW2 Immersion day - 041.jpg

Bydd y project yn cynnwys gwefan a fydd yn agored i bawb ar ôl i'r project ddod i ben.

#MarlboroughRhaginianghofio