Back
Rhannwch eich safbwyntiau ar wasanaethau cyhoeddus

 

Mae'r arolwg blynyddol sy'n rhoi'r cyfle i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd i rannu eu safbwyntiau gyda'r Cyngor am wasanaethau cyhoeddus yn y ddinas yn lansio'r wythnos nesaf.

 

Bob blwyddyn, mae'r arolwg Holi Caerdydd yn casglu barn pobl am y ddinas a'i gwasanaethau i helpu'r Cyngor i ddeall yn well sut mae'n perfformio ac os gellir gwella unrhyw beth. 

 

Mae Holi Caerdydd 2019 yn cynnwys amrywiaeth o bynciau gan gynnwys safon y gwasanaethau yn y ddinas, pa mor fodlon yw pobl â'u cymuned fel lle i fyw, eu safbwyntiau o ran swyddi, yr economi a'r amgylchedd lleol yn ogystal â diogelwch cymunedol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:"Mae'r Cyngor yn cynnal nifer o ymgynghoriadau gydol y flwyddyn ar amrywiaeth o faterion ond Holi Caerdydd yw'r cyfle blynyddol i bobl sy'n gweithio, yn byw neu'n ymweld â Chaerdydd i rannu eu barn gyda ni am y ddinas a'r gwasanaethau, yn gyffredinol. Dyma ein baromedr blynyddol o farn y cyhoedd ac mae'r wybodaeth a gesglir yn dangos i ni sut mae ein cwsmeriaid yn credu yr ydym yn perfformio.

 

"Mae'n bwysig ein bod yn clywed gan amrywiaeth o bobl o bob rhan o'r ddinas.Cawsom ymateb da iawn i'r arolwg y llynedd ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn defnyddio'r cyfle hwn i rannu eu barn gyda ni unwaith eto er mwyn i ni allu defnyddio'u safbwyntiau i lunio'r ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu yng Nghaerdydd."

 

Mae'r arolwg Holi Caerdydd yn agor ddydd Llun 16 Medi ac yn cau ddydd Sul 24 Tachwedd.  Mae'n cymryd tua 10 munud i'w gwblhau a gellir ei gwblhau ar-lein arhttps://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=156759210323Mae copïau papur hefyd ar gael mewn hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas lle gallwch hefyd ddanfon eich arolygon ar ôl eu cwblhau.

 

Mae'r rheiny sy'n ymateb i'r arolwg hefyd yn cael y cyfle i fod yn rhan o raffl wobr i ennill dau docyn i gyngerdd Lewis Capaldi yn Arena Motorpoint ym mis Mawrth 2020, £30 o dalebau Love2Shop a £20 o dalebau Love2Shop.