Back
Lansio’r Platfform yng Ngorsaf Reilffordd Bae Caerdydd

Mae adeilad tirnod rhestredig Gradd II oedd ar restr 10 o adeiladau mwyaf bregus y Gymdeithas Oes Fictoria wedi'i arbed ym Mae Caerdydd.

 Dyluniwyd yr adeilad gan Isambard Kingdom Brunel ac roedd yn gartref i'r gwasanaeth trenau ager cyntaf yng Nghymru, a agorodd ym mis Hydref 1840, cyn dod yn brif swyddfa Rheilffordd Taf a'r Fro tan 1862.

Ers peth amser, mae'r adeilad wedi bod yn segur gyda byrddau ar y ffenestri, ac yn hyllbeth ym Mae Caerdydd, ond mae bellach wedi'i drawsffurfio o ganlyniad i fenthyciad o £1m sydd wedi'i ariannu gan Fae Caerdydd, mewn partneriaeth â Chynllun Benthyciadau Canol Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae'r adeilad wedi cael ei drawsffurfio yn 23 uned swyddfa - y bydd modd eu rhentu ar brydles ar sail tymor byr - gyda chynlluniau pellach ar gyfer caffi a bar coctels fydd yn agor ym mis Gorffennaf.

Mae'r project adfywio wedi'i gynnal gan y datblygwr penigamp a adfywiodd y Tramshed yn Grangetown, sef Loftco.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Russell Goodway: "Rwy'n falch iawn y bu modd i‘r Cyngor chwarae rhan allweddol wrth adfer ac adfywio adeilad rhestredig Gradd II yn Butetown. Bydd ysbryd newydd i'r adeilad, gan gynnig lle dechrau busnes o safon i ategu cynnig busnes bywiog sydd eisoes yn bodoli ym Mae Caerdydd."

Dywedodd Simon Baston, Rheolwr Gyfarwyddwr Loftco: "Ar y cyd â Chyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, mae Loftco yn falch o fod wedi trosi un o adeiladau mwyaf pwysig a deniadol Caerdydd, gan gynnig lle hanfodol i fusnesau newydd yng Nghaerdydd. 

"Gyda'i statws rhestredig, mae Loftco wedi llwyddo i ddefnyddio dull sympathetig wrth ymdrin â thirnod oedd mewn cyflwr gwael iawn. Mae'r unedau modern wedi cael eu prydlesu'n llwyddiannus, ac edrychwn ymlaen at agor y caffi fydd yn cynnig amrywiaeth eang o fwyd stryd i'r cyhoedd ei fwynhau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, Hannah Blythyn AC: "Mae'n wych gweld sut mae'r Cynllun Benthyciadau Canol Trefi wedi'i ddefnyddio i helpu i adfywio'r adeilad hanesyddol hwn. Rhywbeth sy'n bwysig yw bod y cyllid hwn yn cael ei ailgylchu nôl i'r gymuned leol, a phan fydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu, gellid ei ddefnyddio i adfer defnydd ar ragor o safleoedd ac eiddo gwag nad ydynt yn cael eu defnyddio'n aml mewn canol trefi."